(gan Gavin Harvey, Cydlynydd Cynaliadwyedd a Chadwraeth, Grŵp Tai Arfordirol)
Gosod yr olygfa…
Mae Newid Hinsawdd a dirywiad bioamrywiaeth yn ddau realiti trasig. Mae’r blaned yn cynhesu, gan achosi tywydd eithafol, lefelau’r môr yn codi, ansawdd aer gwael, ac amodau byw peryglus. Mae’r tymhorau bellach yn anrhagweladwy ac anghyson. Ar Fai 3ydd eleni teithiais o Ben-y-bont ar Ogwr i Abertawe yn yr haul poeth, a dod gartref yn ôl ar yr un diwrnod, ar yr un daith, mewn eira.
I gyd fynd â hyn, mae’n harferion, ffordd o fyw a’n diwylliannau yn cyfrannu at ddinistrio cynefinoedd, dirywiad peillwyr a difodiant rhywogaethau. Yn y cyfnodau gwaethaf yn 2021 rydym wedi cael y tymheredd uchaf erioed wedi’i gofnodi yn y DU, llifogydd dinistriol yn Ewrop, a’r ddelwedd apocalyptaidd o’r môr ar dân yn Gwlff Mecsico.
Mae’n amlwg bod angen i ni weithredu nawr er mwyn lleihau a chyfyngu ein difrod ar yr amgylchedd. Mae’r cyfrifoldeb honno yn disgyn ar bob un ohonom.
Cychwyn y cyfan
Mae’r darn yna yn rhannu’r stori pan benderfynais weithredu yn 2018 wrth fynd at fy nghyflogwr gyda’r syniad am swydd newydd y dylent fuddsoddi ynddi ar frys. Tai Arfordirol oedd fy nghyflogwr, a Chydlynydd Cynaliadwyedd oedd y swydd.
Mae Tai Arfordirol yn gymdeithas tai cymdeithasol yn Abertawe sydd yn darparu cartrefi yng Nghaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, a Phen-y-bont ar Ogwr. Roeddwn i wedi bod yn gweithio i Tai Arfordirol ers 5 mlynedd fel Gofalwr. Fy mhrif ddyletswyddau oedd codi sbwriel, torri gwair, gwrychoedd, llwyni a choed, rheoli chwyn, atgyweirio a chynnal a chadw ystadau, a glanhau. Roeddwn i wedi bod yn cynnal a chadw gerddi a thirweddau cymunedol ers sawl blwyddyn cyn hynny mewn gwaith blaenorol.
Rwy’n caru garddio. Rwy’n caru natur. Rwy’n caru’r tymhorau a’r tywydd. Mae’r gwasanaeth gofalwr yn Tai Arfordirol yn un eithaf agos atoch, gan fod gan bob gofalwr ei ‘gynlluniau’ dynodedig ei hun i’w cynnal. Er bod y rhan fwyaf o wasanaethau ystâd yn dibynnu ar dimau o weithwyr i ymweld â nifer o safleoedd bob dydd, mae ein gofalwyr ni yn weithwyr unigol ran amlaf, ac yn mwynhau’r fraint o allu treulio mwy o amser yn y cymunedau penodol maent yn gwasanaethu. Roeddwn yn ffodus iawn eu bod wedi gofyn i mi gynnal tirweddau prydferth cymuned hyfryd Ynys Lee yng Nghwmafan, Port Talbot. Mae Ynys Lee yn gymuned o 93 cartref ar dirweddau llethrog Cwm Afan. Mae tiroedd Ynys Lee yn amrywiol iawn, gan gynnwys nentydd, coetiroedd bach, taith gerdded natur, rhandiroedd cymunedol, a maes chwarae cymunedol. Ac mae tywydd Ynys Lee yr un mor amrywiol! Ar ei orau gall fod yn heulog, yn llonydd ac yn syfrdanol. Ac ar ei fwyaf eithafol gall fod yn eira, stormus, ac weithiau’n codi ofn! I rywun sydd yn caru garddio, natur, tymhorau a thywydd, am fraint oedd cael cynnal y tirweddau hyn.
