Cyfweliad ysgrifenedig gyda Bleddyn Evans, Cadeirydd Tafarn yr Heliwr, Nefyn, Gwynedd.
Beth yw cefndir y dafarn?
“Mae cofnod o’r Sportsman Hotel yn mynd yn ôl cyn belled â’r 1860au fel gwesty, a’r goets fawr yn stopio y tu allan. Roedd yn dafarn poblogaidd dros y degawdau gydag enw’r dafarn wedi ei hanfarwoli mewn geiriau can Anweledig ‘Cae yn Nefyn’ – “Heliwr wedi cau a phawb ‘di mynd i’w gwlâu…”. Yn fwy diweddar roedd angen cryn dipyn o waith gwario ar yr adeilad a bu’r dafarn ar werth ac yn wag am sbel. Roedd ffeindio prynwr yn destun trafod brwd yn yr ardal! Penderfynodd criw lleol gynnal cyfarfod cyhoeddus yn Ionawr 2018 i weld os oedd awydd i geisio ail agor.”
Sut ddigwyddodd y broses o brynu’r dafarn a beth oedd y bwriad wrth wneud hynny?
“Roedd y cyfarfod yn orlawn a phawb efo syniadau gwahanol a chymaint o frwdfrydedd. Ffurfiwyd pwyllgor gwirfoddol o bobl o bob cefndir o bensaer i saer coed. Cawsom gyngor gan Ganolfan Gydweithredol Cymru a llwyddwyd i gofrestru fel ‘Cymdeithas Er Budd y Gymuned’, yna aeth y pwyllgor ati i lansio’r cynnig siars gymunedol am £50 yr un. Dros yr haf yn 2018, llwyddwyd i werthu digon o gyfranddaliadau i allu prynu’r adeilad, ac erbyn Tachwedd 2018 roedd goriadau y Sportsman gennym a’r gymuned yn berchen ar adeilad cymunedol!
Aethpwyd ati wedyn i chwilio am grantiau, a derbyniwyd arian gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru ar gyfer ail wneud lawr grisiau. Buom yn ffodus o dderbyn arian Pawb a’i Le gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer dodrefnu’r llawr gwaelod. Aethom yna ati i gael nawdd gan Gyngor Gwirfoddoli Cymru (WCVA) er mwyn talu am adnewyddu’r llety i fyny’r grisiau. Derbyniwyd potiau o arian gan AHNE Llŷn, Arloesi Gwynedd Wledig, Hunaniaith, Cyngor Tref, Asda, Calor, Tesco, Cist Gwynedd ac Adra ar gyfer cynlluniau, man offer ac elfennau fel y brandio. Rydym wedi bod yn ffodus iawn.
Aethpwyd ati i gynnal digwyddiadau ymgynghori cymunedol yn ystod y cyfnod yma, fel stondinau gwybodaeth a diwrnod agored, a lluniwyd holiaduron i weld beth oedd pobl eisiau gweld ymlaen yn y dafarn- a’r ateb oedd – lle cyfforddus i gymdeithasu’n anffurfiol!
Aeth y pwyllgor ati unwaith eto i wneud ceisiadau grant ariannu trawsnewid yr adeilad a’i adnewyddu i fod yn adeilad cymunedol modern, cynnes a chroesawgar.”
Pa ran mae’r dafarn yn chwarae yn y gymuned leol?
“Mae’r dafarn wedi bod yn adeilad pwysig yng nghanol y dref ers degawdau o ran cynnig llety i deithwyr yn oes y goets fawr. Mae sôn fod nifer fawr o dafarndai a thai potas wedi bod yn Nefyn dros y canrifoedd- mae’n siŵr fod bwrlwm mawr wedi bod yma fel tref glan y môr poblogaidd a gyda’r diwydiant llongau a physgota penwaig yn ei anterth.
Erbyn heddiw mae’r Sportsman ar ei newydd wedd, adnabyddir y dafarn bellach fel Yr Heliwr. Rydym wedi llwyddo i gael nawdd ar gyfer cyflogi Swyddog Datblygu Cymunedol ac mae Gwenno eisoes wedi cychwyn ar ei gwaith o drefnu gweithgareddau cymunedol yn y dafarn a chyd-weithio yn y gymuned.”
Rydych wedi sôn am y grantiau i adnewyddu’r adeilad ei hun (sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr dros y misoedd diwethaf i olwg y lle) …. Ond yn benodol, beth am gronfa ‘Hwb i’r Hinsawdd’? Beth oedd yr ysbrydoliaeth am y prosiect yma? Pam prosiect ‘bwyd’/ garddio?
