Rhaglen newydd ydy Egin – sy’n datgloi pŵer cyfunol cymunedau yng Nghymru i daclo newid hinsawdd.

Ein prif ffocws yw helpu’r rhai y bydd y newid hinsawdd yn effeithio arnynt fwyaf, ond yn aml yn teimlo nad ydynt yn rhan o sgyrsiau am yr hinsawdd. Trwy Egin, gall grwpiau cymunedol gael cymorth Mentor Cymheiriaid er mwyn cymryd eu camau cyntaf at weithredu ar newid hinsawdd a byw’n fwy cynaliadwy.

Dr Mz mural 5

Beth ydy Egin?

Cefnogi cymunedau i daclo newid hinsawdd: darganfyddwch fwy am beth ydy’r rhaglen Egin.

Two people holding a giant cabbage, community gardening

Be’ ydy gweithredu hinsawdd cymunedol?

Mae Egin yn cefnogi grwpiau i daclo newid hinsawdd trwy waith cymunedol – ond be’ mae hynny’n ei feddwl? Dechreuwych yma gyda’n syniadau ni!

Ymunwch â ni

Ymunwch â’n cylchlythyr, dewch i ddigwyddiadau, darganfyddwch mwy am sut i dderbyn cymorth gan Egin, neu sut i wneud cais i fod yn Fentor Cymheiriaid.

Fyddai eich grŵp cymunedol yn elwa o fentora, cymorth a chyllid posibl i daclo newid hinsawdd?

Cysylltwch â ni


    Os ydy eich grŵp neu fudiad cymunedol eisiau ddarganfod mwy am ddod yn rhan o’r rhaglen Egin, mae gennych ddiddordeb mewn gwneud cais i fod yn Fentor Cymheiriaid, neu os hoffech gysylltu â ni am unrhyw reswm arall, defnyddiwch y ffurflen gyswllt yma neu e-bostiwch :

    egin@dtawales.org.uk

    SYLWCH: Nid yw Egin yn darparu grantiau. Mae’n bosibl y bydd grwpiau sydd wedi bod trwy ein rhaglen Mentora Cymheiriaid, sydd wedi creu Cynllun Gweithredu ac wedi defnyddio ein pecyn cymorth Monitro a Gwerthuso, yn gymwys i wneud cais am grant gan Camau Cynaliadwy Cymru – Grantiau Egin. Cynigir y rhain gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol – darllenwch fwy am gymhwysedd ar eu cyfer yma: Camau Cynaliadwy Cymru – Grantiau Egin.

    Gofynnwn hefyd i grwpiau sydd â diddordeb mewn derbyn cymorth Mentora Cymheiriaid gynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl yn y ffurflen gyswllt, e.e. ble rydych wedi’ch lleoli, pa gamau (os o gwbl) ar yr hinsawdd yr ydych eisoes wedi’u cymryd, pa syniadau sydd gennych ar gyfer prosiect (nid oes angen i hwn gael ei ffurfio’n llawn eto), pa grwpiau o bobl fydd yn elwa o’ch prosiect.

    Rhif ffôn:

    +44 (0) 7476889170 – nodwch os gwelwch yn dda nad yw’r rhif yma ar gael drwy’r amser, ond gallwch adael neges a byddan ni’r eich ffonio yn ôl

    Cylchlythyr

    Clicliwch yma i ymuno â’r cylchlythyr Egin i gael y newyddion diweddaraf!

    Skip to content