Roedd fy syniad o ardd neu dirwedd lwyddiannus yn wahanol iawn bryd hynny i nawr. Roedd gen i obsesiwn gyda lawntiau taclus, llwyni geometrig perffaith, ac arwynebau di-chwyn. Roedd yr obsesiwn yma yn caniatáu i mi gadw’r tirweddau i safon uchel iawn. Roedd popeth yn lân, yn unffurf ac yn addurniadol. Roedd cymuned Ynys Lee yn gyfarwydd â’r dirwedd yn cael ei gynnal yn y ffordd yma. Dywed yn aml fod posib adnabod ystâd Tai Arfordirol yn ôl ei dirweddau perffaith. Roedd hyn yn rhywbeth roeddem yn falch iawn ohono.
Roeddwn yn astudio garddwriaeth ymarferol gyda’r Gymdeithas Arddwriaeth Frenhinol yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr ar yr un cyfnod â’r gwaith gofalu yn Ynys Lee. Cefais gyflwyniad i fodiwl garddwriaeth gynaliadwy ar y cwrs yma. Dysgais am gompostio, rheoli chwyn yn organig, garddio ar gyfer natur, gwastraff gardd ac ailgylchu ac ati. Roedd gen i ddiddordeb mawr yn y modiwl yma ac ymhen amser, roedd y dysgu newydd wedi amlygu pa mor niweidiol oedd fy arferion yn Ynys Lee.
—————–
“Roedd fy obsesiwn am dirweddau addurniadol mor niweidiol i’r amgylchedd a’r bywyd gwyllt lleol. Sylweddolais fod gen i gyfrifoldeb i gynnal y tirweddau mewn ffordd a oedd yn gofalu am y bywyd gwyllt a’r amgylchedd lleol, yn hytrach nag y trigolion lleol yn unig.”
—————–
Roeddwn eisoes yn ymwybodol o’r argyfwng hinsawdd, ac roeddwn yn eithaf awyddus i wneud yr hyn y gallwn i leihau fy nghyfraniad at gynhesu byd-eang gartref. Newid i ddarparwr ‘ynni gwyrdd’, ailgylchu, compostio gwastraff gwyrdd, addysgu fy merched ifanc ar bwysigrwydd gofalu am yr amgylchedd a bywyd gwyllt. Ond, am y tro cyntaf, sylweddolais faint o ddifrod amgylcheddol oedd yn cael ei wneud dros 8 awr bob dydd yn fy ngwaith yn Ynys Lee. Dechreuais deimlo’n euog iawn, ac ar y pwynt yma, newidiodd fy ffordd o feddwl am dirwedd lwyddiannus.
Y ffordd gall pethau newid…
Fe es ati i ddechrau archwilio sut y gallwn arddio ar gyfer natur a bywyd gwyllt yn Ynys Lee. Gadewais i rai lawntiau dyfu a blodeuo, a glynais at yr ymgyrch hyfryd ‘No Mow May’ am y tro cyntaf (https://www.plantlife.org.uk/uk/discover-wild-plants-nature/no-mow-may). Dechreuais ailgylchu’r gwastraff gwyrdd a’i ailddefnyddio ar y dirwedd fel compost neu domwellt. Arbrofais â ‘chwyn’, gan ganiatáu iddynt dyfu, a chydnabod eu bod yn gallu cynnig cyfleoedd peillio.
Perswadio pawb?
