Rydym yn hapus i gyhoeddi bod y rhaglen Egin wedi’i lansio (ar y 7fed o Chwefror, 2023)!
Mae Egin yn cefnogi cymunedau yng Nghymru, yn enwedig y rhai sydd fwyaf agored i newid hinsawdd, i weithredu drwy Fentora Cymheiriaid.
Beth ydy Egin?
Rhaglen newydd ydy Egin sy’n helpu i ddatgloi potensial cymunedau yng Nghymru i daclo newid hinsawdd a byw’n fwy cynaliadwy.
Prif ffocws Egin ydy gweithio gyda grwpiau sydd yn llai tebygol o deimlo’n rhan o sgyrsiau am yr hinsawdd a chynaliadwyedd, ond sydd yn debygol o gael eu heffeithio fwyaf.
Gall grwpiau sy’n ymuno â’r rhaglen gael hyd at 3 diwrnod o gefnogaeth gan Fentoriaid Cymheiriaid – pobl gyda phrofiad a sgiliau mewn sefydlu prosiectau tebyg. Gallant eich arwain i greu Cynllun Gweithredu ar gyfer eich cymuned.
I bwy mae Egin?
Mae Egin yn cefnogi grwpiau cymunedol, elusennau, sefydliadau di-elw ac anllywodraethol, a mentrau cymdeithasol yng Nghymru.
Ein prif ffocws yw helpu’r rhai sydd yn llai tebygol o deimlo’n rhan o sgyrisiau am hinsawdd a chynaliadwyedd neu gael eu cynrychioli ynddynt, ond yn debyg o gael eu heffeithio fwyaf ganddo.
Rydym yn gwahodd yn arbennig grwpiau sydd heb gymryd unrhyw gamau hinsawdd o’r blaen, ac sydd ddim yn siŵr ble i ddechrau.
Sut mae’n gweithio?
Eich cyswllt cyntaf bydd eich Hwylusydd. Mae gan Egin 9 Hwylusydd o amgylch Cymru – cysylltwch â’ch Hwylusydd agosaf i gychwyn, neu cysylltwch â’n tîm canolog.
Gallwch drefnu sgwrs gyda’ch Hwylusydd i ddarganfod os ydy Egin yn iawn i chi. Nid oes unrhyw bwysau i ymuno ar ôl y sgyrsiau yma, a hyd yn oed os ydych yn penderfyni ymuno, mae Egin am ddim i chi.
Pa help gawn ni?
Os ymunwch ag Egin, bydd eich Hwylusydd yn helpu eich grŵp i feddwl am, a phenderfynu ar, syniadau i helpu’ch cymuned i daclo newid hinsawdd neu fyw’n fwy cynaliadwy, a rhoi cymorth i chi weithio ar eich Cynllun Gweithredu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddod o hyd i’r Mentor Cymheiriaid iawn i chi – yn seiliedig ar y sgiliau a’r profiad mae eich cymuned ei angen. Byddwch yn cael 1-3 diwrnod o gefnogaeth gan eich Mentor Cymheiriaid (a allai gael ei rannu ar draws mwy nag un Mentor).
Pan fyddwch wedi gwneud cynllun, efallai y bydd eich grŵp yn gymwys i gael grant o £15,000 i helpu gyda chostau prosiect – gallwch gael rhagor o wybodaeth amdanynt yma: Camau Cynaliadwy Cymru – Egin.
Sut mae’n cael ei ariannu?
Mae’r rhaglen Egin ei hun yn cael ei hariannu gan grant Camau Cynaliadwy Cymru – Mentora, a’r grantiau y gallwch wneud cais amdanynt (os ydych yn gymwys) ydy grantiau Camau Cynaliadwy Cymru – Egin.
Gweinyddir y ddau gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Daw’r cyllid o’r Cynllun Asedau Segur – sy’n rhoi arian sydd heb ei gyffwrdd am fwy na 15 mlynedd mewn cyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu.
Cysylltwch â ni
Os ydych yn meddwl y gallai eich cymuned elwa o fod yn rhan o Egin, cysylltwch â ni.


Comments are closed.