Cymuned Ar-lein Egin

Un o’n nodau ydy adeiladu cymuned ar draws Cymru – grwpiau lleol sy’n cysylltu â’i gilydd i rannu eu gweledigaethau, eu syniadau a’r gwersi mae nhw wedi eu dysgu ar hyd y ffordd.

Fel rhan o’r rhaglen Egin rydym wedi creu y Gymuned Ar-lein Egin, platfform lle gall y grwpiau rydym yn eu cefnogi, ein Mentoriaid a staff, ac unrhyw grŵp, sefydliad neu elusen sy’n gweithio gyda taclo newid hinsawdd yn y gymuned.

Fel rhan o’r Gymuned Ar-Lein, cewch ddysgu mwy am brosiectau eich gilydd, cael eich hysbrydoli gan ddarganfod beth arall sy’n digwydd o gwmpas Cymru, trafod problemau ac atebion, a chwrdd â phobl yn eich ardal. Mae’r Gymuned Ar-lein Egin hefyd yn caniatáu ichi rannu’ch lluniau a’ch fideos, creu digwyddiadau a gwahodd eraill, darganfod pa brosiectau a sefydliadau sy’n digwydd o’ch cwmpas, a dechrau trafodaethau newydd am bynciau sy’n agos at eich calon.

Os ydych chi eisoes yn rhan o’r rhaglen Egin, (darllenwch fwy amdani yma), cewch eich gwahodd i’r platfform gan eich Hwylusydd. Yna byddwch hefyd yn cael mynediad i ofod breifat lle gall eich grŵp drafod, trefnu a gweithio ar eich Cynlluniau Gweithredu. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r rhaglen Egin, dysgwch fwy am sut i gymryd rhan yma.

Hyd yn oed os nad ydych yn cael eich cefnogi gan y rhaglen Egin, gallwch wneud cais i ymuno â’r Gymuned Ar-lein Egin a chymryd rhan mewn trafodaethau trwy glicio ar: http://egin.community a gofyn am ymuno – cewch eich derbyn os ydych yng Nghymru neu’n agos, ac yn gwneud rhywbeth gyda newid hinsawdd a chynaliadwyedd yn y gymuned.

Mae’r platfform ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Skip to content