Roedd y dull newydd yma wedi sbarduno trigolion lleol i siarad. Ar y cychwyn, fel y gallech ddychmygu, roedd cymysgedd o adborth positif a negyddol. Roedd hwn yn ddull hollol newydd i’r preswylwyr. Roedd hyn yn ddiarth iddynt, gweld lawntiau heb eu torri, dail yr hydref yn cael eu defnyddio i bentyrrau tomwellt neu gynefin, chwyn yn cael eu trin fel planhigion blodeuol, neu’r coetir yn llai o ardd addurniadol ac yn fwy o… goetir! Ond roedd pob sgwrs, hyd yn oed y rhai a gychwynnodd o adborth negyddol, yn gyfle i gyfathrebu’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth gyda thrigolion. Roedd y mwyafrif llethol o amheuwyr yn gwerthfawrogi’r dull ar ôl deall y rhesymau. I amddiffyn yr amgylchedd, a gwarchod bywyd gwyllt, er budd cenedlaethau’r dyfodol. I atal y blaned rhag dod yn annioddefol i sawl un o’i amrywiol rywogaethau rhyfeddol. Gan gynnwys ni, yn y pen draw!
Wrth gydnabod y cyfle yr oeddwn wedi’i greu i mi fy hun i wella effaith amgylcheddol fy ngwasanaeth, i hyrwyddo cynaliadwyedd, ac i gyfleu’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth i gynulleidfa amrywiol, dechreuais feddwl tybed pa wahaniaeth gellir ei wneud, a pha gynulleidfa gellir ei gyrraedd, pe bai’r Gwasanaeth Ystadau cyfan yn mabwysiadu’r dull yma. Felly defnyddiais fy mhrofiadau a fy nysgu i ddylunio a chyflwyno achos busnes i fwrdd Cyfarwyddo Tai Arfordirol. Achos busnes oedd hwn i greu rôl newydd sbon. Un a fyddai’n cael y dasg o archwilio pa gyfleoedd sydd ar gael ledled y sefydliad i leihau a chyfyngu ein difrod amgylcheddol o fewn y Gwasanaeth Ystadau cyn gynted â phosib. Cafodd yr achos busnes ei dderbyn yn unfrydol, a chefais gyfle hael i weithio ar secondiad am 12 mis i archwilio’r galw am y rôl.
Y rôl newydd…
Yn ystod 6 mis cyntaf y secondiad, aethom ati i gyflwyno mentrau newydd ar y safle fel compostio, llai o dorri gwair mewn rhai ardaloedd, a chyfleusterau ailgylchu deunyddiau. Gosodwyd rhandiroedd newydd, gwelyau uchel newydd a gerddi cymunedol cyfeillgar i gadeiriau olwyn. Bûm yn cynorthwyo i sefydlu grwpiau garddio cymunedol newydd. Newidiwyd meini prawf ein cystadleuaeth arddio i breswylwyr fel ei fod yn dathlu gerddi a oedd o fudd i natur a’r amgylchedd. Defnyddiwyd bob digwyddiad cymunedol tymhorol fel cyfle i hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol. Yn nigwyddiadau’r gwanwyn aethom ati i greu bomiau hadau blodau gwyllt gyda phlant lleol a siarad am bwysigrwydd peillwyr. Yn yr hydref, ar ôl cerfio pwmpenni gyda phlant lleol, casglwyd yr hadau i roi i‘r adar a bywyd gwyllt arall, a chynigwyd y gwastraff cerfio pwmpenni i’r gwiwerod a’r llwynogod. Adeg y Nadolig aethom ati gyda’r plant lleol i greu bwyd ceirw oedd yn cael ei gymeradwyo gan y RSPB, er mwyn lleihau ar y llwch disglair a’r conffeti sydd yn cael ei wasgaru’n ddiofal ar adeg yma’r flwyddyn. Bûm hefyd yn helpu ‘Repair Café Wales’ i gynnal eu caffi cyntaf yng Nghastell-nedd, gan gynnig neuadd gymunedol a helpu i gynnal caffis ar eu cyfer. Mewn caffis atgyweirio, gwahoddir trigolion lleol i ddod ag unrhyw eitemau sydd wedi torri neu wedi’u difrodi a bydd gwirfoddolwyr medrus lleol yn ceisio eu trwsio. Pan fues i’n helpu cynnal caffis llwyddom i drwsio ymbarél, cadair mynd yn ôl, peiriant sythu gwallt, bwrdd pincio, a mwy, ac arbed y rhain rhag cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi. Mae ‘Repair Café Wales’ yn hyrwyddo cydlynu cymunedol, rhannu sgiliau, lleihau gwastraff, a bob amser yn cynnig digonedd o de a chacennau yn y caffis! Rwy’n argymell dod o hyd i’ch caffi lleol ac ymweld neu wirfoddoli. (https://repaircafewales.org/)
Cafodd fy swydd ei gwneud yn un parhaol yn y cyfnod yma, a chefais fwy o ryddid i archwilio’r galw a’r cyfle.
