Cyn dod yn Fentor Cymheiriaid Egin, bu Elfed yn gweithio i’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a Llywodraeth Cymru, gan gefnogi awdurdodau lleol a sefydliadau eraill yn eu hymdrechion i ddatgarboneiddio trafnidiaeth. Yma mae’n trafod sut y gallai sector trafnidiaeth y DU gyrraedd targed di-garbon 2050.
Yn rhan 1, buom yn trafod sut mae Cerbydau Trydan yn lleihau carbon, cynllun y llywodraeth ar gyfer 2050, a’r hyn y dylai grwpiau cymunedol ei ystyried o ran trafnidiaeth.
Yr Hierarchaeth Trafnidiaeth
Hyd yn hyn rydym wedi ystyried rhai manylion eithaf technegol am rinweddau cymharol newid i gerbydau trydan a pham fod hyn yn rhan o strategaeth datgarboneiddio’r llywodraeth.
Dylid hefyd fod yn glir nad newid yn syth i EV tra’n cynnal y patrymau defnydd presennol ar gyfer trafnidiaeth ffyrdd yw’r opsiwn mwyaf cynaliadwy nac effeithiol. Mae’n bwysig gweithredu newidiadau i sut y mae pobl yn teithio ar y ffyrdd a darparu’r modd a’r adnoddau i wneud y newidiadau hyn yn bosibl.
Gellir rhestru systemau trafnidiaeth yn nhermau eu heffaith, fel yn y diagram yma:

Graffeg trwy garedigrwydd yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (Energy Saving Trust), a ddefnyddir gyda chaniatâd
Mae cerbydau trydan unigol mewn gwirionedd yn eithaf pell i lawr yn yr hierarchaeth drafnidiaeth. Mae rhoi sylw i drafnidiaeth gyhoeddus a dewisiadau teithio llesol yn dod â nifer o fanteision amgylcheddol, cymdeithasol ac iechyd a dyna pam ei fod yn elfen allweddol o ddull Llywodraeth Cymru o ddatgarboneiddio’r sector trafnidiaeth ffyrdd.
Mae llywodraeth Cymru wedi addo gwario £60 miliwn ar ddatblygu rhwydwaith diogel ar gyfer cerdded a beicio er mwyn cynyddu teithio llesol o’r gyfran amcangyfrifedig o 27% o ddulliau teithio i o leiaf 35% erbyn 2040.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynllunio i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus drwy foderneiddio rhwydweithiau rheilffordd, gwella llinellau trenau craidd a datblygu hybiau bysus mewn ardaloedd gwledig. Mae targedau Llywodraeth Cymru ynghylch cynyddu’r defnydd o gerbydau allyriadau isel (yn enwedig yn fflyd y sector cyhoeddus) a gwella’r seilwaith gwefru yn cyd-fynd â’r strategaethau eraill hyn.
Gair byr ar opsiynau tanwydd amgen
Mae rhai opsiynau eraill yn bodoli wrth edrych ar datgarboneiddio trafnidiaeth. Mae’r rhain yn cynnwys ceir hybrid, ceir hybrid a all eu phlygio i mewn, nwy LPG, HVO (tanwydd wedi’i wneud o olew coginio gwastraff) a thanwyddau biodanwydd, hydrogen a tanwydd synthetig. Mae’r rhan fwyaf o’r technolegau hyn eisoes yn bodoli ar y ffyrdd, er bod niferoedd y cerbydau yn gymharol fach, sefyllfa sydd ynddi’i hun yn atal twf defnydd oherwydd diffyg seilwaith a chyflenwad.
Wrth asesu hyfywedd y tanwyddau hyn wrth symud ymlaen, mae’n fag cymysg o fanteision ac anfanteision: mae’r rhan fwyaf ohonynt yn dod o ffynonellau adnewyddadwy ac yn cynhyrchu llai o allyriadau tŷ gwydr ond nid yw rhai ohonynt yn cynnig yr un math o effeithlonrwydd â disel neu betrol a mae rhai ohonynt angen addasiadau sylweddol i gerbydau. Mae yna fanteision ac anfanteision i EVs hefyd, wrth gwrs, ond gyda dyddiadau cau’r llywodraeth yn dod yn gyflym, dyma lle mae’r rhan fwyaf o’r buddsoddiad a’r sylw yn mynd.
Mae’n bwysig nodi fod llawer o ffocws ar anfanteision ceir trydanol yn y cyfryngau heddiw yn bodoli o achos fod nifer mawr ohonynt ar ein ffyrdd, ac felly rhai problemau yn dod yn amlwg. Mae anfanteision tebyg, a rhai anfanteision eraill yn bodoli yn y opsiynau eraill i datgarboneiddio trafnidiaeth, ond mae’r opsiynau hynny heb eto wedi dod i’r amlwg, am fod mond nifer bach, bach iawn o’r cerbydau hyn sydd yn bodoli ar ein ffyrdd.

