Cyn dod yn Fentor Cymheiriaid Egin, bu Elfed yn gweithio i’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a Llywodraeth Cymru, gan gefnogi awdurdodau lleol a sefydliadau eraill yn eu hymdrechion i ddatgarboneiddio trafnidiaeth. Yma mae’n trafod sut y gallai sector trafnidiaeth y DU gyrraedd targed di-garbon 2050.

Mae gan lywodraeth y DU ymrwymiad cyfreithiol i gyflawni sero net erbyn 2050. Er mwyn cyflawni hyn mae wedi mabwysiadu nifer o bolisïau a chynigion ar gyfer datgarboneiddio pob sector o’r economi gan gynnwys y sector trafnidiaeth.
Yr ydym eto i glywed sut fydd y polisïau a’r cynigion hyn yn newid o dan y llywodraeth Llafur newydd yn San Steffan, ond am y tro mae y polisiau presennol yn parhau yn eu lle.
Beth all grwpiau cymunedol ei wneud?
O ystyried bod Egin yn grymuso grwpiau a sefydliadau i wneud newidiadau ar lefel gymunedol, byddaf yn dechrau y post hon gan drafod rhai syniadau am yr hyn y gall grwpiau cymunedol ei wneud i helpu gyda’r symudiad tuag at ddatgarboneiddio:
- Yn gyntaf, os oes gennych gerbydau, meddyliwch pa mor ymarferol fyddai eu newid i gerbydau trydan.
- O ran unrhyw staff yr ydych yn eu cyflogi, a oes ffyrdd i’w cefnogi yn eu hawydd i redeg cerbydau trydan—trwy gynllun aberthu cyflog, er enghraifft, neu drwy ddarparu pwyntiau gwefru mewn lleoliad gwaith ar gyfer y gweithwyr hynny nad oes ganddynt i parcio oddi ar y stryd neu le i wefru cerbyd trydan yn eu cartrefi.
- Efallai bod gennych chi le i barcio yng nghanol y dref neu adeilad gyda phaneli solar. A allech chi gynnig cyfleuster gwefru am gost is ar gyfer pobl leol (a staff) yn eich maes parcio a thrwy eich system solar?
- Unwaith eto, gan feddwl am y gymuned ehangach, a ydych mewn sefyllfa i gychwyn, neu gyfrannu at, glwb ceir neu raglen drafnidiaeth gymunedol sy’n seiliedig ar gerbydau trydan?
- Wrth helpu’r rhai sydd ag opsiynau trafnidiaeth cyfyngedig, mae gan hyn hefyd y fantais o roi cyfle i bobl sydd â’r gallu a’r diddordeb i fuddsoddi mewn cerbyd roi cynnig ar EV.
- Trwy ddewis opsiynau cerbydau gwyrddach rydych yn anfon neges i’r gymuned am eich blaenoriaethau a hefyd yn modelu arferion trafnidiaeth mwy cynaliadwy.
Sut all y sector drafnidiaeth gael ei ddatgarboneiddio?
Mae nifer o wahanol ffyrdd y gallai’r sector trafnidiaeth gael ei ddatgarboneiddio. Gallwn ganolbwyntio ar sut rydym yn rhedeg cerbydau (symud oddi wrth betrol a disel i danwydd llai carbon-ddwys); gallwn ganolbwyntio ar sut rydym yn cynhyrchu cerbydau (i leihau llwyth carbon wrth eu cynhyrchu); a gallwn ganolbwyntio ar newid patrymau defnydd fel bod llai ohonom mewn ceir (mwy o feicio, cerdded, a thrafnidiaeth gyhoeddus).
Mae cynlluniau llywodraeth y DU yn adlewyrchu ffafriaeth ar gyfer y dull blaenorol, gan ganolbwyntio ymdrechion ar symud i ffwrdd o gerbydau tanwydd ffosil (ICE) i gerbydau trydan (EVs). Mae targedau Llywodraeth y DU yn y sector trafnidiaeth yn cynnwys:
- rhoi terfyn ar werthu pob cerbyd tanwydd ffosil (heblaw am HGV) erbyn 2035
- dod â gwerthu cerbydau HGV sy’n defnyddio tanwyddau ffosil i ben erbyn 2040 fan bellaf
- sicrhau y bydd holl fflydoedd ceir a faniau’r llywodraeth yn gwbl drydanol erbyn 2027
Mae’r cynlluniau hyn yn rhagweld yr un patrwm defnydd o drafnidiaeth â heddiw ond gyda cherbydau trydan yn hytrach na disel a phetrol. Mae’n ymddangos bod cynlluniau llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar newid patrymau defnydd presennol (yn hytrach na ffafrio mond newid math o geir ar ei ffyrdd) drwy:
- gwneud teithio llesol yn ddewis ar gyfer teithiau byr
- gwella trafnidiaeth gyhoeddus integredig – trenau a bysiau
- cyfyngy trafnidiaeth i 20mya mewn ardaloedd preswyl
- gweithredu strategaeth gwefru cerbydau trydan i fynd i’r afael â diffygion gwefru ty hwnt i’r cartref
Gellir disgrifio targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth ffyrdd yn unol â fframwaith “osgoi-newid-gwella”: hynny yw, osgoi teithio diangen (drwy weithio o bell, er enghraifft), symud i ddulliau llai carbon-ddwys, a gwella effeithlonrwydd ynni.
Pam Cerbydau Trydan? Sut maen nhw’n lleihau carbon?
Caiff allyriadau eu mesur mewn cilogramau o garbon deuocsid cyfwerth, neu “kgCO2e”. (Mae’r “cyfwerth” yma yn cyfeirio at y ffaith bod yna nwyon eraill ar wahân i garbon deuocsid sy’n achosi newid hinsawdd ac mae’r mesur hwn yn caniatáu i ni gynnwys yr holl nwyon hyn mewn llaw-fer ddefnyddiol). Mae petrol yn allyrru 2.1kgCO2e y litr, a diesel 2.51 kgCO2e y litr. Mae maint y car, milltir-y-galwyn ac yn y blaen yn effeithio ar effeithlonrwydd ond ar gyfartaledd mae ceir yn allyrru 0.27332 kgCO2e y filltir.
Mae allyriadau cerbydau trydan hefyd yn dibynnu ar faint, effeithlonrwydd ac yn y blaen. Gallai cerbydau trydan cyffredin deithio 3 milltir fesul cilowat awr o drydan . Mae un cilowat o drydan grid yn allyrru 0.207047 kgCO2e . Dylai cerbydau trydan cyffredin allyrru tua 0.0691 kgCO2e fesul milltir a deithiwyd, tua chwarter y car tanwydd ffosil cyfartalog cyfatebol, ac os byddwch yn gwefru’r car oddi ar baneli solar ar eich adeiladau, mae hyn i bob pwrpas yn dod yn 0 kgCO2e y filltir.
Mae hyn yn swnio’n gadarnhaol iawn, ac yn wir y mae. Ond dylem gofio nad yw cerbydau trydan yn ddi-garbon. Yn wir, ar hyn o bryd, mae cost carbon adeiladu cerbydau trydan newydd yn fwy nag adeiladu car petrol neu ddisel.
Cyfnodau “ad-dalu carbon” yw’r amser y mae’n ei gymryd i EV allyrru llai o garbon na cherbyd petrol. Oherwydd ei allyriadau cynhyrchu mwy – yn amrywio yn ôl model – mae cyfnod o amser lle mae allyriadau cerbyd electrig yn fwy na allyriadau cerbyd petrol neu disel.
Ond, wrth cael ei ddefnyddio mae pob milltir a trafeilwyd mewn cerbyd electrig (yn hytrach na cerbyd petrol) y safio allyriadau, a rheol dda yw bod cerbydau trydan yn arbed carbon (wrth eu gymharu a cerbyd tanwydd ffosil) ar ôl tua 12-15,000 o filltiroedd (mae gyrrwr cyfartalog y DU yn teithio tua 7400 milltir y flwyddyn). Os yw hyn yn swnio’n gymhleth, edrychwch ar y graff isod.

