Gwnewch gais i fod yn Fentor Cymheiriaid

Allech chi fod yn un o’n Mentoriaid Cymheiriaid?

Cliciwch yma i lawrlwytho ein pecyn cais

Rydym yn chwilio am bobl gyda:

  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol;
  • Profiad o weithredu cymunedol llwyddiannus ar newid hinsawdd neu gynaliadwyedd ac awydd i rannu hyn ag eraill;
  • Llythrennedd cyfrifiadurol, gan gynnwys profiad o Microsoft Office a fforymau ar-lein;
  • Y gallu i deithio i ymweld â grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol yn eich rhanbarth o Gymru, gyda thrwydded yrru ddilys a defnydd o gerbyd, sydd ar gael ac wedi’i yswirio at ddefnydd busnes;
  • Y gallu i weithio yn achlysurol gyda’r nos, ar benwythnosau ac i aros oddi cartref dros nos, gyda rhybudd ymlaen llaw;
  • Y gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg (ysgrifenedig a llafar) – dymunol ond ddim yn hanfodol.
  • Bydd angen i chi fod yng Nghymru, neu allu cyrraedd rhannau o Gymru yn hawdd.

Yn benodol, rydym ar hyn o bryd yn chwilio am bobl sy’n bodloni un neu fwy o’r canlynol:

  • wedi eu lleoli yng Ngogledd neu Ganolbarth Cymru
  • yn siarad Cymraeg
  • gyda phrofiad mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol: ynni adnewyddadwy, trafnidiaeth, gwastraff, EVs/EVCP

Os ydy hyn yn swnio fel chi, darllenwch ymlaen…

Mentoriaid Cymheiriaid ar y rhaglen Egin

Mae Mentoriaid Cymheiriaid Egin yn aelodau o’r gymuned sydd â phrofiad personal, uniongyrchol o weithredu ar newid hinsawdd a chynaliadwyedd ar lefel leol. Maent yn barod i rannu eu gwybodaeth a’u sgiliau i gefnogi a grymuso grwpiau cymunedol eraill i gyrraedd eu nodau.

Eu rôl ydy cefnogi, grymuso a datblygu gallu grwpiau cymunedol, gan gynnwys y rhai heb unrhyw brofiad blaenorol o weithio ar newid hinsawdd neu faterion amgylcheddol. Maen nhw’n gweithio gyda grwpiau fel cyfoedion, gan rannu eu profiad a’u harbenigedd i helpu’r grwpiau hynny i gymryd eu camau cyntaf (neu nesaf) ar newid hinsawdd a chynaliadwyedd.

Cyn gwahodd Mentoriaid Cymheiriaid i weithio gyda grŵp penodol bydd Hwylusydd wedi cefnogi’r grŵp hwnnw i nodi cyfleoedd posibl ar gyfer gweithredu ac i gynhyrchu cynllun gweithredu rhagarweiniol. Mae’r cynllun gweithredu hwn yn pennu pa fath o gymorth mentor sydd ei angen (os o gwbl) ac mae’r Hwylusydd wedyn yn helpu’r grŵp i ddewis y mentor mwyaf priodol.

Mae Mentora Cymheiriaid yn rhaglen Egin yn golygu:

  • Darparu gwybodaeth, cefnogaeth ac ysbrydoliaeth briodol i grwpiau sydd angen y wybodaeth, sgiliau ac arbenigedd penodol sydd gennych, yn seiliedig ar eich profiad o weithio ar lefel gymunedol;
  • Cefnogi grwpiau cymunedol i gymryd camau sylweddol tuag at gyflawni’r camau blaenoriaeth y maent wedi’u nodi yn eu cynllun gweithredu. Gall hyn gynnwys helpu grŵp i baratoi ar gyfer eu cais i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am Grant Camau Cynaliadwy Cymru – Egin;
  • Diweddaru Cynlluniau Gweithredu’r grwpiau rydych yn gweithio gyda nhw, gan grynhoi eich cyfranogiad a’ch mewnbwn;
  • Hwyluso ac ysgogi gwaith y grŵp, gan sicrhau bod y grŵp bob amser yn rheoli eu prosiect;
  • Os ydych yn darparu unrhyw adroddiad ysgrifenedig i’r grŵp, i ddefnyddio’r templed safonol a ddarparwyd gan DTA Cymru;
  • Cyfeirio’r grŵp at unrhyw asiantaethau, sefydliadau a gwasanaethau cymorth eraill y tu hwnt i’r rhai a nodwyd eisoes yn eu cynllun gweithredu, a allai eu cynorthwyo i gyflawni eu hamcanion (ac ychwanegu’r rhain at y cynllun gweithredu);
  • Dysgu gan y grŵp a rhannu y profiad hwn yn ôl gyda thîm y rhaglen a’ch sefydliad cynnal os yw’n berthnasol;
  • Cofnodi eich gwaith a chynnydd y grŵp yn y Ddogfen Aseiniad Mentor a ddarparwyd a rhannu’r wybodaeth yma yn ôl gyda’r Hwylusydd a thîm rheoli’r rhaglen gan ddefnyddio’r Cymuned Ar-lein Egin;
  • Mynychu o leiaf 3 awr o gyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP/CPD) DTA Cymru bob blwyddyn sy’n briodol i chi a’ch gwaith. Mae’r rhain am ddim i holl Fentoriaid DTA (ni fyddech yn gallu codi tâl am yr amser hwn);
  • Cymryd rhan mewn trafodaethau a myfyrdodau perthnasol ar lwyfan cydweithredu ar-lein Egin a digwyddiadau personol o fewn paramedrau y cytunwyd arnynt.

