Ydych chi eisiau ymuno â thîm Egin? Gallai hyn fod yn gyfle i chi!
Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu newydd i’n helpu i rannu straeon ysbrydoledig gan grwpiau o amgylch Cymru sy’n taclo newid hinsawdd ac yn gweithredu yn eu cymunedau. Mae’r rôl yn un 3 diwrnod yr wythnos, y gellir ei gweithio’n hyblyg ac o gartref (yn neu’n agos i Gymru), a bydd yn cynnwys creu cylchlythyrau, postiadau cyfryngau cymdeithasol, blogiau ac astudiaethau achos, trefnu digwyddiadau, rheoli’r Gymuned Ar-lein Egin a dod â’ch creadigrwydd a’ch syniadau i sut yr ydym yn gwneud pethau.
Mae un o’r tri diwrnod yr wythnos hefyd wedi’i neilltuo i’r cyfathrebu ehangach ar gyfer CYD Cymru, y sefydliad sy’n darparu Egin: rhwydwaith aelodaeth sy’n cynnwys sefydliadau cymunedol ledled Cymru sy’n gweithio i greu lleoedd mwy cynaliadwy, ffyniannus a hunangynhaliol i byw. Mae’r rôl yn cynnig £28,000 FTE (0.6) a rhaid i chi fod yn rhugl yn y Gymraeg.
Swyddog Cyfathrebu, Egin / DTA Cymru – dyddiad cau canol dydd, dydd Mercher 6 Mawrth, cyfweliadau 12 a 13 Mawrth
Cyflog: £28,000 CALl/FTE (0.6)
Diwrnodau’r wythnos: 0.6 CALl – 3 diwrnod yr wythnos / 21 awr yr wythnos – gellir gweithio hyn yn hyblyg ar draws yr wythnos, er ein bod yn gofyn i chi fod ar gael ar ein diwrnod craidd o ddydd Iau rhwng 10am a 4pm.
Tymor y contract: Parhaol (yn dibynnu ar gyllid)
Oriau gwaith: 7 awr y dydd. Mae CYD Cymru yn gosod oriau swyddfa craidd rhwng 10am a 4pm ond mae’n cynnig hyblygrwydd trwy negodi gyda rheolwyr llinell. Mae’n bosibl y bydd angen gweithio gyda’r hwyr a thros y penwythnos o bryd i’w gilydd er mwyn bodloni anghenion y rôl.
Lleoliad gwaith: Mae CYD Cymru yn cadw swyddfa yng Nghaerdydd. Cefnogir gweithio gartref – neu gyda chefnogaeth i weithio o ‘ganolfan leol i’ch swyddfa’ – unrhyw le yng Nghymru neu o fewn cyrraedd hawdd i Gymru.
Pecyn swydd: Pecyn Swyddog Cyfathrebu Egin/CYD Cymru (cliciwch i lawrlwytho)
Ffurflen Gais: Ffurflen Gais Cymraeg (cliciwch i lawrlwytho)
E-bostiwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau i info@dtawales.org.uk erbyn y 6ed o Fawrth
*Mae CYD Cymru hefyd yn recriwtio Swyddog Caffael a Gwerth Cymdeithasol – darllennwch fwy yma



Comments are closed.