Mae clwstwr amlwg o ‘grwpiau llesiant’ yng Ngorllewin Cymru wedi cysylltu yn y flwyddyn ddiwethaf yn gofyn am gefnogaeth. Dyma ddwy stori…
Bird Farm
Gweledigaeth Emma a Rodney Bird yw’r prosiect yma sydd wedi’i leoli ar fferm Alpaca ar gyrion Llanbedr Pont Steffan. Symudodd y ddau yma o Gaerloyw 10 mlynedd yn ôl gyda’r ysfa i weithio tyddyn a byw bywyd cynaliadwy gydag ymagwedd gymunedol.
Yn awyddus i ffermio mewn dull trugarog a ‘charedig’, gydag ôl troed carbon mor isel â phosib, penderfynwyd dod yn gartref i alpacaod. Mae’r tir yn cael ei reoli mewn ffordd gynaliadwy heb unrhyw gemegau na phlaleiddiaid ac, pan ddaw at ynni, maent oddi ar y grid yn gyfan gwbl gyda system solar a stôr batri. Maent yn tyfu helyg ac mae Emma yn cynnal sesiynau gwehyddu basgedi (ar ôl dysgu gan fenyw leol fu’n rhannu ei sgiliau). Mae ffibr o got yr alpacaod yn cael ei nyddu â llaw gyda pheth ohono yn cael ei yrru i’r felin a’i droi’n wlân ar gyfer blancedi a chynnyrch fel arall. Unwaith y mis, cynhelir sesiynau sydd yn gyfuniad o weithdy ‘creu’, cerdded alpacaod a choffi a theisen ac mae’n ‘ddigwyddiad’ hyfryd, anffurfiol, gyda naws cymunedol yn gyffredinol. Rhan fawr o’r weledigaeth ydy arddangos elfennau o’u ffordd o fyw cynaliadwy i’r rhai sydd yn ymweld â’r safle:
“Rydym wastad yn cynnwys taith i’n hymwelwyr i weld yr alpacaod… ac yn sicrhau ein bod yn trafod ein polisi porfeydd di-gemegau a’n hamcan i ddilyn egwyddorion permaddiwylliant. Rydym yn trafod ac yn dangos ein system trydan oddi ar y grid, stôr batri ayb yn rheolaidd yn ogystal â’n penderfyniad i fod yn endid carbon isel” meddai Emma.
Yn dilyn cyfarfod â Jane O-Brien (cydlynydd Adfywio Cymru leol) mewn digwyddiad Atebion Mentrus, parhaodd y sgwrs ymhellach pan ymwelodd â nhw. Daethant at Adfywio Cymru am gymorth gan eu bod yn awyddus i ddod â mwy o aelodau’r gymuned leol i’r ffarm i ddysgu o’u profiadau a’u dulliau nhw, yn ogystal ag archwilio’r posibilrwydd o ddod yn ‘Fferm Ofal’. Roedd Emma wedi bod yn awyddus iawn i gefnogi pobl fregus gyda gweithdai a sesiynau ymarferol, ac wedi cefnogi gwirfoddolwyr gydag anawsterau dysgu ar y fferm dros y blynyddoedd. Rhoddodd Jane nhw mewn cysylltiad â’r mentor Jim Bowen, o Fferm Ofal Clynfyw, i’w cefnogi gydag astudiaeth dichonoldeb ar gyfer y syniad. Cafwyd sawl ymweliad, Jim i Bird Farm a nhw i Clynfyw, ble cafodd y grŵp gyfle i weld yr hyn sydd yn digwydd ar fferm ofal, cael awgrymiadau a derbyn llawer o gyngor a chefnogaeth ymarferol. Yn dilyn hyn maent wedi rhoi cais i mewn i gofrestru fel Cwmni Buddiant Cymunedol (CBC) ac am gyllid i gynnal dyddiau blas (unwaith bydd y cyfyngiadau COVID presennol yn cael eu codi.)
Mae llawer o’r datblygiadau yma wedi digwydd mewn cyfnod anodd iawn gyda Rodney yn cael diagnosis o gancr a’r driniaeth sydd ynghlwm â hynny, a thân tŷ difrodus. Ond trwy ryw wyrth, mae’r aplacaod a heddychrwydd y natur o’u cwmpas wedi rhoi’r cryfder iddynt i symud ymlaen.