“Gan fod cyfyngiadau Covid wedi bod yn fwy caeth ar y pryd, cynigwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ni ymgeisio am arian Hwb i’r Hinsawdd. Roedd y cyfle o gael gardd fach i allu tyfu rhywfaint o gynnyrch a chynnig i bobl ddod at ei gilydd yn yr awyr agored i wneud ychydig o arddio yn syniad apelgar. Roedd sawl grŵp cymunedol fel yr Eglwys, Gwasanaeth Ieuenctid, yr ysgol a chartref preswyl i oedolion ag anableddau wedi dangos diddordeb mewn cyd-weithio. Roedd cynllunio gweithgaredd hamddenol a chymdeithasol yn apelio at nifer o bobl felly aethpwyd ati efo’r cais, a gyda chymorth Adfywio Cymru derbyniwyd arian a chynlluniau ar gyfer y prosiect, sydd ar y gweill ar hyn o bryd.”
Am beth ydych chi wedi defnyddio’r arian a sut hwyl sydd wedi bod arni?
“Ar ôl rhai misoedd mae aelodau gwirfoddol o’r pwyllgor wedi gallu negodi darn bach o dir gan stad Rhug yn Nefyn ar gyfer yr ardd gymunedol. Rydym wedi arwyddo’r les ac mae contractwr lleol wedi gallu dechrau trin a ffensio planhigion ymledol sydd ar ochr y darn tir. Mae’r contractwr wedi gallu hefyd dechrau ar glirio’r drain oedd wedi tyfu’n uchel a thrwchus yno. Mae Gwenno, Swyddog Datblygu’r Heliwr ac aelodau o’r is-bwyllgor nawr yn gweithio ar gynlluniau’r ardd.”
Beth am y gefnogaeth mentora oddi wrth Adfywio Cymru?
“Derbyniwyd cymorth gan Adfywio Cymru a chan fentor profiadol efo prosiectau llewyrchus fel Bwyd Bendigedig Porthmadog i’n helpu ac roedd yn ddefnyddiol iawn- cynllunio a gwybod beth a phryd i blannu er enghraifft.”
Oes cynlluniau am fwy o brosiectau cymunedol eraill?
“Mae’r Heliwr yn ei gyfanrwydd yn brosiect cymunedol, gan fod canllawiau covid wedi llacio a phobl yn dechrau dod yn fwy hyderus, rydym wedi gallu dechrau ar ddigwyddiadau bach cymunedol yn y dafarn. E.e. Yr Heliwr fel cyrchfan offer casglu sbwriel, prosiect celf a llesiant ar y cyd gyda phrosiect Lleu.”
Beth fyddech chi’n dweud wrth unrhyw un arall sy’ eisiau ymgymryd â phrosiect sy’n helpu gyda thaclo newid hinsawdd? Beth fyddai’r cyngor?
“Mae unrhyw brosiect amgylcheddol yn wych ond yn enwedig un awyr agored fel mae’r sefyllfa ar hyn o bryd. Mae pobl yn awchu i gael cymdeithasu a dod ynghyd am sgwrs, mi wnaiff les mawr i iechyd meddwl pobl ac yn fwy diogel gallu gweithio tu allan yn yr awyr agored. Rydym eisoes wedi denu gwirfoddolwyr ar gyfer gwaith codi arian a chlirio’r dafarn, felly’r gobaith yw, bydd criw o bob oed yn gallu cymryd rhan yn y prosiect cyffrous yma.”
Beth yw arwyddocâd prosiect fel hwn i gymuned fel Nefyn a’r gymdeithas yn fwy eang?
“Pan fuom yn cynnal digwyddiadau ymgynghori wrth ddechrau datblygu’r Heliwr, roedd digwyddiadau i bob oed cymdeithasol yn amlwg fel rhywbeth oedd y gymuned eisiau. Ar ôl misoedd caled cyfnod covid, bydd gardd gymunedol fel hyn yn bwysicach byth fel cyrchfan ddiogel tu allan i bobl a phlant allu cwrdd am sgwrs a chyd-weithio. Bydd yn sicr o gael effaith bositif ar lesiant meddwl a chorfforol pobl o bob oed ac yn rhoi hyder i bobl gymysgu yn ôl.”
“Dyma safle ein gardd gymunedol rhandir o gae Iorwerth, neu ‘cae pysgodyn’ fel mae trigolion lleol yn ei adnabod, ar Stryd Y Plas.”
“Rydym yn edrych ymlaen at greu ein gardd yma, a rhoi cyfle i’r gymuned gymryd rhan yn ei greu a’i drin. Mae llawer o waith o’n blaen, ond am gyfnod cyffroes i’r fenter ac i’r ardal!”





