Mae cael cyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd, i wthio ein hunain y tu allan i’r hyn sydd yn teimlo’n gyfforddus ac i gofleidio’r anhysbys yn gallu bod yn gyffrous iawn er hefyd yn ddychrynllyd iawn, a phrofiad fel hyn yn union oedd cynnal ein digwyddiad hac-a-thon cyntaf gyda Pobl yn Gyntaf Cwm Taf. Gan ddechrau gyda’r teimladau o bryder yn y cyfnod cyn y digwyddiad, roedd sawl un ohonom yn teimlo fel nad oedd gennym reolaeth lwyr a ddim yn gwybod yn union beth fydda’n digwydd o ganlyniad y diwrnod. Gan ychwanegu at hynny, roedd hyn yn nodi, i’r mwyafrif ohonom, ein dychweliad i weithio/rhyngweithio wyneb i wyneb yn dilyn Covid-19/cyfnod clo. Ond, yn disodli’r holl densiwn ac angst oedd rhagweld y posibilrwydd a’r ‘beth os’, sydd yn fy marn i yn gatalydd i lwyddiant digwyddiadau’r hac-a-thon.
Ydych chi’n pendroni beth ar y ddaear ydy digwyddiad hac-a-thon? Yn fyr, roedd hwn yn feddylfryd tîm Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru yn helpu Adfywio Cymru i gynnal gwerthusiad sefydliadol arloesol trwy’r Prosiect Cyd-ddylunio. Roedd y digwyddiad hac-a-thon yn un o bum digwyddiad datblygwyd o ganlyniad ymarfer Newid Mwyaf Sylweddol cynhaliwyd gyda staff, cydlynwyr, mentoriaid a sefydliad partner ar draws rhwydwaith Adfywio Cymru yn fis Rhagfyr 2020. Roedd yr ymarfer hwn yn amlygu nad oedd mecanwaith clir i greu cynnyrch etifeddiaeth i ddal gwybodaeth gyfunol Rhwydwaith Adfywio Cymru ar gyfer gwaith a chyfeirio yn y dyfodol. Yn ogystal, amlygodd gyfle i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac i addysgu mwy o bobl yn unol â chenhadaeth ‘Adfywio Cymru’ i helpu cymunedau yng Nghymru i leihau eu hôl troed carbon, addasu i effaith newid hinsawdd a byw yn fwy cynaliadwy.
Hac-a-thon: 4 Tîm, 4 Awr, 4 Adnodd wedi’u creu ar y cyd
Cynhaliwyd y digwyddiad hac-a-thon cyntaf ar 25ain Mehefin 2021, gyda’r teitl Yr Amgylchedd a Fi. Bu Adfywio Cymru yn partneru gyda Pobl yn Gyntaf Cwm Taf ar gyfer y digwyddiad hwn, sefydliad hunan eiriolaeth sydd yn cael ei arwain gan aelodau ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu, sydd wedi’u nodi fel cynulleidfa sydd yn aml ddim yn cymryd rhan yn awtomatig mewn sgyrsiau am yr amgylchedd. Cyflogwyd amrywiaeth o gynhyrchwyr creadigol hefyd i helpu rhoi bywyd i syniadau a thrafodaethau pob tîm a chreu rhywbeth fydda’n gallu helpu i rannu ein dysgu ar draws Rwydwaith Adfywio Cymru a thu hwnt. Nod y digwyddiad oedd creu amrywiaeth o adnoddau hygyrch gellir eu defnyddio i gychwyn sgwrs wrth ddatblygu naratif gyda phobl sydd ag anabledd dysgu am sut gallant helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd a byw’n fwy cynaliadwy, a dyna’n union oedd canlyniad yr hac-a-thon! O ffilmiau byr am yr hyn yr oedd pobl ag anableddau dysgu yn ei deimlo oedd yn bwysig iddyn nhw am yr amgylchedd, i ddylunio trenau a cheir gyda phaneli solar, ni chawsom ein siomi gan y digwyddiad a rhoddodd lawer i ni feddwl amdano mewn perthynas â’r ‘beth os’ ac amlygu posibiliadau i gyffroi datblygiad cychwynnol y digwyddiad.
I rannu’r dysgu a’r profiadau o gymryd rhan yn yr hac-a-thon, mae’r pedwar tîm wedi arddangos eu creadigaeth adnoddau mewn digwyddiad rhithiol ar 5ed Gorffennaf 2021, ac mae posib gweld y sleidiau defnyddiwyd i yrru’r arddangosfa yma isod. Un o’r arsylwadau mwyaf diddorol y gellir ei nodi o hyn yw’r angerdd a gafodd ei greu wrth gefnogi gofod diogel agored i bobl gydag anableddau dysgu i gymryd rhan yn y fath sgyrsiau, a’r syniadau gwych am beth allai ddigwydd nesaf o ganlyniad hyn.
Gwyliwch y gofod hwn am unrhyw ddatblygiadau pellach, yn ogystal â mewnwelediad i’r pedwar cyfle arall sydd wedi’u hysbrydoli gan y prosiect cyd-ddylunio.
———
Jenny Mushiring’ani Monjero – Mae’n aelod o’r tîm sydd yn cefnogi cydweithrediad y Rhwydwaith gydag Adfywio Cymru: y Prosiect Cyd-ddylunio.
Mae’r Prosiect Cyd-ddylunio yn rhaglen uchelgeisiol o weithgareddau sydd yn cael ei ddarparu gan Adfywio Cymru mewn cydweithrediad â Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru rhwng Tachwedd 2020 a Medi 2021. Bwriad y prosiect ydy dod â phobl at ei gilydd i archwilio’r ffordd orau i symud cenhadaeth Adfywio Cymru ymlaen yn y tymor hir (helpu cymunedau yng Nghymru i leihau eu hôl troed carbon, addasu i effaith newid hinsawdd a byw yn fwy cynaliadwy).