Er mai grŵp bychan o bedwar cyfarwyddwr (6 aelod i gyd) ydynt, gyda sgiliau a phrofiadau gwahanol i’w cynnig, maent yn awyddus i ddatblygu ymhellach i gynnig gweithdai llesiant i gleifion cancr a’u teuluoedd ac i gyn-aelodau’r lluoedd arfog er esiampl, gweithgareddau presgripsiwn cymdeithasol, gwasanaethau gofal dydd pwrpasol ac ychydig o gyrsiau crefft ar-lein.
“Rydym wedi’n hymrwymo i weithredu’n barhaol ar newid hinsawdd ac mae Adfywio Cymru wedi’n galluogi i gynllunio o flaen llaw gyda phrosiectau newid hinsawdd a bod hyn yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen gyda’r fferm ofal. Mae holl aelodau’r grŵp yn gwbl ymwybodol o faterion newid hinsawdd ac yn dymuno datblygu unrhyw wasanaethau a chyfleusterau fel eu bod mor gynaliadwy ag sydd yn ymarferol.”
Gyda chymaint o frwdfrydedd a gwir bryder i helpu taclo newid hinsawdd, mae’n debygol bydd y grŵp yma yn mynd o nerth i nerth ac felly cadwch lygaid am ddatblygiadau pellach ar y wefan, gan gynnwys mwy o ynni adnewyddadwy, coetir a chynlluniau am Gaerdroea (maze) helyg fydd yn berffaith ar gyfer peillyddion.
Cymuned Temple Druid
Ffurfiwyd y grŵp yma yn 2014 pan roedd tŷ a thir stad 56 acr Temple Druid, ar gam Fynyddoedd y Preseli yn Sir Benfro ger Maenclochog, yn cael ei werthu. Ni chwblhawyd y pryniant tan fis Ebrill 2016 ac mae bellach wedi’i sefydlu fel corff dielw.
Mae’r tri Chyfarwyddwr presennol yn gwbl ymwybodol o’r materion sydd ynghlwm â newid hinsawdd ac yn barod i weithredu i leihau’r effaith. Eu bwriad yw canolfan encilio therapiwtig holistig o fewn fferm gynaliadwy, amgylchedd coetir, perllan a gardd cegin. Mae bod yn esiampl i eraill yn rhan fawr o’r weledigaeth gyffredinol, wrth wadd grwpiau ac unigolion ar y safle i weld a dysgu o’r effeithiolrwydd a’r cynhyrchiad ynni, i gyflwyno cyrsiau newid hinsawdd ac amgylcheddol yn y tŷ crwn, ac i gynnal y safle mewn ffordd isel ei effaith yn gyffredinol. Mae digon yma i gadw pawb yn brysur – gyda 20 acr o goetiroedd, afon a phwll, 80-90 o goed afalau ac ychydig o goed gellygen, tiroedd pori, tŷ crwn pren gyda chae, cylch cerrig, chwarel lechi segur, adeilad rhestredig gradd II (dyluniad John Nash), dwy ysgubor carreg restredig gradd II* a thyrbin gwynt!
Mae’r ganolfan yn awyddus i ganolbwyntio’n benodol ar helpu plant difreintiedig a’u teuluoedd ac oedolion bregus, ac maent wedi gweithio gyda sawl asiantaeth yn y sector cyhoeddus gan gynnig cyrsiau sydd yn gweddu’u hanghenion neu yn le iddynt ddod i fwynhau. Maent wedi cynnal cyrsiau byw yn y gwyllt, gweithdai therapiwtig teuluol, therapi un i un, cefnogaeth cyflogaeth un i un, a chyfleoedd gwirfoddoli, Mae’r prosiect ‘Grow Together’ yn cynnig sesiynau tyfu bwyd a sgiliau amgylcheddol sydd yn agored i blant bregus 7+, pobl ifanc 18-24 oed, gofalwyr a’u teuluoedd. Mae’n gymorth iddynt ddysgu am ddefnyddio offer yn ddiogel, cynllunio pa gnydau i’w tyfu, plannu a chynaeafu bwyd i’w fwyta yn ogystal â gwybodaeth faethol. Mae sawl cyfle encilio yn cael ei gynnig yn y ganolfan gyda chymysgedd o weithgareddau caru natur ymlaciol a chilfa o gynnwrf bywyd dydd i ddydd. (*Mae pob gweithgaredd cyhoeddus ar saib yn bresennol oherwydd y Coronafeirws gyda’r gobaith bydd popeth yn ail gychwyn mewn amser).