 

Nid yw’n golygu:

  • Darparu gwasanaeth ymgynghori neu gyngor proffesiynol cymorthdaledig – e.e. gwneud argymhellion penodol ar faterion a allai gael canlyniadau cyfreithiol, technegol neu ariannol sylweddol, gan gynnwys cynllunio. Hyd yn oed os ydych yn gymwys yn bersonol i ddarparu gwasanaeth ymgynghori a chyngor o’r fath, ni fyddwch yn ei gynnig drwy’r rôl Mentora Cymheiriaid hon.
  • Cyflawni gwaith y grŵp ar eu cyfer – e.e. er y gallech fod yn rhan o helpu grŵp i ddrafftio cais am gyllid neu gynllun busnes, dylunio digwyddiad, neu benderfynu beth i’w blannu yn eu gardd, nid eich lle chi fel mentor cymheiriaid yw ysgrifennu’r ddogfen, rhedeg y digwyddiad neu gynnal y digwyddiad neu’r plannu drostyn nhw.

Pethau pwysig i’w gwybod:

Gall Mentoriaid Cymheiriaid naill ai ymrwymo i gontract uniongyrchol gyda DTA Cymru, neu gael eu “cynnal” gan sefydliad di-elw y maent naill ai’n gyflogedig neu â chysylltiad gwaith ag ef.

Ar gyfer Mentoriaid Cymheiriaid a gontractir yn uniongyrchol, telir cyfradd o £250 fesul diwrnod 7 awr am y gwaith a wneir i DTA Cymru o dan y rhaglen hon.

Ar gyfer Mentoriaid Cymheiriaid a gynhelir gan sefydliad, telir cyfradd o £300 fesul diwrnod 7 awr i’r sefydliad sy’n cynnal y rhaglen am y gwaith a wneir i DTA Cymru o dan y rhaglen hon.

Mae’r cyfraddau hyn yn cynnwys TAW ac unrhyw gostau cysylltiedig gan gynnwys teithio. Mae’r oriau yn hyblyg.

Rhaid i naill ai’r Mentor Cymheiriad (os yw wedi’i gontractio’n uniongyrchol) neu gan y sefydliad sy’n cynnal y cynllun (os yw’n cael ei gynnal) gael yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus.

Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd Mentor Cymheiriaid penodol yn derbyn unrhyw aseiniadau i gefnogi grŵp yn uniongyrchol. Mae’r rhaglen yn cael ei harwain gan alw ac yn ymateb i geisiadau sy’n dod i’r amlwg. Fodd bynnag, fel aelod cymeradwy o’r gronfa fentora mae croeso i chi gymryd rhan mewn rhai gweithgareddau sy’n rhan o’r rhaglen p’un a ydych wedi cefnogi grŵp yn uniongyrchol ai peidio.

Rhaglenni Eraill DTA Cymru

Mae Mentoriaid Cymheiriaid wrth galon yr hyn a wnawn yng Nghymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu (DTA) Cymru. Mae ein mentoriaid cymheiriaid yn cefnogi, grymuso a datblygu gallu grwpiau cymunedol i gyrraedd eu nodau.

Ar wahân i Egin, mae DTA Cymru hefyd yn darparu rhaglen Busnes Cymdeithasol Cymru (mewn partneriaeth â Chwmpas ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru), y Gronfa Perchnogaeth Cymunedol, ac mae rhaglenni eraill ar y gweill gyda ni.

Os yw’ch sgiliau’n addas ar gyfer un neu fwy o’r rhaglenni eraill hyn, yna efallai y cewch eich gwahodd i fod yn fentor ar y rhaglenni yma hefyd. Os byddwch yn derbyn, bydd gofyn i chi fynychu sesiwn sefydlu ar-lein sy’n benodol i’r rhaglen honno. Ni fydd angen arwyddo cytundeb ar wahân fesul rhaglen; dim ond un contract sydd angen i chi ei lofnodi gyda DTA Cymru.

Oes gennych ddiddordeb?

Os ydy hyn yn swnio’n addas i chi, lawrlwythwch y ffurflen gais, llenwch o i mewn a gyrrwch o i egin@dtawales.org.uk:

Cliciwch yma i lawrlwytho ein pecyn cais

Mae croeso i chi gysylltu â ni am sgwrs anffurfiol yn gyntaf os oes cwestiynau gyda chi.

Skip to content