Cynllun addewidion…
Yn ystod y 6 mis nesaf aethom ati i ddylunio ‘Rhaglen Cynlluniau Cynaliadwy’, oedd yn gofyn i bob gofalwr i wneud ‘addewidion’ cynaliadwy ar y cynlluniau cynhaliwyd ganddynt. Roedd ‘addewidion’ yn cynnwys ardaloedd lle’r oedd llai o dorri gwair, lleihau defnydd cemegau, hau blodau gwyllt, plannu coed, compostio, lleihau gwastraff, casglu dŵr, gosod cynefinoedd ac ati. Cyn i ni redeg y rhaglen, mesurwyd faint o’r addewidion a oedd yn cael eu cyflawni heb unrhyw ymyrraeth. Ar y pryd, dros y gwasanaeth i gyd, roedd 167 o addewidion yn cael eu cyflawni. Ar ôl casglu’r data hwn, dechreuwyd cynyddu ymwybyddiaeth o’r addewidion, yn enwedig y rhai heb fawr yn ymgysylltu. Anogwyd gofalwyr i fod yn greadigol, ac i siarad â’u cymunedau perthnasol am yr hyn yr hoffent ei weld. Ar ôl blwyddyn o hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth casglwyd y data eto, gan fesur faint o addewidion oedd yn cael eu cyflawni gan y gwasanaeth cyfan. Roedd y nifer wedi codi o 167 i 323, sydd bron yn ddwbl nifer yr addewidion. Y tro yma gofynnwyd i’r gofalwyr awgrymu cynigion ar gyfer y flwyddyn ganlynol, addewidion nad oeddent yn eu cyflawni ar hyn o bryd ond bod ganddynt ddiddordeb yn eu harchwilio. Cynigiwyd 198 o gynigion gan ein tîm. Roedd pob addewid unigol yn dangos ymgysylltiad cadarnhaol.
—————–
“Roedd y gwasanaeth bellach yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd nag erioed o’r blaen. Ac mae ein tirweddau yn fwy bioamrywiol, synhwyraidd, ac yn gallu gwrthsefyll newid hinsawdd. Ac roedd sgyrsiau pwysig yn digwydd mewn nifer o gymunedau.”
—————–
O ganlyniad llwyddiant y Rhaglen Cynlluniau Cynaliadwy cawsom statws ‘Caru Gwenyn’, sydd yn achrediad a gynigir gan Lywodraeth Cymru i sefydliadau sydd yn rhagori ar amddiffyn a hyrwyddo peillwyr. Roeddem wedi cynyddu ein poblogaeth blodau gwyllt, wedi lleihau ein defnydd o beiriannau petrol, wedi lleihau ein defnydd o Lyffosad, ac wedi hyrwyddo pwysigrwydd peillwyr mewn digwyddiadau cymunedol.
