Nodyn: Mae’r rownd ymgeisio yma bellach wedi mynd heibio, ond rydym yn dal i dderbyn ceisiadau yn gyffredinol.
Mae pawb eisiau’r gorau i’w cymunedau ac i genedlaethau’r dyfodol – ond y gall fod mor anodd gwneud y dewisiadau cywir. Mae cymaint o grwpiau a sefydliadau cymunedol eisiau gwneud y penderfyniadau gorau i’w hunain ac ar gyfer y blaned, ond does ganddyn nhw ddim clem ble i ddechrau – gall feddwl am yr holl opsiynau, yn enwedig os nad oes gan neb y profiad neu’r wybodaeth gywir i wybod beth maen nhw’n ei wneud, fod yn ormod weithiau.
Dyna pam cafodd Egin ei greu. Mae ein Mentoriaid Cymheiriaid yn aelodau o’r gymuned gyda phrofiad uniongyrchol o weithredu ar newid hinsawdd a chynaliadwyedd ar lefel leol – efallai eu bod eisoes wedi gweithio ar brosiect tebyg iawn i’r un rydych chi am ei wneud yn eich cymuned eich hun. Wedi’u gwasgaru ar draws Cymru, mae gennym amrywiaeth o Fentoriaid Cymheiriaid gydag ystod o sgiliau a phrofiad mae nhw’n fodlon eu rhannu gyda chi, i’ch cefnogi a’ch grymuso i gyrraedd eich nodau.
Gall grwpiau sy’n cofrestru ar gyfer cymorth Egin dderbyn hyd at dri diwrnod o Fentora Cyfoedion, gan un neu fwy o Fentoriaid yn dibynnu ar eich anghenion.
Mae gan Gymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu (DTA) Cymru, y sefydliad sy’n rhedeg Egin, Fentoriaid Cymheiriaid ar ein rhaglenni eraill hefyd – fel Busnes Cymdeithasol Cymru. Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am Fentoriaid Cymheiriaid ar bob un o’n rhaglenni. Os oes gennych brofiad o fenter gymdeithasol neu brosiect cymunedol, rydym eisiau clywed gennych.
Darllenwch fwy am ein Mentoriaid Cymheiriaid a lawrlwythwch ein disgrifiad swydd a ffurflen gais yma
We are especially keen to take on people with skills and experience in one or more of the following:
- Codi arian – ceisiadau a strategaeth
- Cynhyrchu incwm a strategaeth ariannol
- Datblygu a chynllunio busnes
- Trosglwyddo Asedau Cymunedol
- Adnoddau Dynol (HR)
- B2B Parodrwydd caffael
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Gwasanaethau Tyfu a Bwyd
- Gwasanaethau manwerthu, Chwaraeon a Thwristiaeth
- Rheoli Asedau Cymunedol / Eiddo
- Addysg a Hyfforddiant
- Newid Hinsawdd a Chynaliadwyedd
Rydym hefyd yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl sydd â phrofiad personol neu broffesiynol o weithio gydag unigolion sy’n ystyried unrhyw un o’r canlynol:
- LGBTQIA+
- Neuroamrywiaeth
- Cymunedau lleiafrif ethnig
- Anableddau (o bob math)
- Pobl gydag anfanteision
- Pobl Ifanc
- Iaith Gymraeg
Mae mentoriaid cymheiriaid yn cael eu talu am eu gwaith – o £250-300 y dydd, yn dibynnu ar y rhaglen ac os ydych yn hunangyflogedig neu’n cael eich lletya gan sefydliad trydydd sector.
Dylai ein rownd ddiweddaraf o geisiadau fod i mewn erbyn Canol dydd, dydd Mercher 22 Mawrth 2023, er y byddwn yn derbyn ceisiadau drwy gydol y flwyddyn (efallai y bydd yn rhaid i chi aros tan ein sesiwn sefydlu nesaf).
Dyma’r dolenni i lawrlwytho’r cymwysiadau yn uniongyrchol:
Cliciwch yma i darllen am ein recriwtio Mentorau Cymheiriaid- (linc Word Doc) – mae hwn yn cynnwys rhestr o’r sgiliau a phrofiad rydym yn edrych amdanynt.
Disgrifiad Swydd a Ffurfflen Gais -(Word Doc) – ar hyn o bryd, yn Saesneg mae’r ffurflen gais. Rhowch wybod i ni os ydych eisiau un Cymraeg.
Gyrrwch eich cais an unrhyw gwestiynnau i info@dtawales.org.uk.
Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych, ac o bosibl eich cael i ymuno â ni!


Comments are closed.