Mae’r ffigurau hyn yn seiliedig ar:
- Allyriadau a gynhyrchwyd gan adeiladu gerbyd trydan o 8.8 tunnell kgCO2e
- Allyriadau gweithgynhyrchu car tanwydd ffosil o 5.6 tunnell kgCO2e
- Y ddau gar yn gyrru 7400 milltir y flwyddyn – y pellter cyfartalog presennol mae ceir yn y DU yn trafeilio bob blwyddyn
Mae’n werth ystyried “effeithlonrwydd tu ol i’r olwyn” wrth edrych ar y ffigurau hyn. Wrth gyfri allyriadau petrol a disel, rydym yn mesyr yr hyn a ddaw allan o gefn y cerbyd wrth eu yrru. Mae allyriadau yn ystod tynny olew o’r ddaear, ei prosesu mewn i ffyrf addas ar gyfer ei ddefnyddio mewn cerbydau, a chludo tanwydd fel petrol a disel i’r gorsaf betrol ddim wedi’u cynnwys yn y ffigur allyriadau hyn.
Mae allyriadau cerbydau trydan yn “Well to Wheel” – o orsaf bŵer neu fferm wynt i ddefnydd gwirioneddol ar y ffordd . Felly, mae allyriadau EV yn is na’r rhai a ddangosir yn y graff, o’u gymharu a wir allyriadau cerbyd sydd yn rhedeg ar danwydd ffosil.
Bydd y blog yma yn parhau yn Rhan 2


Comments are closed.