Mae Ailgysylltu mewn Natur yn gwmni diddordeb cymunedol sydd yn helpu pobl i ailgysylltu gyda’u hamgylchedd naturiol, ailgysylltu gyda’u hunain a chreu cymuned gefnogol. Mae’r gweithgareddau yn cwmpasu gweithgareddau awyr agored gyda grŵp ehangach o gyfranogwyr, llawer ohonynt wedi profi anfanteision yn eu bywydau. Mae Ailgysylltu yn cefnogi pobl i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder sydd ei angen i gyfranogi mwy i gymdeithas wrth gysylltu gyda’r amgylchedd naturiol a defnyddio natur fel cyfaill iachaol naturiol.
Gweledigaeth y grŵp oedd sefydlu canolfan hyfforddi, a chyflawnwyd hyn ar safle 4.5 acer yng Nghoedwigoedd Bryn Gelli ger Llawhaden, gyda chefnogaeth Adfywio Cymru.
Bu Andy, cydlynydd Adfywio Cymru, yn hwyluso’r broses cynllun gweithredu gyda’r grŵp, a phenderfynwyd mai’r flaenoriaeth oedd cael cefnogaeth i gyflawni arolwg a chreu cynllun rheoli coetir gan nad oedd ganddynt y wybodaeth na’r sgiliau perthnasol o fewn y grŵp ar gyfer hyn.
Penodwyd mentor cyfoed, Gareth Ellis, fu’n treulio amser gyda’r grŵp ar y cychwyn yn ymgyfarwyddo â nhw a’r safle, yna bu’n gweithio gyda’r gwirfoddolwyr i greu cynllun rheoli. Wrth i bethau ddatblygu roedd y gwirfoddolwyr yn gallu cyflawni mwy o’r gwaith arolwg a mapio eu hunain. Datblygwyd syniadau am yr hyn gall y coetir ei ddarparu, a sut gellir ei ddefnyddio, a chawsant eu cynnwys yn y cynllun yn y pen draw.
“Nid oedd arbenigedd nac gwybodaeth am goetiroedd ymysg y grŵp ar y cychwyn ond nawr, yn dilyn trosglwyddo’r wybodaeth yma, mae darlun llawer cliriach o’r hyn y gallem, ac sydd angen, ei wneud yma. Mae posib symud ymlaen yn hyderus gyda’r canllawiau derbyniwyd.” Mike Erskine – aelod Ailgysylltu.
Mae cynllun y grŵp yn amlinellu’r syniadau i greu mwy o fioamrywiaeth ac adeiladu cysgodfa. Bydd y grŵp yn ei ddylunio, yn codi arian tuag ato ac yn dysgu sut i’w adeiladu. Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i gynnal mwy o ddiwrnodau gwirfoddoli, yn dilyn cyrsiau cynhaliwyd yn y coedwigoedd yn y gorffennol. Ar gychwyn 2018 roedd grŵp llywio Ailgysylltu yn cynnwys 4 o bobl a 4 i 5 gwirfoddolwr rheolaidd. Erbyn diwedd y flwyddyn roedd y grŵp llywio wedi dyblu a’r pwll o wirfoddolwyr galluog wedi treblu mewn maint.
“Mae yna symudiad cryf tuag at bobl yn sylweddoli budd natur ar gyfer ein hiechyd a’n lles meddyliol, yn enwedig yn y sector iechyd. Mae yna lawer wedi bod yn gofyn am hyfforddiant a nifer o bobl eisiau treulio amser â ni, ar gyfer lles meddyliol eu hunain neu i helpu a chefnogi eraill.” Mike Erskine – aelod Ailgysylltu.
I ddarganfod mwy cysylltwch: reconnectcymru@gmail.com