Sut mae cyrraedd y bobl sydd ddim yn ymwybodol bod angen cymorth arnynt eto?
Gyda’n Prosiect Cyd-ddylunio yn Adfywio Cymru, rydym wedi bod yn archwilio sut i gael sgyrsiau newydd, gyda phobl newydd, mewn ffyrdd newydd. Mae’r archwiliadau hyn wedi gwneud i ni sylweddoli na fyddai llawer o’r rhai gall fuddio fwyaf o’n gwaith (cefnogi grwpiau i weithredu’n fentrus i frwydro’r argyfwng hinsawdd), yn adnabod eu bod angen hynny. ‘Nid yw pobl yn ymwybodol o’r hyn nad ydynt yn ymwybodol ohono’, a heb sylweddoli y gallant wneud rhywbeth, ni fyddant yn dod i chwilio am gefnogaeth i wneud hynny!
Yn ymateb i hyn, archwiliwyd sut byddai Adfywio Cymru ‘ar daith’ yn edrych: yn hytrach nag cynnal digwyddiadau a rhoi gwahoddiad i bobl ymuno ar ein termau ni, byddem yn ymestyn allan at grwpiau, gofyn i ymuno yn eu digwyddiadau nhw, ar eu termau nhw, cyfarfod yr aelodau, a chyflwyno materion amgylcheddol ar eu hagenda. Yn cael ei gynnal dechrau mis Mehefin i gyd-fynd â Diwrnod Amgylchedd y Byd, yn y pen draw roedd ‘mynd ar daith’ yn golygu ymweld â digwyddiadau rhithiol o grwpiau, ond roedd y rhagosodiad yno o hyd.
Profwyd y syniad mewn dau ddigwyddiad meddiannu:
- Yn y cyntaf ymwelwyd â Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, sefydliad sydd yn aelod ac sydd yn gweithio i drawsffurfio gwasanaethau cyhoeddus wrth gyd-gynhyrchu. Ymunwyd â nhw yn un o’u sesiynau ‘Llun Cyd-gynhyrchu’, ble roedd aelodau yn cyfarfod am sgwrs anffurfiol yn ymwneud â thema eang.
- Yn yr ail ymunwyd â TownSq, Corfforaeth-B sydd yn cefnogi datblygiad busnesau, pobl, llefydd a chymunedau gydag entrepreneuriaeth. Ymunwyd â nhw fel aelod o ‘banel arbenigol’ yn un o’u sesiynau hyfforddi cyson ar gyfer busnesau, ble canolbwyntiwyd ar archwilio materion amgylcheddol.
Roedd oddeutu 30 o bobl wedi cymryd rhan yn y ddau sesiwn meddiannu.
Tra bod Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru a TownSq yn sefydliadau gwahanol iawn i’w gilydd, darganfuwyd bod gan y sesiynau meddiannu sawl peth yn gyffredin:
- Roedd mwyafrif aelodau’r gynulleidfa o’r ddau sesiwn yn rai nad oedd wedi ymuno mewn sgwrs am yr amgylchedd cynt. Wrth gyfarfod â’r bobl yma o’r ‘tir diogel’, ymysg eu cyfoedion, mewn lleoliad maent yn gyfarwydd ag ef, roeddem wedi ymestyn ein cyrraedd mewn ffordd na fyddai wedi bod yn bosib fel arall.
- Nid oedd pobl yn brin o bethau i’w dweud (hyd yn oed os nad oeddent wedi dweud hynny cynt). Roedd gan y gynulleidfa syniadau, mewnwelediad a phrofiadau gwerthfawr i’w rhannu. Disgrifiodd un cyfranogwr bod presenoldeb Adfywio Cymru yn ‘dilysu’, yn darparu’r cyd-destun, caniatâd a diogelwch i siarad am faterion amgylcheddol yn rhydd ac yn agored.
- Mae materion amgylcheddol wedi’u cydblethu’n ddwfn gyda llawer o rai eraill, pwy bynnag ydych chi. Pan fydd pobl yn siarad am yr heriau a’r cyfleoedd sydd yn eu hwynebu i weithredu’n fentrus i frwydro’r argyfwng hinsawdd, nid am eu harbenigedd amgylcheddol yn unig maent yn siarad, ond am y systemau gwleidyddol, y diwylliannau sefydliadol, cyfraddau busnes, cefnogaeth ariannol, cyfathrebu, addysg a llawer mwy yn y canol. Mae gan bawb ran i chwarae i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, ond mae gan bawb ffordd wahanol i mewn i’r sgwrs.
- Gall sgwrs gychwynnol sbarduno. Nid oedd yr un o’r digwyddiadau wedi dod a datrysiadau pendant. Ond roedd y ddau wedi helpu pobl i fagu hyder, archwilio syniadau, gofyn cwestiynau gwell, a magu chwant i gadw’r sgwrs i fynd. Nid oes rhaid deall cyfeiriad sgwrs bob tro i fedru cychwyn un!
Felly, beth nesaf?
Wrth i ni stopio ac ystyried, ein tasg nesaf fydd i ystyried arwyddocâd sesiynau Meddiannu Adfywio Cymru, a sut gallant ein helpu i symud ein cenhadaeth ymlaen, ac i ble dylid mynd ar ein taith nesaf!
Mike Corcoran
———–
Mae Mike Corcoran yn Ymgynghorydd Cyswllt gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru. Mae’n aelod o’r tîm sydd yn cefnogi cydweithrediad y Rhwydwaith gydag Adfywio Cymru: y Prosiect Cyd-ddylunio.

