Sut mae’n gweithio?
Cysylltwch â ni a byddwn yn eich cysylltu â’ch Hwylusydd Egin agosaf, os nad oes un wedi cysylltu â chi yn barod. Eich Hwylusydd fydd eich pwynt cyswllt cyntaf – dod â’ch cymuned at ei gilydd, gwrando ar beth mae pawb ei eisiau a’i angen, a’ch helpu i benderfynu os ydy ymuno ag Egin yn syniad da i chi.
Os ydych yn penderfynu symud ymlaen, bydd eich Hwylusydd yn helpu eich grŵp i ymuno â rhaglen Egin ac yna’n eich sefydlu ar ein Cymuned Ar-lein Egin, lle gallwch chi gadw mewn cysylltiad gyda’ch grŵp, datblygu eich Cynllun Gweithredu gyda’ch gilydd a thrafod syniadau, yn ogystal â dysgu am sefydliadau, grwpiau a phrosiectau eraill ar draws Cymru. Byddwch chi’n gallu cysylltu â grwpiau cymunedol eraill ar y gymuned ar-lein, a rhannu syniadau, adnoddau a’r hyn rydych chi’n ei ddysgu ar hyd y ffordd.
Bydd eich Hwylusydd wedyn yn eich arwain trwy ein cronfa o Fentoriaid Cymheiriaid ac yn eich helpu i ddewis rhywun gyda’r wybodaeth a’r profiad cywir i’ch cefnogi i gymryd y camau cyntaf yn eich Cynllun Gweithredu.
Gall cymorth Mentor Cymheiriaid bara rhwng 1-3 diwrnod ond gall gael ei wasgaru dros nifer o wythnosau neu fisoedd yn ôl yr angen.
Pan fyddwch wedi gwneud cynllun, efallai y bydd eich grŵp yn gymwys i gael grant o £15,000 i helpu gyda chostau eich prosiect. Mae grantiau Camau Cynaliadwy Cymru – Egin yn cael eu cynnig gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Gallwch ddarganfod mwy am sut i wneud cais amdanynt yma: Camau Cynaliadwy Cymru – Grantiau Egin.
Yn dilyn ein cefnogaeth a’r profiad byddech yn ei gael, efallai y byddwch yn meddwl am wneud cais i fod yn Fentor Cymheiriaid eich hun!
Rydym hefyd yn rhoi allan Pecyn Cymorth Monitro a Hunanwerthuso hawdd i’w ddefnyddio gan ein partneriaid Rhydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru– mae grŵpiau yn cael eu hannog i’w ddefnyddio i werthuso effaith eu prosiectau.