Mae cynlluniau ar y gweill gyda’r Rhaglen Cynlluniau Cynaliadwy i gynnal tudalen ar ein gwefan lle gall preswylwyr gael mynediad i’r addewidion sydd yn cael eu cyflawni yn eu hardaloedd. Bydd hyn yn rhoi cyfle iddynt awgrymu addewidion newydd eu hunain ac i helpu dylunio sut mae’r tirweddau’n cael eu cynnal. Y nod fyddai creu gwasanaeth mor rhyngweithiol a chydweithredol â phosibl.
Grŵp Cynaliadwyedd
Tra bod yr holl waith yna’n digwydd gyda’r Tîm Ystadau, roedd y Grŵp Tai Arfordirol wedi ymgynnull Grŵp Cynaliadwyedd yn cynnwys aelodau staff a ddangosodd diddordeb mewn cynaliadwyedd. Roedd y gynrychiolaeth yn amrywiol, gan gynnwys aelodau staff o Wasanaethau Cwsmeriaid, Datblygu, Cyllid, Cyfleusterau, Cynnal a Chadw, Adnoddau Dynol ayb. Pwrpas y grŵp oedd archwilio sut y gallem wella cynaliadwyedd amgylcheddol y sefydliad cyfan. Roedd llwyddiannau’r grŵp yn cynnwys newid i bapur ecogyfeillgar, cynyddu cyfleusterau ailgylchu yn ein swyddfeydd, a chychwyn cynllun plannu coed gyda 500 o goed brodorol newydd yn cael eu plannu yn 2019, a 630 arall yn 2020. Gyda’r dymuniad o wneud ein taith mor gydweithredol ac mor gynhwysol â phosibl, rydym yn gwneud cynlluniau i greu Grŵp Cynaliadwyedd preswylwyr, lle byddem yn cyflwyno ein cynnydd gyda grŵp amrywiol o breswylwyr, a chynnig cyfle iddynt roi adborth a rhannu syniadau. Byddant yn gallu cyfathrebu’n uniongyrchol â ni i ddweud sut byddai unrhyw newidiadau i bolisïau neu weithdrefnau newydd, mwy cynaliadwy, yn cael effaith ar eu cymunedau. Byddant hefyd yn cael eu herio i ddod yn hyrwyddwyr cynaliadwyedd cymunedol ac i gydweithio i drafod ffyrdd y gallant hyrwyddo a dylanwadu ar newid cadarnhaol yn eu cymunedau.
Rwyf bellach yn fy nhrydedd flwyddyn fel Cydlynydd Cynaliadwyedd a Chadwraeth. Mae’r cyfnod yma wedi dysgu llawer i mi, ac rwy’n falch iawn o’r camau cadarnhaol yr ydym ni a’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu wedi eu cymryd tuag at gynaliadwyedd amgylcheddol. Mae dull ‘Datblygu Cymunedol yn Seiliedig ar Asedau’ wedi helpu ni i gydnabod pwysigrwydd gweithio ‘gyda’ a ‘gan’ gymunedau, a pheidio â gwneud ‘i’ neu ‘ar ran’ (https://www.nurturedevelopment.org/asset-based-community-development/). Mae newid i gymdeithas mwy amgylcheddol gynaliadwy yn un amrywiol a chymhleth, ac ni ellir tybio bod pawb yn barod am y trawsnewid hwnnw. Mae cymunedau’r un mor amrywiol. Mae gwahanol bobl yn ymgysylltu â newid hinsawdd mewn gwahanol ffyrdd. Mae rhai pobl yn hoff o’r buddion iechyd cyhoeddus. Eraill, y buddion i fywyd gwyllt a natur. Mae rhai yn cydnabod y buddion economaidd, ac efallai na fydd eraill yn ymwybodol o unrhyw fuddion. Mae’n hanfodol bod y broses yn cael ei chyfathrebu’n dda. Mae addysg a chydweithio yn allweddol. Ac mae cyfleoedd i addysgu a chydweithio yn cyflwyno’u hunain pan fyddwn yn penderfynu gweithredu. Penderfynais weithredu 3 blynedd yn ôl, heb edrych yn ôl ers hynny.