Ar ôl cysylltu gydag Adfywio Cymru, trwy’r cydlynydd lleol, a chreu cynllun gweithredu, gofynnwyd am syniadau Cymunedau Cynaliadwy Cymru am effeithiolrwydd ynni’r adeiladau, ond nid oedd hyn o fewn cylch gwaith CCC gan fod un o’r adeiladau wedi’i restru’n gradd II a’u bod eisiau ail-adeiladu hwn yn gyfan gwbl (gan gynnwys estyniadau). Felly, trodd ein cymorth mentor at ran wahanol o’r cynllun ac edrych ar yr opsiynau ynni adnewyddadwy ar y safle, gan gynnwys potensial hydro yr hen olwyn ddŵr, y tyrbin gwynt a chynhyrchiad solar/biomas a stôr ynni.
Aeth y mentor Paul Cowley am dro o amgylch y safle gan arsylwi ac awgrymu wrth fynd o gwmpas. Roedd yn gallu eu rhoi mewn cysylltiad â gosodwyr gwreiddiol offer penodol i weld os oedd potensial i’w trwsio a chael darnau newydd. Rhoddodd nhw mewn cysylltiad â’r grŵp ymchwil sydd yn cynnal peilot system pico-hydro (<5kW) ar eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Tŷ Mawr Wybrnant. Mae’n bosibilrwydd y gall hyn arwain at brosiect rhwng y ddau ar y safle.
Dywedodd Paul Cowley,
“Mae gan y grŵp llawer iawn o ynni a gyriant sydd yn help i gyfarwyddo pethau, ond mae cadw ffocws yn anodd gyda chymaint o bethau ar y rhestr gwneud! Mae her fawr yn wynebu James, a gweddill aelodau’r gymuned, ond mae ganddynt ysbryd anhygoel… i gyflawni pethau gwych.”
Mae gan y grŵp ddigon o syniadau am ffyrdd i wella bywyd ar y safle. Mae’r rhain yn cynnwys –
-datblygu cynllun rheoli coetir eu hunain ac felly’n cael ffynhonnell tanwydd cynaliadwy. Mae coed ffrwythau a choed fel arall ychwanegol wedi’u plannu ar y safle yn barod.
-darparu cynnyrch ffrwythau a llysiau organig o ansawdd uchel. Yn ymwybodol o’r effaith bydd newid hinsawdd yn ei gael a sut maent yn dewis tyfu – byddant yn cynllunio ac yn addasu fel sydd angen. Wrth ddefnyddio dulliau tyfu organig bydd ecoleg y safle yn gwella yn creu gofod i fywyd gwyllt a gofodau tyfu gwyllt.
– gallu croesawu ymwelwyr i ofod neu adeilad (y tŷ crwn yn benodol) ble gallant fagu cysylltiad a maethu perthynas â natur. Bydd y pwnc newid hinsawdd yn cael ei arddangos i ymwelwyr drwy weithgareddau a’r cyfleusterau.
– goresgyn heriau enfawr y prif adeilad rhestredig gradd II i gyflawni adeilad wedi’i insiwleiddio’n dda ac sydd yn fforddiadwy i’w gynnal a’i wresogi. Mae llosgwyr pren wedi cael eu gosod ynghyd â mesuriadau eraill fel llenni wedi’u leinio’n llawn i atal colli gwres, ond mae’n bosib bydd angen addasiadau neu estyniadau helaeth i’w wella.
– datblygu’r tai allan mewn ffordd gynaliadwy.
Felly mae digon o waith i’w cadw’n brysur a phethau i anelu amdano, ac maent yn benderfynol o wneud gwahaniaeth yn y rhan yma o Gymru!






