Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol unwaith eto yn cefnogi grwpiau cymunedol i fynd i’r afael a newid hinsawdd drwy ei chynllun Hwb i’r Hinsawdd. Bydd 35 o grwpiau o Gymru yn rhan ohono wedi’u dewis o rwydwaith eang ac amrywiol o grwpiau sydd wedi eu hariannu ganddyn nhw yn y gorffennol
Mae Adfywio Cymru yn falch i fod yn rhan o’r cynllun eto (yn dilyn ymlaen o’r rhaglen beilot lwyddiannus Ychwanegiad Gweithredu Hinsawdd llynedd) ynghyd a Chymunedau Cynaliadwy Cymru. Byddwn yn helpu’r cymunedau i ddatblygu eu cynllun amgylcheddol, a fydd yn cael ei weithredu dros y misoedd nesaf gyda grantiau hyd at £15,000 y grŵp gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Bydd y cynllun yn cwmpasu amrywiaeth o weithgareddau lleihau amgylcheddol, sef lleihau ynni neu symud i ynni adnewyddadwy, lleihau defnydd, bwyd lleol, a theithio llai neu deithio mwy effeithiol.
Yng Nghymru, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol eisoes wedi buddsoddi mewn projectau amgylcheddol – mawr a bach. Mae hyn, ynghyd â mewnwelediad fel yr ariannwr mwyaf o weithgarwch cymunedol yng Nghymru, yn ein galluogi i gefnogi gweithredu cymunedol mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd a ddatganwyd gan Lywodraeth Cymru.
Pwy sy’n cymryd rhan a beth maen nhw’n gobeithio ei wneud?
Dyma beth wybodaeth am rai o’r projectau sy’n dechrau ar eu taith Hwb i’r Hinsawdd, a sut maen nhw’n gobeithio mynd i’r afael â newid hinsawdd.
Clybiau Plant Cymru
Mae Clybiau Plant Cymru eisiau bod yn sefydliad sy’n lleihau ei effaith ar yr amgylchedd yn weithredol ac yn effeithiol. Mae gweithio’n ddigidol o’r cartref yn ystod pandemig COVID-19 wedi eu galluogi i leihau teithio, argraffu, defnydd o bapur a phostio. Roeddent yn awyddus i fod yn rhan o Hwb i’r Hinsawdd er mwyn lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd yn gynaliadwy o ran bwyd a theithio yn y dyfodol.
Neuadd y Plwyf Llannefydd
Gan fod cynlluniau ar y gweill i adnewyddu a moderneiddio’r neuadd gymunedol yn Llannefydd, gwelai’r pwyllgor Hwb i’r Hinsawdd fel cyfle gwych i uwchraddio’r adeilad a’i wneud mor effeithlon â phosibl, er enghraifft, drwy leihau’r defnydd o danwydd a dŵr.
Mae newid hinsawdd eisoes yn effeithio ar eu cymuned amaethyddol, ac felly roedden nhw’n teimlo ei bod yn bwysig manteisio ar y cyfle hwn i drawsnewid y neuadd yn adeilad sy’n effeithiol o ran adnoddau. Eu prif amcan yw creu neuadd gysurus a chynnes i groesawu’r gymuned i mewn iddi, er mwyn arbed pobl leol rhag gorfod teithio am resymau hamdden, adloniant, cymdeithasu, hyfforddiant a chwaraeon.
Project Global Gardens
Mae Project Global Gardens yn broject sy’n tyfu yn y gymuned yng Nghaerdydd, sy’n anelu at greu lle hygyrch, croesawgar a chynhwysol ar gyfer dysgu yn y gymuned rhwng cenedlaethau, cyfathrebu a dealltwriaeth rhyng-ddiwylliannol, a chreadigrwydd.
Bydd cymryd rhan yn y cynllun Hwb i’r Hinsawdd yn rhoi cyfle iddyn nhw ddyfnhau’r gwaith maen nhw’n ei wneud yn y gymuned yn wyneb yr argyfwng hinsawdd. Bydden nhw’n hoffi datblygu syniad cliriach o sut i ysbrydoli pobl sy’n byw yn ninas-ranbarth Caerdydd i fyw’n fwy cynaliadwy, fel project tyfu cymunedol – gan gynnwys drwy dyfu bwyd yn fwy ecolegol a choginio bwyd a dyfir, yn ogystal â thrwy ymgysylltu â chelfyddydau a chrefftau cynaliadwy.
Y Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd
Mae’r Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd yn Abertawe am godi ymwybyddiaeth o’r newid hinsawdd yn ei chymuned. Bydden nhw’n hoffi addysgu a rhannu gwybodaeth am newid hinsawdd, ac ysbrydoli pobl i ddechrau cymryd camau cyfrifol i gyfrannu at gymuned fwy cynaliadwy ac i ddiogelu’r amgylchedd.
Partneriaeth Ogwen
Menter gymunedol yn Nyffryn Ogwen yw Partneriaeth Ogwen, a’u nod yw mynd i’r afael â thlodi tanwydd, tlodi teithio, lleihau unigedd a chryfhau cymunedau. Maen nhw wedi cynnal digwyddiadau’n lleol i godi ymwybyddiaeth o effaith negyddol pobl ar yr amgylchedd ac wedi codi swm sylweddol o arian drwy gynnig rhandaliadau cymunedol i sefydlu hydro sy’n eiddo i’r gymuned.
Yn y dyfodol, byddant yn datblygu fflyd o gerbydau trydan ar gyfer y gymuned, yn plannu coed, yn hyrwyddo tyfu yn y gymuned, ac yn gweithio gyda phartneriaid a’r gymuned leol i leihau tlodi tanwydd. Maen nhw’n gweld Hwb i’r Hinsawdd fel cyfle i weithredu ymhellach i leihau effaith pobl ar newid hinsawdd ac i helpu’r amgylchedd.
Bwyd Dros Ben Aber
Ffurfiwyd Bwyd Dros Ben Aber i weithredu ar gynaliadwyedd y system fwyd fel ffactor allweddol wrth leihau effaith newid hinsawdd. Fel llysgennad dros gynaliadwyedd, byddent am arwain drwy esiampl ac arddangos y camau y gall busnesau yn Aberystwyth a’r ardal leol eu cymryd i leihau eu heffaith amgylcheddol.
Dyma’r rhestr lawn o’r 35 grŵp fydd yn cymryd rhan yn Hwb i’r Hinsawdd:
Bwyd Dros Ben Aber, Age Connects Torfaen, Boys and Girls Clubs of Wales, Bryncynon Community Revival Strategy, Challenging Behaviour Support CIC, Clwb Trotian Dyffryn Amman, Clybiau Plant Cymru, Coleg Black Mountains, Datblygiadau Egni Gwledig, Dynamic Centre for Children and Young People with Disabilities, Eglwys Glenwood Caerydd, Enbarr Foundation CIC, Gerddi Bro Ddyfi, Hirwaun YMCA, Huggard, Innovative Trust, Manage Money Wales CIC, Neuadd y Plwyf Llannefydd, Partneriaeth Eco Dyffryn Dyfi, Partneriaeth Ogwen, Paul Sartori Foundation Limited, People and Work, Project Global Gardens, Project Ieuenctid Caerfyrddin (Dr Mz), Pwyllgor Lee Gardens Pool, Quest Busters, RAY Ceredigion, Siop Griffiths Cyf, Tafarn yr Heliwr, The Community Impact Initiative CIC, The Gellideg Foundation Community Association, The Hwb Torfaen, Tŷ Hafan, Y Dref Werdd, Y Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd.