Wrth i’r gaeaf ddod i mewn ac wrth i brisiau ynni godi, mae cymunedau ledled y wlad yn gweld bod gwresogi adeilad cymunedol – fel neuadd bentref, canolfan chwaraeon neu theatr – yn gost enfawr. Ond be ydy’r ateb?
Ar yr 21ain o Dachwedd, cynhaliodd Egin sesiwn Dysgu a Rhannu o’r enw Effeithlonrwydd Ynni: Deall a Lleihau’r Defnydd o Ynni yn eich Adeilad Cymunedol.
Roedd y gweminar yn cynnwys cyflwyniadau gan Mike Brain, Rheolwr Rhaglen Sero Net (rhan o Busnes Cymdeithasol Cymru), a Dave Gittins, Cyfarwyddwr Cymru yn Severn Wye Energy Agency. Gallwch wylio’r recordiad trwy glicio yma. Neu efalle bydd yn well gennych ddarllen y prif bwyntiau yma:
Prif bwyntiau:
- Monitro a Thargedu: Mae monitro a mesur popeth yn sail i reolaeth ynni effeithiol. Mae deall patrymau defnydd yn gadael i chi sylwi’n gyflym ar dueddiadau a gwahaniaethau, er enghraifft os ydych chi’n cyflwyno rhywbeth newydd (fel amserydd smart ar gyfer goleuadau), ac i weithredu’n gyflym pan fydd defnydd ynni’n cynyddu’n sydyn.
- Gosod Targedau Lleihau: Mae gostyngiad o 10-15% yn y defnydd o ynni yn nod resymol i’ch blwyddyn gyntaf. Mae cyflawni hyn yn bosibl trwy fesurau cost isel fel newid ymddygiad, rheoli amser ac inswleiddio.
- Deall Biliau Ynni: Pwysleisiodd Mike bwysigrwydd gwybod eich statws contract er mwyn osgoi cyfraddau uwch – mae llawer o bobl yn ffeindio bod eu contractau wedi dod i ben a’u bod yn talu mwy nag sydd angen. Mae darlleniadau mesurydd iawn yn hanfodol – a ‘dych chi’n talu am ddefnydd amcangyfrifedig, neu ddefnydd gwirioneddol? Gwiriwch am daliadau ychwanegol, fel “Cyflenwad Cynhwysedd Ar Gael”, sy’n codi swm ychwanegol arnoch am gadw rhywfaint o ynni i chi ei ddefnyddio os a phryd ydych ei angen.
- Peidiwch â dechrau hefo paneli solar!: Cyflwynodd Dave yr hierarchaeth ynni, gan ddangos nad yw dechrau gyda phaneli solar yn gwneud synnwyr – yn gyntaf, mae angen i ni leihau’r galw am ynni. Ar ôl hyn, gallwn archwilio opsiynau ynni carbon isel, ac yn olaf gwrthbwyso’r allyriadau carbon eraill er mwyn cyrraedd Sero Net.
- Insiwleiddio ac LEDs: Tynnodd Dave sylw at bwysigrwydd buddsoddi yn ffabrig yr adeilad cyn atebion ynni adnewyddadwy. Blaenoriaethwch insiwleiddio, uwchraddiwch goleuadau i LEDs i arbed arian yn gyflym, a sicrhewch bod offer yn effeithlon cyn gwneud y naid i gynhyrchu eich ynni eich hun.
- Astudiaethau Achos: Roedd enghreifftiau o’r byd go iawn yn dangos effaith mesurau Effeithlonrwydd Ynni. Dangosodd Neuadd Bentref Horsley a Neuadd Bentref Awre arbedion sylweddol a gostyngiadau CO2 ar ôl buddsoddi mewn inswleiddio, uwchraddio gwresogi, a goleuadau LED.
- Pryd i Weithredu: Pwysleisiodd Dave bwysigrwydd mesur y defnydd o ynni cyn ac ar ôl newidiadau, cynnal archwiliadau ynni i gael mewnwelediadau manwl, a deall mesurau tymor byr, tymor canolig a thymor hir. Cytunnodd y ddau na ddylech chi geisio gwneud archwiliad ynni eich hunain – gofynnwch i broffesiynol!
Clywsom hefyd ychydig gan Louisa Addiscott (Egin), a rannodd stori o gymuned y bu’n gweithio gyda hi i wneud adeilad newydd mor ynni effeithlon â phosibl. Er bod ganddynt rywfaint o’r dechnoleg ddiweddaraf, roeddent yn ei chael hi’n anodd cyfleu i bobl pam y dylent fod yn ei defnyddio mewn ffordd benodol. Cytunodd y grŵp fod hyfforddi eich cymuned a’ch staff, a gwneud yn siŵr bod pawb yn deall pwysigrwydd arbed ynni, yn hollbwysig – fel arall, ni fydd hyd yn oed y dechnoleg fwyaf modern yn gwneud dim i arbed ar eich biliau!
Gwasanaethau a Chymorth Ar Gael:
- Archwiliadau Ynni: Gall grwpiau sy’n cael eu cefnogi gan Egin dderbyn archwiliad ynni am ddim gan ein partneriaid, Severn Wye Energy Agency.Mae’r rhain yn adroddiadau manwl sy’n rhoi cipolwg i chi ar ba mor ynni-effeithlon yw eich adeilad cymunedol, yn ogystal â rhestru rhai pethau di-dâl, cost isel a mwy costus y gallwch eu gwneud i’w wella.Un grŵp a dderbyniodd archwiliad ynni yn ddiweddar trwy raglen Egin oedd Eglwys y Bedyddwyr Tywyn, a gysylltodd ag Egin yn gynharach yn y flwyddyn oherwydd eu gweledigaeth o wneud yr adeilad yn garbon niwtral erbyn 2030. Dyma beth oedd ganddynt i’w ddweud am eu hynni eu hunain archwiliad:
“Cadarnhaodd yr Archwiliad Ynni rai pethau yr oeddym eisoes yn eu hystyried ond fe daflodd syniadau eraill i’r cymysgedd hefyd. Er bod rhai yn ffeindio’r adroddiad yn ddipyn o ddarllen caled, ‘roedd cael llais profiad a chymhwyster Peter Draper y tu ôl iddo yn sicr wedi ychwanegu pwysau at ein hachos. Mae’r adroddiad yn rhoi llawer o fannau cychwyn da i ni – y cynllun nawr yw dod o hyd i arbenigwyr lleol i’n helpu ni ‘blymio’n ddyfnach’ i bob agwedd yn ei thro! Un o’r agweddau yr ydym yn ymchwilio iddo yw gosod cyfres o baneli solar, i helpu i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar gyfer yr adeilad.””
- Cymorth Sero Net i fentrau cymdeithasol – os ydych yn fenter cymdeithasol, edrychwch ar sut all Gwasanaeth Gymorth Sero Net o Busnes Cymdeithasol Cymru eich helpu i gyrraedd eich nodau cynaliadwyedd. Rhwng nawr a chanol 2024, gall hyd at 6 menter gymdeithasol dderbyn cymorth manwl.
- Grŵp Gweithredu Ynni –Mae CYD Cymru yn darparu gwasanaeth y Grŵp Gweithredu Ynni (EAG) i’n Haelodau ac eraill yn y sector. Gan weithio ochr yn ochr â’n hymgynghorwyr rheoli ynni, Touchstone Services, deuir o hyd i ddyfynbrisiau cystadleuol a all arbed arian sylweddol, caled i’ch ased neu fenter sy’n eiddo i’ch cymuned. Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar fenter brynu swmp, ond mae hefyd yn ceisio helpu aelodau i leihau eu defnydd o ynni a darparu gwasanaethau fel trosglwyddo asedau ar gyfer cyfleustodau a rheoli asedau.
Gallai’r rhestr linciau yma o Gymru Gynaliadwy fod yn ddefnyddiol hefyd – mae’n cynnwys gwybodaeth am arbed ynni yn y cartref, arbed ynni i fusnesau yn ogystal ag ynni cymunedol.




Comments are closed.