Mae hwyluswyr yn chwarae rhan hollbwysig yn rhaglen Egin – ond pwy ydyn nhw a beth maen nhw’n ei wneud?
Yn y bôn, Hwyluswyr yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer grwpiau cymunedol sydd â diddordeb mewn ymuno ag Egin. Ar hyn o bryd, mae gennym ni 9 Hwylusydd ledled Cymru, gydag un ohonynt (Linus) yn cael ei gynnal gan EYST ac yn cwmpasu Cymru gyfan. Darllenwch amdanyn nhw yma (ein tudalen “Cyfarfodwch â’r Tîm“).
Maent yn gyfrifol am chwilio am grwpiau a chysylltu â nhw, gan ganolbwyntio ar y rhai a allai fod yn fwyaf agored i effeithiau newid hinsawdd ond sydd heb ymgysylltu â gweithredu hinsawdd. Gallai hyn fod am amrywiaeth o resymau, fel peidio teimlo eu bod nhw’n cael eu cynnwys na’i cynrychioli mewn sgyrsiau am newid hinsawdd, heb gael yr amser a’r egni i feddwl amdano o’r blaen, neu wedi teimlo’n ansicr am ble i ddechrau.
Mae’r hwyluswyr yn dod â’r grŵp at ei gilydd, yn gwrando ar yr hyn y mae pawb ei eisiau a’i angen, ac yn eu helpu i benderfynu os ydy cymryd rhan yn Egin yn syniad da iddynt. Hyd yn oed os byddwch yn penderfynu peidio â pharhau ag Egin, bydd ein Hwyluswyr debyg yn gallu eich cyfeirio at rywbeth mwy addas.
Unwaith y bydd grŵp yn penderfynu cymryd rhan yn rhaglen Egin, mae Hwyluswyr yn helpu grwpiau cymunedol i nodi pethau posibl y gallent eu gwneud, fel y gall grwpiau ddechrau gweithio ar eu Cynllun Gweithredu. Gallant hefyd eich helpu i lywio’r pecyn cymorth Monitro a Gwerthuso, a ddyluniwyd gan ein partneriaid Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru er mwyn eich helpu i fesur effaith eich gweithredoedd.
Ar ôl hyn, mae eich Hwylusydd yn helpu eich grŵp i ddewis y Mentor (neu Mentoriaid) Cymheiriaid mwyaf addas i’ch cefnogi. Gall grwpiau sy’n ymuno ag Egin dderbyn hyd at dri diwrnod o gefnogaeth Mentor Cymheiriaid, wedi’i wasgaru yn ôl yr angen, i’ch helpu i ddod â’ch syniadau’n fyw.
Yn ogystal â hyn, mae Hwyluswyr yn helpu i gynnwys grwpiau ar y Gymuned Ar-lein Egin. Yma, gall eich grŵp aros mewn cysylltiad â’i gilydd, gweithio ar eich Cynllun Gweithredu, a gweld beth mae grwpiau cymunedol eraill yn ei wneud, cysylltu â nhw, a rhannu syniadau, adnoddau, a’r hyn rydych chi’n ei ddysgu ar hyd y ffordd. Ar ôl i chi dderbyn cefnogaeth Mentora, bydd eich Hwylusydd yn cysylltu â chi unwaith eto i weld sut mae popeth wedi mynd.
Rydym yn hapus iawn cael tîm mor frwdfrydig o Hwyluswyr yn rhan o raglen Egin, ac rydym yn gyffrous i weld y newid cadarnhaol a ddaw yn sgil eu cefnogaeth i gymunedau dros Gymru.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o Egin, chwiliwch am yr Hwylusydd agosaf atoch ac estynwch allan yn uniongyrchol atynt – neu os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni i weld a allai eich sefydliad neu grŵp cymunedol fod yn addas ar gyfer Egin. Os ydyw, byddwn yn eich cysylltu â’ch Hwylusydd agosaf.

Tîm craidd Egin a’r Hwyluswyr


Comments are closed.