Mae Cymorth Ymddygiad Heriol (CBS), grŵp sydd wedi cymryd rhan yn rhaglen ‘Hwb i’r Hinsawdd’ Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol dros y flwyddyn ddiwethaf, heddiw wedi cyhoeddi deunyddiau dwyieithog ar gyfer cymunedau am sut i ddelio gyda llifogydd.
Maent wedi ei lleoli ym Mhontypridd, tref a brofodd llifogydd mawr ar fwy nag un achlysur dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae teuluoedd wedi’u gadael yn bryderus ac yn ofni pan ddaw glaw mawr.
Felly aethant ati i feddwl am ymateb a fydd yn helpu rhieni a phlant, yn nhermau cynllunio ag osgoi ac hefyd i ddelio gydag achos o lifogydd.
Gallwch weld y pamffled a’r fideo ar ei gwefan yma

