Post blog gwadd gan Aimee Parker, Hwylusydd a Mentor Cymheiriaid Egin
Dros y misoedd diwethaf, fel rhan o fy rôl fel hwylusydd Egin, rwyf wedi cyfarfod â nifer o grwpiau yn ardal Casnewydd / Sir Fynwy. Rwyf wedi bod yn siarad â grwpiau wrth iddynt ddechrau meddwl am weithredu hinsawdd o fewn eu sefydliadau a’u cymunedau. Roedd rhai o’r grwpiau yn awyddus i siarad â’u cymunedau am newid hinsawdd ond yn ei chael hi’n anodd neu yn methu’r hyder i wneud.
Fel arweinwyr eu sefydliadau, mae’n hanfodol bwysig eu bod yn gallu cael y sgyrsiau hyn a fydd yn y pen draw yn ysgogi ac yn ysbrydoli eu cymunedau. Roedd hyfforddiant Llythrennedd Carbon yn teimlo fel opsiwn da gan ei fod yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu “ymwybyddiaeth o gostau ac effeithiau carbon deuocsid gweithgareddau bob dydd, a’r gallu a’r cymhelliant i leihau allyriadau, ar sail unigol, cymunedol a sefydliadol.”
Trwy Gyngor Dinas Casnewydd, llwyddais i gael mynediad i’r Hyfforddiant Llythrennedd Carbon a threfnu iddo gael ei gyflwyno yn Llyfrgell Maendy yng Nghasnewydd dros gyfnod o bythefnos (sesiynau 2 x 3 awr).
Daeth yr hyfforddiant â chynrychiolwyr o Sir yn y Gymuned ynghyd, Usk Together for the Climate, Tin Shed Theatre, Green Caerleon, Canolfan Gymunedol Cross Ash, Pantri Maendy a Phrosiect Economi Gylchol Casnewydd. Roedd hwn yn gyfle gwych i’r grŵp yma o bobl gyfarfod, rhannu profiadau a dysgu gyda’i gilydd.
Llun 1- Y cyfranogwyr yn yr hyfforddiant
Aeth yr hyfforddwyr â ni ar daith ddysgu o ddeall y cylch carbon a gwahanol fathau o nwyon i sut mae ein gweithredoedd bob dydd yn cael effaith ar allyriadau carbon. Gwnaethom archwilio sut olwg allai fod ar y byd gyda chynnydd tymheredd 2 a 4 gradd.
Llun 2 – sleid o’r hyfforddiant 
Un gweithgaredd diddorol oedd cynnal dadansoddiad cylch bywyd o baned o de. Roedd archwilio effaith carbon y rhannau priodol h.y. y dŵr, te, siwgr a llaeth yn hynod ddiddorol! Gwnaethom hefyd archwilio ôl troed carbon gwahanol fwydydd eraill gan ddefnyddio Cyfrifiannell Bwyd y BBC; https://www.bbc.co.uk/news/science-environment-46459714
Edrychom ar ôl troed carbon blynyddol cyfartalog rhywun sy’n byw yn y DU (13 tunnell) o’i gymharu â rhywun sy’n byw yn India (2 dunnell) er enghraifft. Cawsom y dasg o gyfrifo ein hôl troed carbon personol ein hunain gan ddefnyddio cyfrifiannell ôl troed amgylcheddol WWF; https://footprint.wwf.org.uk
Gwnaethom archwilio gwahanol gamau y gallem eu cymryd fel unigolion i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd; roedd hyn yn amrywio o opsiynau effaith isel fel uwchraddio eich bylbiau golau i opsiynau effaith uchel fel byw heb geir neu ddewis cael llai o blant.
Er mwyn cael eich ardystio mewn llythrennedd carbon mae’n rhaid i chi ymrwymo i addewid personol a hefyd un lle rydych chi’n dylanwadu ar grŵp ehangach o bobl. Mae hyn yn rhan allweddol o’r hyfforddiant. Roedd hyn yn ingol i’r grŵp penodol hwn o gyfranogwyr gan fod y rhan fwyaf yn dechrau ar y daith o ysbrydoli eu cymunedau a’u sefydliadau i weithredu.
Llun 3 – sleid yn manylu ar ddewisiadau personol isel i effaith uchel
Addawodd un o’r cyfranogwyr yn yr hyfforddiant archebu prydau llysieuol wrth fwyta allan a hefyd i beidio â phrynu cig eidion o’r archfarchnad mwyach. Fel eu gweithred grŵp fe wnaethant addo creu gweithdy celf ar y cyd i addysgu eraill a hefyd i wneud posteri i’w harddangos mewn man cymunedol.
Roedd yr hyfforddiant yn brofiad cadarnhaol iawn o safbwynt addysgol ond hefyd yn dod â phobl o’r un anian at ei gilydd i rannu profiadau.
Dyma ddyfyniad gan un o’r cyfranogwyr yn yr hyfforddiant;
‘Roedd y cwrs Llythrennedd Carbon yn brofiad gwych i gwrdd â phobl o’r un anian a mwynhau trafodaeth ddofn ar thema newid yn yr hinsawdd. Roedd yr hwyluswyr yn wych am gyflwyno a chychwyn cyfranogiad grŵp mewn pynciau cyfredol. Roedd yn bwnc anodd i’w gwmpasu a daeth a llawer o emosiynau i fyny, nid rhai da bob amser! Roedd yn dda gweld sut y gwnaethom ni i gyd gefnogi ein gilydd trwy’r darnau anodd i deimlo ymdeimlad o wytnwch, dw i’n gobeithio, a hefyd wedi’u grymuso i hyrwyddo a gweithredu, gyda’n gilydd yn ogystal ag yn unigol. Diolch am y profiad.”
Y gobaith yw y bydd y grŵp hwn o bobl yn parhau i gysylltu a rhannu eu teithiau a’u profiadau priodol. Diolch i Gyngor Dinas Casnewydd am gefnogi’r hyfforddiant hwn ac i’r holl gyfranogwyr am eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad i weithredu ar newid hinsawdd.



Comments are closed.