Mwy o waith i ddod…
Rwy’n gweithio ar brosiectau cyffrous ar hyn o bryd, gan gynnwys gosod to gwyrdd byw yn ein swyddfa yn Abertawe a chyflwyno Calendr Cynnal a Chadw Ystadau fydda, o bosib, yn gallu haneru unrhyw ddifrod amgylcheddol a achosir gan ein Gwasanaethau Ystadau. Byddwn yn ffurfioli ein cynlluniau cynnal a chadw ystadau cydweithredol cyntaf, lle bydd preswylwyr yn ein helpu i ddylunio sut mae’r tirweddau yn cael eu cynnal. Rydym yn cynllunio Strategaeth Ymgysylltu â Phreswylwyr newydd a fydd yn ategu lansiad y Grŵp Cynaliadwyedd Preswylwyr, i sicrhau bod egwyddorion cydweithredu ac ymgynghori yn cael eu hymgorffori yn y grŵp. Mae Adfywio Cymru yn cynnig cefnogaeth mentora ar gyfer hyn ac wedi helpu i hwyluso perthynas â ni ein hunain a TPAS Cymru pan ddaw at ymgysylltu â thrigolion. Rydym yn addasu rhaglen hyfforddi ‘Llythrennedd Carbon’ i staff a thrigolion. Mae Llythrennedd Carbon yn gwrs a ddyluniwyd gan yr Ymddiriedolaeth Garbon ac mae’n cael ei gyflwyno yng Nghymru gan Cynnal Cymru. Mae nifer o’n staff wedi cwblhau’r hyfforddiant, ac mae rhai wedi’u cymhwyso fel hyfforddwyr Llythrennedd Carbon. Defnyddir yr hyfforddiant i gynyddu ymwybyddiaeth o’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth, ac i gyfleu’r rheswm dros ein huchelgais i ddod yn fodel mwy cynaliadwy.
Mae cymaint mwy yn digwydd yn Tai Arfordirol, o gynyddu niferoedd a seilwaith ein faniau trydan, i adeiladu cartrefi a chymunedau ecogyfeillgar arloesol newydd. O osod wal werdd fyw gyntaf Canol Dinas Abertawe, i gefnogi gwasanaeth eFeic cymunedol a ariennir gan dorf.
Cysylltwch….
Os hoffech wybodaeth bellach am ein gwaith Cynaliadwyedd, mae croeso i chi gysylltu â mi ar gavinh@coastalha.co.uk. Rwyf yn hapus i sgwrsio a chydweithio gyda’r rhai sydd â diddordeb mewn Cynaliadwyedd. Yn aml, mae’n well mynd i’r afael â’r atebion i argyfwng hinsawdd fel cymuned. P’un a yw hyn yn gymuned o breswylwyr, yn gymuned o weithwyr proffesiynol, neu’n gyfuniad o’r ddau. Gyda’n gilydd gallwn greu’r newidiadau ar lawr gwlad a fydd yn helpu i ddylanwadu ar newidiadau cymdeithasol mwy. A helpu i wella iechyd a lles pobl a chymunedau am genedlaethau i ddod.
Wrth ymgysylltu â chynaliadwyedd, byddwch yn cyfrannu at blaned fwy cynaliadwy. Am gyfraniad bonheddig, moesegol a gwobrwyol. Anrheg i genedlaethau’r dyfodol. Da iawn i bawb ar y siwrnai honno, ac i’r rhai sydd ar fin cychwyn ar y daith.
A diolch i chi Adfywio Cymru am eich cefnogaeth barhaus.
Gavin Harvey
*** Ennillodd Gavin y Wobr Arweinyddiaeth yng Nghwobrau CHI Cymru am ei waith cynaladwyedd gyda Coastal a’u cymunedau.***

