Mae’n annhebyg iawn y gallem gyflawni neu greu dyfodol gwell os nad allem ddychmygu a ‘theimlo’ hynny mewn gwirionedd. Y rhagosodiad yma yw sail prosiect diweddar sydd yn cael ei arwain gan CGGC – Prosiect Dyfodol Gwell Cymru (mewn partneriaeth â’r Ysgol Ddyfodol Ryngwladol), a ddefnyddiodd dychmygu’r dyfodol i ymestyn y dychymyg cyfunol am yr hyn a allai fod yn bosibl yn y dyfodol. Cynhaliwyd y prosiect o fis Hydref 2020 – Mehefin 2021, yn gweithio gyda thair cymuned ledled Cymru i ddatblygu eu gweledigaeth ar gyfer dyfodol gwell (manylion pellach am y prosiect ar gael yma… https://wcva.cymru/cy/projects/dyfodol-gwell-cymru-prosiect-rhagolwg-cymunedol/)
Ym mis Hydref 2021 rhoddwyd y cyfle i fentoriaid a chydlynwyr Adfywio Cymru i gymryd rhan mewn dau weithdy a ddatblygwyd gan ddefnyddio pecyn cymorth Dyfodol Gwell Cymru; https://wcva.cymru/wp-content/uploads/2021/03/ADEILADU-DYFODOL-GWELL-Pecyn-cymorth.pdf.
Cyflwynwyd y cyfranogwyr i’r fethodoleg ac archwilio sut gellir defnyddio’r teclynnau i hwyluso sgyrsiau gwahanol a phwerus am y dyfodol. Cafodd y cyfranogwyr eu tywys trwy’r teclynnau amrywiol, gan gychwyn gyda ‘breuddwydion mawr’ a datblygu ‘Hadau Newid’ positif. Roedd y cysyniad ‘Hadau’ wedi cael ei ddatblygu gan brosiect Good Anthropocene oedd yn eu diffinio fel; ‘annhebygol o fod yn adnabyddus neu sydd wedi’i rannu’n helaeth. Maen nhw’n gallu bod yn fentrau cymdeithasol, yn dechnolegau newydd, yn declynnau economaidd, yn brosiectau ecolegol-gymdeithasol, neu’n sefydliadau, yn fudiadau neu’n ffyrdd newydd o weithredu sy’n ymddangos fel eu bod yn cyfrannu at greu dyfodol sy’n gyfiawn, ffyniannus a chynaliadwy.’
Defnyddir y ‘Hadau Newid’ i gychwyn sgyrsiau positif ac egnïol am ddyfodol cadarnhaol ac i archwilio sgîl-effaith y mae syniadau neu brosiectau neu arloesi ar raddfa fach yn ei gael. Roedd y cyfranogwyr yn defnyddio ‘olwynion y dyfodol’ i archwilio effeithiau lefel cyntaf ac ail lefel ‘hadau newid’ pe byddent yn dod yn gyffredin.
Diagram 1 – Templed Olwynion y Dyfodol
I roi enghraifft, un o’r hadau defnyddiwyd yn y Gweithdy Adfywio Cymru oedd bod ‘Cymunedau wedi gallu hawlio perchnogaeth o ofodau cyhoeddus nas defnyddir ar gyfer hamdden, maes chwarae neu dyfu a rennir’. Trafododd y grŵp effeithiau lefel cyntaf, fel cael gofod corfforol i ryngweithio, y gallu i dyfu bwyd ar gyfer y gymuned ac i fwynhau gofod corfforol wedi ei wella. Disgrifiwyd yr effeithiau ail lefel fel gwytnwch cymunedol gwell, llai o dlodi bwyd, balchder yn yr ardal leol a rhannu sgiliau rhwng y cenedlaethau.
Bu’r cyfranogwyr yn gweithio gyda 6 Hedyn ac anogwyd iddynt feddwl am themâu oedd yn codi o’r sgyrsiau ac i ddefnyddio’r rhain i ddatblygu ‘datganiadau dyfodol o ddewis’.
Er enghraifft; un o’r datganiadau dyfodol o ddewis a gafodd ei ddatblygu gan y grŵp oedd; ‘Mae gan gymuned gysylltiedig a grymus, gyda chyfranogiad eang, y cyfalaf cymdeithasol a’r sgiliau i fwrw ymlaen gyda syniadau cytunedig.’
Yna defnyddir y datganiadau yn y gweithgaredd ‘Tri Gorwel’ sydd yn archwilio’r dyfodol o ddewis, y cyfnod presennol a’r amser a’r pellter rhwng y ddau. Mae’r broses yma yn caniatáu i chi archwilio bylchau, rhwystrau a heriau tuag at gyflawni’r dyfodol o ddewis.
Diagram 2 – Templed Tri Gorwel
Mae hwn yn declyn pwerus gan ei fod yn cyfleu’r ‘tri gorwel’ yn yr un lle gweledol ac yn gosod y weledigaeth mewn cyd-destun. Mae’r gweithgaredd yma yn gorffen gyda datblygu’r datganiadau gweithredu gellir eu defnyddio i ddatblygu cynllun neu strategaeth benodol gan ddefnyddio’r goeden gynllunio (gweler isod). Mae’r goeden gynllunio yn cysylltu taith y dyfodol gyda chynllunio strategol wrth rhoi nôd a ffordd ymlaen pendant a all gael ei ymgorffori i mewn i’r strategaeth. Bellach mae’r grŵp neu’r gymuned wedi dychmygu dyfodol gwahanol ac wedi creu cynllun am y newid hoffant ei weld.
Diagram 3 – Templed Y Goeden Gynllunio
Am ddisgrifiad mwy manwl o’r teclynnau defnyddir, edrychwch ar y blog yma; https://wcva.cymru/cy/views/allwch-chi-ddim-rheolir-dyfodol-ond-gallwch-chi-ddylanwadu-arno/
Roedd y grŵp yn frwdfrydig iawn wrth gymryd rhan ymhob sesiwn ac yn mwynhau rhoi bywyd i’r pecyn cymorth wrth weithio ar esiamplau ac archwilio gwahanol ffyrdd o gysylltu gyda grwpiau a chymunedau.
Mae’r pecyn cymorth yn un modiwlaidd ac felly gellir defnyddio unrhyw un o’r teclynnau yn annibynnol. Gellir defnyddio pob teclyn mewn gosodiad wyneb i wyneb neu ar-lein hefyd (gan newid y bwrdd Miro i siart-troi a phapur post-it).
Diolch i rwydwaith Adfywio Cymru am gofleidio’r cyfle i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau wrth feddwl am y dyfodol… edrychwn ymlaen at glywed sut mae’r teclynnau yn cael eu rhoi ar waith ar draws Cymru!
Aimee Parker
(Ymddiheuriadau os ydy’r geiriau ar y diagramau yn fach- ewch i’r ddolen gyntaf yn y darn hwn am olwg gwell ar esiamplau).