Mae’r llywodraeth wedi gosod amserlen uchelgeisiol:
Mae’n wynebu nifer o heriau wrth gyflawni ei dargedau. Efallai mai’r peth cyntaf ymhlith y rhain yw’r angen am seilwaith gwefru llawer mwy helaeth ar draws y DU ac (o safbwynt masnachol) y tu hwnt i’r DU. I fusnesau sy’n dibynnu ar y gallu i wneud teithiau pell yn gyflym, mae rhwydwaith o wefrwyr cyflym yn hanfodol. Ar hyn o bryd mae tua 66,000 o wefrwyr cyflym yn y DU, ac mae 13,000 ohonynt yn wefrwyr “rapid” (cyflymder uchel iawn dros 50kW). Mae’r llywodraeth wedi cynnig rhwydwaith o 300,000 erbyn 2030 ond mae rhai sylwebwyr yn ystyried na fydd hyn yn ddigon.
Mae heriau eraill yn cynnwys colli trethi tanwydd ffosil (mae’r llywodraeth yn trethu petrol a diesel ond nid yw’n trethu trydan yn y cartref), mynd i’r afael â chylch bywyd cyfan allyriadau CO2 (ffactorau cynhyrchu ac ati), ac allyriadau carbon sydd heddiw heb eu cyfri gyda allyriadau o olew ac yn y blaen.
Amlygir cost cerbydau trydan weithiau fel her i newid dull trafnidiaeth bobl cyffredin. Nid oes amheuaeth bod cerbydau trydan newydd yn costio llawer mwy i’w prynu ac, i rai gyrwyr, mae teiars yn gwisgo’n gyflymach ac felly’n costio mwy dros gylch bywyd y car. Yn achos EV Newydd dryd, efallai na fydd gyrrwr yn adennill costau nes iddo gyrraedd cymaint â 100,000 o filltiroedd.
Wedi dweud hynny, mae cerbydau trydan yn llawer rhatach i’w rhedeg. Mae costau fesul milltir a yrrir yn isel iawn gyda chostau gwasanaethu (“servicing costs”) hefyd yn is. Nid yw’r padiau brêc yn gwisgo mor gyflym oherwydd brecio atgynhyrchiol EVs. Os ydych yn gwefry eich EV ar dariff dros nos (ee Octopus Go), byddwch yn adennill costau ar tua 55,000 o filltiroedd, neu 45,000 o filltiroedd os byddwch yn gwefru o ynni’r haul (trwy defnydd paneli solar) yn unig . Yn olaf, bydd ceir ail law yn talu’n ôl yn sylweddol gyflymach na hyn (efallai bron yn syth – mae costau ceir trydal ail law yn gystadleuol iawn ar hyn o bryd, gyda bargeinion da ofnadwy yn y farchnad ail law).
Yn fy mhrofiad i o weithio gydag awdurdodau lleol yng Nghymru, mae rhai ymhell ar y blaen i gyrraedd y targedau sero net tra bod eraill dipyn ar ei hôl hi (adlewyrchiad da o gymdeithas gyfan o bosibl). I’r rhai sydd ar ei hôl hi mae’r mater yn ymddangos yn llai ariannol ac yn hytrach yn ymwneud â diffyg argyhoeddiad ynghylch targedau’r llywodraeth, efallai’n deillio o ddisgwyliad y gallai’r pyst gôl hyn symud.
Os ydych chi’n grŵp cymunedol sy’n edrych i leihau eich ôl troed carbon, gwneud trafnidiaeth werdd yn haws ac yn hygyrch, neu’n edrych i mewn i ffyrdd eraill o ddod yn fwy cynaliadwy a gwydn, cysylltwch â ni i weld sut y gallai Mentor Cymheiriaid Egin eich helpu heddiw.


Comments are closed.