Hwyluso cynulliadau cymunedol i gynhyrchu gweithredu cadarnhaol yn yr hinsawdd
Mae Hay Public Library.org yn Gwmni Buddiant Cymunedol a sefydlwyd yn wreiddiol yn 2019 i gadw’r llyfrgell ar agor yn Y Gelli Gandryll. Ei nodau craidd yw cefnogi gwirfoddoli i gynnal gwasanaethau’r llyfrgell ac annog mwy o weithgareddau yn y llyfrgell a’r gymuned ehangach.
Cysylltodd y Grŵp ag Egin gyda gweledigaeth i gyflwyno ffurf newydd o ddemocratiaeth gyfranogol ac ystyriol i’w tref, sef cynulliadau cymunedol. Roedd y cynulliadau’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â gwytnwch newid hinsawdd, fel rhan o fodel strategol a allai wedyn gael ei gyflwyno gan lyfrgelloedd ledled Cymru wledig. Fe wnaethant nodi tair thema allweddol: bwyd, lles meddyliol ac ynni.
Gweithiodd yr Hwylusydd Egin, Philip McDonnell, gydag arweinydd brwd y prosiect y Grŵp, Mike Eccles, i archwilio eu syniadau a dod â mwy o ffocws a strwythur i’w gynigion drwy broses cynllunio gweithredu Egin. Rhoddwyd blaenoriaeth i redeg cynulliad cymunedol am fwyd lleol, a neilltuwyd mentor Egin, Aimee Parker, i rannu gyda’r Grŵp ei phrofiad helaeth o ymgysylltu â’r gymuned a threfnu cynulliadau. Llwyddodd i weithio gyda Mike a’i dîm o hwyluswyr i gynllunio a darparu cynulliad cychwynnol llwyddiannus iawn, sydd wedi ennyn diddordeb gyda grwpiau a rhwydweithiau eraill ledled Cymru.
Edrychodd y cynulliad cyntaf ar y cwestiwn: “Sut y gallem gefnogi’r Gelli Gandryll fel cymuned, i ddod mor hunangynhaliol â phosibl o ran bwyd lleol sydd wedi’i dyfu’n gynaliadwy o fewn 10 mlynedd? Yn y pen draw yn cynhyrchu digon i fwydo’r dref a’r cyffiniau, cymaint ag y gwnaethom yn y 1950au a’r 60au?”
Mynychodd 80 o bobl, gyda hyd at 200 yn dangos diddordeb. Y bwriad oedd i’r sampl o bobl presennol fod mor gynrychioliadol â phosibl, gyda thaflenni wedi’u cynllunio’n ofalus a’u dosbarthu o amgylch y Gelli Gandryll. Cysylltwyd yn uniongyrchol â grwpiau penodol, fel ffermwyr, tirfeddianwyr, banciau bwyd a defnyddwyr dim gwastraff, a’u gwahodd i gymryd rhan. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: https://carboncopy.eco/initiatives/hay-community-assemblies.
Mae’r grŵp nawr yn chwilio am gyllid i gyflogi Cydlynydd Prosiect a Gweinyddwr i drefnu cynulliadau cymunedol pellach a hwyluso timau i fwrw ymlaen â’r camau sy’n dod i’r amlwg.
Dywedodd Mike Eccles, “Heb gefnogaeth Egin, ni fyddem wedi gallu datblygu ein Model yn y ffordd rydym wedi. Rydym yn fwy hyderus nag erioed y gellir cael y Model yma i weithio i’n cymuned. Ac rydym wedi dysgu gwersi.”
“Mae’r rhaglen Egin wedi ein galluogi i droi Model Newid Hinsawdd cymunedol gwledig, a ddyluniwyd fel dull strategol ar gyfer cymuned wledig yng Nghymru, yn brosiect peilot gwirioneddol a hyfyw. Bydd hyn yn creu gweithredu hinsawdd bositif, yn lleihau niwed i’r amgylchedd, tra hefyd yn lleihau ein hôl troed carbon personol a chasgliadol ar y blaned.”


Comments are closed.