Mae Plwyf Casllwchwr, ym mhen gorllewinol pellaf Abertawe, yn gartref i ddau o eglwysi’r Eglwys yng Nghymru – Sant Mihangel a Dewi Sant. Rhyngddynt, maent wedi sefydlu Pwyllgor Eglwys-Eco i’w harwain trwy Gynllun Eglwys-Eco A Rocha, wedi iddynt gofrestru amdano yn fis Medi 2018. Mae dau adeilad yr eglwys yn wahanol iawn i’w gilydd ac yn cyflwyno heriau gwahanol hefyd. Mae Sant Mihangel yn adeilad traddodiadol gyda mynwent o’i hamgylch, tra bod Dewi Sant yn adeilad bric fodern gyda phwrpas deublyg fel Eglwys a neuadd. Mae oddeutu 60 o aelodau yng nghynulleidfa gyfunol y ddwy eglwys.
Daeth y diddordeb i sefydlu’r Cynllun Eglwys-Eco i’r amlwg yn dilyn gwybodaeth gan Gill Knight a chytunodd y plwyf i gymryd rhan, gan greu grŵp i arwain y gwaith. Roeddent yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o’r effaith mae newid hinsawdd yn ei gael ac i wella effaith ecolegol y ddwy eglwys yn ogystal â gweithgareddau unigol yr aelodau. Mae gan y grŵp bump o aelodau brwdfrydig iawn.
Cofrestrwyd ar gyfer cefnogaeth Adfywio Cymru yn fis Mehefin 2019 ac ers iddynt gynnal sesiwn cynllun gweithredu gyda’r cydlynydd lleol, Philip McDonnell, maent wedi bod yn weithgar dros ben. Ar y cychwyn adnabuwyd bod angen cynnal archwiliad ynni i ddarganfod dulliau i leihau’r defnydd o ynni, mwy o gyfathrebu gyda chynulleidfa’r eglwysi a’r gymuned ehangach ar faterion amgylcheddol a’r cynllun Eglwys-Eco, i archwilio dichonoldeb cyflwyno’r cynllun Teracycle yn yr eglwysi, ac i archwilio’r potensial o wella’r tir ar gyfer bywyd gwyllt. Y teimlad oedd y byddai hyn yn help i symud ymlaen gyda’r cynllun Eglwys-Eco (tuag at wobrau efydd ac arian).
Maent wedi cyflawni llawer iawn o weithgareddau ar amrywiaeth o ‘bynciau’; mae darn o lawnt wedi cael ei balu tu allan i Sant Dewi i blannu blodau gwyllt ac i hongian bwyd adar; arwyddion wedi’u gosod i atgoffa pobl i ddiffodd y golau; sgwrs am gynnyrch Fairtrade wedi’i gyflwyno i’r ‘Grŵp Coffi’; taith gerdded o amgylch ffiniau’r tir ar Sul y Gweddïau; sawl sesiwn codi ysbwriel; rhannu darnau o gyngor Eco mewn cylchlythyrau wythnosol – a dim ond rhai o’r pethau yw’r rhain.
Maent hefyd yn gweithio gyda’r elusen Teracycle ac wedi gosod mannau casglu yn yr adeiladau. Mae hyn wedi cael ei wneud mewn partneriaeth â’r ysgol gynradd leol ac wedi bod yn llwyddiant mawr gyda 30kg wedi’i yrru hyd yn hyn, a 16 o sachau yn barod i fynd eto!
Cynhaliodd Cymunedau Cynaliadwy Cymru arolwg ynni yn y ddau adeilad a chynnig sawl syniad ac opsiwn i’r grŵp – gyda chamau bach i’w cymryd nawr yn ogystal â chamau ar gyfer y dyfodol pan fydd cronfa’r eglwysi yn caniatáu iddynt gyflawni gwelliannau mwy.
Rhoddodd y grŵp gais i mewn ar gyfer y wobr Eglwys-Eco a derbyniwyd Gwobr Efydd yn fuan mis Gorffennaf 2019, dau fis yn gynt nag yr oeddent wedi’i fwriadu – am gyflawniad!
Ymhen dim roedd pobl wedi clywed am eu llwyddiant a gofynnwyd i Eileen a Gillian i gyfrannu tuag at ffilm fer wedi’i greu gan Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu. Mynychwyd Cynhadledd Newid Hinsawdd yng Nghasnewydd yn Hydref 2019 (ble rhannwyd eu profiadau’n anffurfiol mewn gweithdy). Gofynnwyd hefyd iddynt roi cyflwyniad llawn yn nigwyddiad Eglwysi’n Gweithredu ar Newid Hinsawdd yng Nghlydach, Abertawe.
Yn fuan yn 2020 derbyniodd y grŵp sesiwn mentora gan Neil Barry, trwy Adfywio Cymru, ar sut i wella bioamrywiaeth a bywyd gwyllt ar y ddau safle, fel plannu perlysiau a blodau peillio, compostio, cynilo dŵr, blychau adar, pentyrrau pren ac ati. Roedd angen caniatâd gan y cyngor i blannu coed ffrwythau – ac mae coed eirin wedi cael eu prynu a’u plannu – rhodd gan aelodau’r eglwys er cof anwyliaid. Y gobaith yw y bydd y camau hyn yn helpu iddynt gyrraedd y wobr Eglwys-Eco arian.
Dywedodd Eileen Bartlett, aelod allweddol o’r grŵp:
“Rydym yn falch iawn o gael galw ein hunain yn Eglwys-Eco, ac fel grŵp rydym yn teimlo’n gryfach nac erioed i ymgyrchu ar faterion newid hinsawdd. Mae aelodau’r grŵp yn aml ynarwyddo deisebau ar-lein fel unigolion, ac wedi cysylltu â’r AS lleol sawl gwaith, yn eu hannog i weithredu ar sawl mater hinsawdd (e.e. Help the Oceans). Rydym hefyd wedi cysylltu â’r cynghorau tref leol yn eu hannog i gofrestru fel Cynghorau Argyfwng Hinsawdd, ac rydym yn falch iawn eu bod wedi gwneud hynny. Mae cefnogaeth Adfywio Cymru wedi rhoi mwy o hygrededd i ni fel grŵp, gan ein bod wedi derbyn cymorth proffesiynol gyda’n sefyllfa leol, yn ogystal ag teimlo fel rhan o sefydliad cenedlaethol.”
Mae’r grŵp yn ymroddedig o hyd i gyflawni gwelliannau parhaol a gweithredu mwy pan allant i leihau’r effaith maent yn ei gael ar yr amgylchedd, a bydd hyn yn ei dro yn eu helpu i gyrraedd y nod nesaf o wobr Eglwys-Eco Arian pan fyddant yn gwneud cais yn y misoedd nesaf. Maent yn awyddus ac yn barod i rannu eu profiadau ac i gefnogi grwpiau cymunedol eraill ac, yn bresennol, maent yn cynnig cymorth i chwaer-eglwys sydd yn cychwyn ar ei siwrne Eglwys-Eco.





