Rown i’n gyffrous iawn wrth glywed y geiriau…. “beth am drio cynhyrchu cyfres podlediad sgyrsiol… fel peilot?” Daeth y geiriau yna oddi wrth Mike a Suze- dau gydweithiwr o Rwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru, sy’n gweithio gyda ni yn Adfywio Cymru ar broses gwerthuso, neu fel ry’ ni’n ei alw- Y Prosiect Cyd- Ddylunio.
Rown i wedi eisiau creu podlediadau ers amser ond heb ei wneud a’i gynllunio gyda llawer o wmff! Wnes i recordio sgwrs gyda dau o’n mentoriaid (un ohonynt yn Gymraeg) ar Zoom, ac roedden nhw’n iawn o ran cynnwys ond ddim yn ddiddorol iawn i edrych arno – gan mai dim ond dau berson yn edrych ar sgrin oedd i’w weld. Wedi’r cyfan, gwrando ry’ chi fod i wneud gyda podlediad nid gwylio!
Roedd y syniad am y gyfres yma wedi’i seilio ar sgyrsiau naturiol rhwng pobl. Roedden ni eisiau i’r gwrandawyr allu adnabod ei hunan ynddyn nhw. Eisiau ysgogi gweithredu, sbarduno sgyrsiau a hybu newidiadau. Bydden nhw’n cael eu hadnabod fel cyfleoedd i rannu straeon a phrofiadau o gymunedau ar draws y wlad. Ond pa fath o steil i fynd am? Un person yn hwyluso’r cyfan fel ‘cwestiwn- feistr’? Steil ‘llythyr cadwyn’? Yn y diwedd sgwrs 3- ffordd oedd y penderfyniad, gan obeithio am y cyfle i ddysgu mwy. Felly dewis un o’n cydlynwyr neu fentoriaid o blith ein rhengoedd, yna person o grŵp cymunedol ry’ ni wedi eu cefnogi a thrydydd person o grŵp arall sy’n gwneud rhywbeth tebyg – yn y DU neu hyd yn oed tramor!
Ond ble i ddechrau (a dyma’r dasg anoddaf)? Sut i ddewis pobl? A gyda pha arbenigedd?
Wel, daeth yn glir y byddai angen creu themâu felly crewyd rhestr hir o bynciau o’r rhai amlwg, fel trafnidiaeth, adeiladau cymunedol ac egni, bioamrywiaeth, tyfu a gwastraff, i themâu mwy cynnil fel yr ysgogiad i weithredu, sut i gynnwys pawb yn y gweithredu, codi ymwybyddiaeth/ ehangu’r neges a beth allwch chi wneud mewn gwirionedd heb arian?
Gwnaeth sawl un ohonom bendroni ond yn y pendraw, crewyd rhestr o syniadau o bobl addas- ond nawr roedd angen ‘gwerthu’r’ syniad iddyn nhw. Ond doedd dim angen i fi boeni achos wnaeth neb anghytuno i gymryd rhan. Ry’ ni nawr wedi recordio 5 rhifyn ac maen nhw i gyd wedi bod yn ddiddorol ac ysbrydoledig,
Mae yna ormod o gyfranwyr i son am bob un yma, ond clywsom wrth Cerys Jones o Repair Café Wales gan Jeremy Wadia o EcoDewi, Geinor Styles o Theatr Na’Nog, a David Davies yn cynrychioli rhaglen Cymunedau’n Creu Cartrefi. Ond ymhellach i ffwrdd ry’ ni wedi cysylltu â Sandra Philips o MovMi yn Vancouver a Salome Wagaine o Season For Change yn Llundain. Roedd y recordiad olaf yn Gymraeg ac ar y thema o Greu Lleoedd a Chartrefi.
Mae’r awyrgylch wrth eu creu wedi bod yn ysgafn ac yn gyfeillgar a gobeithio fod hyn y dod ar draws i’r gwrandawyr. Ry’ ni hefyd yn gobeithio fod nifer wedi’u hysbrydoli i weithredu neu wedi dysgu rhywbeth neu wedi eu hysgogi i feddwl yn wahanol neu yn fwy dwfn am rywbeth.
Mae digonedd o ddysgu wedi mynd ymlaen tu ôl i’r llenni fel petai hefyd, yn nhermau’r recordio a’r cynhyrchu ei hunan, ond hefyd o ran profiad o ddefnyddio pecynnau graffeg newydd er mwyn creu nwyddau gweledol ac hysbysu ar gyfer y podlediadau.
Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y gyfres yma ac i Mike a Suze, a’n golygydd Emmi am eu gwaith a’u hanogaeth. Er ein bod wedi cael ffigyrau gweddol o ran gwrandawyr hyd yma, byddai’n wych i weld y rhain yn cynyddu ac efallai clywed yn ôl gan bobl sydd wedi cymryd y sialens a gwneud rhywbeth ei hun.
Dwi yn bersonol yn gobeithio y gallwn barhau i recordio podlediadau newydd a chyffrous yn y dyfodol fel modd o ysbrydoli mwy o weithredu ar newid hinsawdd ac i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
Delyth Higgins
Swyddog Cyfathrebu Adfywio Cymru

