Lawrlwythwch yr adnodd di-dal yma i fesur effaith eich prosiect
Pecyn cymorth Profi, Arbrofi a Gwella – lawrlwythwch yma (Cymraeg)
Proving and Improving – lawrlwythwch y fersiwn Saesneg yma
Nid yw mesur effaith i gyd am rifau—mae o am ddysgu a gwella. Pan fyddwch yn mesur effaith, gallwch ddysgu beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd angen ei newid. Drwy ddeall effaith eich prosiect, gallwch wneud penderfyniadau gwell, gwella be’ dach chi’n ei wneud, a dod o hyd i ffyrdd newydd o gael effaith fwy byth.
Mae ein partneriaid, Lab Cydgynhyrchu Cymru, wedi bod yn gweithio gyda ni i ddatblygu Pecyn Cymorth Monitro a Gwerthuso o’r enw Profi, Arbrofi a Gwella er mwyn i grwpiau a gefnogir gan Egin sicrhau bod eu prosiect yn gwneud beth mae nhw isio iddo wneud. Gall grwpiau Egin dderbyn hanner diwrnod o fentora gan Labordy Cydgynhyrchu Cymru ar sut i ddefnyddio’r pecyn cymorth ar ben eu 3 diwrnod o Fentora Cymheiriaid– ond hyd yn oed os nad ydych chi’n derbyn mentora gennym ni, gallwch chi lawrlwytho y pecyn cymorth yma:
CAM 1: Rydych yn dewis y cwestiwn gwerthuso yr ydych am ei archwilio.
CAM 2: Rydych yn dewis rhwng y ffyrdd gwahanol y gallai pobl eich helpu i’w archwilio.
CAM 3: Rydych yn dewis rhwng yr elfennau gwahanol a allai ysgogi pobl i wneud hynny.
CAM 4: Rydych yn dewis nifer y bobl yr hoffech weithio gyda nhw.
CAM 5: Rydych yn sicrhau nad oes unrhyw beth i’w rhwystro rhag gwneud hynny
Er y gall unrhyw un ddefnyddio’r canllaw hwn, bydd yn gweithio orau pan fydd pob cam yn sail i drafodaeth gyda’ch tîm neu’n well byth, gyda’ch cymuned! I helpu, mae cardiau sgwrsio wedi cael eu cynnwys i chi allu e uhargraffu a symud o gwmpas.
Darllenwch ein blog “Pam bod hi’n bwysig mesur effaith ein prosiect?” i ddarganfod mwy am pam rydym yn monitro a gwerthuso.
Gobeithiwn, sut bynnag y byddwch yn defnyddio’r pecyn cymorth hwn, y byddwch yn ei weld yn adnodd gwerthfawr ar gyfer gwerthuso effaith eich prosiectau a’ch rhaglenni.