Os ydym yn awyddus i sicrhau bod effaith ein gwaith yn gwbl gynaliadwy, yna’r peth gorau y gallem ei wneud ydy helpu ein gilydd i helpu ein gilydd.
Gyda Phrosiect Cyd-ddylunio Adfywio Cymru, rydym wedi bod yn archwilio sut i gael sgyrsiau newydd, gyda phobl newydd, mewn ffyrdd newydd. Mae’n glir o’r archwiliadau yma bod yr heriau allan yna, ac yn aml mae’r datrysiadau allan yna hefyd. Nid ein cyfrifoldeb ni yw rhoi’r atebion i gyd, ond i wneud cysylltiadau: nid yw pobl angen cael sgwrs gyda ni bob tro, yn hytrach maent angen cael sgwrs â’i gilydd!
Dyma oedd ysbrydoliaeth ein Cylch Cydgyfnewid yn fis Mehefin 2021. Roed y syniad sylfaenol y tu ôl i’r Cylch Cydgyfnewid yn syml:
- Grŵp (gyda phwrpas eithaf cyffredin) yn dod at ei gilydd (ac yn creu’r ‘cylch).
- Pob aelod o’r grŵp yn gofyn am rywbeth yn ei dro, mewn perthynas â her sydd yn eu hwynebu.
- Mae pob aelod arall o’r grŵp, i’w gallu gorau, yn cynnig cyngor, cyflwyniadau ac unrhyw fath arall o gefnogaeth gall helpu i orchfygu’r her yma.
- Maent yn parhau nes bod pob un wedi rhannu her, a datrysiadau ymarferol wedi cael ei gynnig i bawb.
Nid proses i baru heriau a datrysiadau yn unig yw hwn, ond i greu perthynas ac ymrwymiad rhwng yr holl unigolion sydd yn cymryd rhan.
Gwahoddwyd cynrychiolwyr o’r holl gynghorau tref, plwyf a chymuned ledled y DU oedd wedi gwneud ‘Datganiad Argyfwng Hinsawdd’ i’r Cylch Cydgyfnewid (cyfanswm o dros 200) lle gallant rannu’r heriau a’r datrysiadau oedd ei angen i’w droi’n weithred arwyddocaol. Ein huchelgais oedd tynnu grŵp o 20 unigolyn at ei gilydd (yn rhithiol), ac er bod y digwyddiad wedi’i ei lenwi, dim ond 7 oedd yno ar y diwrnod. Ond roedd hyn yn ddigon i gynnal sgwrs gyfoethog, heriol a buddiol iawn.
Cawsom gymysgedd o gyfranwyr o Feiri i Swyddogion Datblygu Cymunedol, ac o weithredwyr amgylcheddol oes i rai hollol newydd. Wrth i ni gymryd tro i rannu ein heriau daeth un peth yn glir, er ein hamgylchiadau a phrofiadau helaeth: roedd goresgyn heriau amgylcheddol yn fwy nag yr angen am arbenigedd amgylcheddol. Felly, beth oedd yr heriau i droi Datganiadau Argyfwng Hinsawdd yn weithred ystyrlon? Yn eang, roedd tri ochr:
- Gwaith papur: Llywio biwrocratiaeth llywodraeth leol (disgrifiwyd unwaith fel ‘nofio trwy uwd’). Fel eu bod yn gallu gweithredu gyda’r brys sydd ei angen ar gyfer y sefyllfa!
- Cyfathrebu: Ymhob cyfeiriad. Yn sicrhau ymrwymiad cyd gynghorwyr, dinasyddion a phartneriaid eraill, a chreu dealltwriaeth ddyfnach o’r materion wrth law.
- Cydlynu: Gydag aliniad gweledigaeth a gweithrediad ar draws a rhwng llywodraethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Mae’r rhain yn heriau cryno a hir sefydlog (ac nid yn gyfyngedig i’r argyfwng hinsawdd). Roedd ein cyfranogwyr yn agored ac yn hael gyda chymorth a chyngor mewn perthynas â phob un, ond nid oedd y digwyddiad wedi creu paru taclus o heriau a’r atebion fel yr oeddem wedi disgwyl ar y cychwyn (ychydig yn ddiniwed efallai). Fodd bynnag, roedd gennym syniad llawer mwy clir o’r cwestiynau sydd angen eu harchwilio nawr wrth i ni symud ymlaen, cwestiynau fel:
- Pwy arall sydd angen bod yn rhan o’r cylch os ydym am oresgyn heriau fel hyn? Oes angen mwy o bobl, pobl o wahanol lefydd, mewn gwahanol rolau, a gyda sgiliau, gwybodaeth a phrofiad gwahanol i fod yn rhan o’r sgwrs?
- Sut gellir annog mwy o bobl i ymuno â’r cylch? Byddai’n esgeulus i anwybyddu’r ffaith mai dim ond 7 o bobl fynychodd o’r cannoedd dderbyniodd gwahoddiad. Sut mae gwneud y cyfle i ymgysylltu yn fwy hygyrch, ac yn fwy deniadol, i fwy o bobl?
- Ymhle dylid canolbwyntio ein sylw os ydym am wthio camau ystyrlon i frwydro’r argyfwng hinsawdd? Sut mae cydbwyso mynd i’r afael â rhwystrau ‘i fyny’r afon’ hir sefydlog i symud ymlaen (gwaith papur, cyfathrebu ac ati), gyda’r camau disgynnol ymarferol sydd ei wir angen ar frys.
Felly, a oedd hyn yn llwyddiannus?
Er na chafodd pob her rhannwyd ei ddatrys, llwyddom i gadarnhau ein prif dybiaeth, bod tynnu pobl gyda phwrpas cyffredin at ei gilydd, a rhoi lle diogel iddynt gael sgyrsiau ystyrlon â’i gilydd, yn creu’r amodau i gyflawni canlyniadau parhaol a chynaliadwy. Dywedodd y cyfranogwyr ei fod yn ‘galonogol gwybod nad oeddent ar ben eu hunain’, bod y ‘digwyddiad yn adeiladu’r sylfaeni’ ar gyfer y dyfodol a bod rhaid i sgyrsiau fel hyn ‘barhau’.
Rydym yn cytuno!
—————
Mae Mike Corcoran yn Ymgynghorydd Cyswllt gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru. Mae’n aelod o’r tîm sydd yn cefnogi cydweithrediad y Rhwydwaith gydag Adfywio Cymru: y Prosiect Cyd-ddylunio.
Mae’r Prosiect Cyd-ddylunio yn rhaglen uchelgeisiol o weithgareddau sydd yn cael ei ddarparu gan Adfywio Cymru mewn cydweithrediad â Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru rhwng Tachwedd 2020 a Medi 2021. Bwriad y prosiect ydy dod â phobl at ei gilydd i archwilio’r ffordd orau i symud cenhadaeth Adfywio Cymru ymlaen yn y tymor hir (helpu cymunedau yng Nghymru i leihau eu hôl troed carbon, addasu i effaith newid hinsawdd a byw yn fwy cynaliadwy).

