Gweithio gyda phobl ifanc i weithredu ar yr hinsawdd
Mae County in the Community (CITC) yn defnyddio pŵer chwaraeon, addysg a hyfforddiant i ymgysylltu â holl aelodau’r gymuned yn Ne Ddwyrain Cymru – waeth beth fo’u hoedran, ethnigrwydd, gallu corfforol neu statws economaidd. Sefydlwyd CITC ym mis Medi 2013, pan enillodd Clwb Pêl-droed Sir Casnewydd statws cynghrair pêl-droed, ac ym mis Mehefin 2015 daeth yn elusen gofrestredig. Trwy gyflawni eu prosiectau amrywiol eu nod yw newid bywydau, ysbrydoli cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol a hefyd gwella iechyd a lles, gan weithio’n galed i adeiladu mwy o gydlyniant cymunedol.

Daeth CITC i Egin oherwydd eu bod eisiau bod yn fwy ecogyfeillgar fel elusen, newid eu harferion a chynnwys cefnogi a gwarchod yr amgylchedd ar draws eu gweithgareddau amrywiol. Roedd hyn yn cynnwys popeth o gyflwyno rhaglenni mewn ysgolion a chymunedau, i sut maent yn delio â’u gwastraff yn y swyddfa. Un rhan bwysig o hyn oedd trwy ymgysylltu â’r tîm staff ar newid hinsawdd a’r amgylchedd ac archwilio pa gamau y gallant eu cymryd i fod yn fwy cynaliadwy. Mae’r tîm CITC, yn enwedig Deiniol Parselle (Cydlynydd Chwaraeon Ysgol ac Eco) yn dod â llawer iawn o frwdfrydedd a phositifrwydd i’w gwaith ac mae ganddynt botensial mawr i ysbrydoli’r grwpiau a’r cymunedau efo pwy mae nhw’n gweithio.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu’r grŵp yn gweithio gydag Aimee Parker fel eu Hwylusydd. Wrth dderbyn cymorth trwy Egin, cafodd CITC gyfle hefyd i gymryd rhan mewn Hyfforddiant Llythrennedd Carbon y flwyddyn llynedd, yn ogystal ag arddangos eu gwaith gydag ysgolion partner yn Cwrdd Mawr Egin ym Mhontypridd mis Mai 2024.

Bydd y grŵp yn gweithio gydag Isla Horton dros y misoedd nesaf i archwilio sut y gallant ymgorffori addysg amgylcheddol a gweithredu yn eu rhaglen ysgolion. Cyfarfu’r grŵp am y tro cyntaf ag Isla yng nghynulliad yr Egin, lle dangosodd i ddisgyblion sut i ddefnyddio technegau origami i wneud potiau ar gyfer planhigion. Mae’r grŵp yn edrych ymlaen at weithio gydag Isla ac archwilio sut y gallant gryfhau eu rhaglen addysg a magu hyder fel tîm o staff wrth ei chyflwyno.
Yn y dyfodol hoffent gael mwy o gyfleoedd hyfforddi i’w staff gymryd rhan ynddynt. Maent yn credu bod y staff yn chwarae rhan allweddol wrth ysbrydoli eu hunain, ei gilydd, a’r cymunedau efo pwy mae nhw’n gweithio i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn eu bywydau beunyddiol. Maent hefyd yn anelu at gefnogi dau brosiect eco mewn ysgolion yn y flwyddyn ysgol nesaf.
Mae’r grŵp wedi datgan bod y gefnogaeth gan Aimee wedi bod yn ddefnyddiol iawn, a’i bod hi wedi bod ar gael yn gyson i roi cyngor iddynt: “Ar ran pawb yn County in the Community, hoffem ddiolch i Egin, ac yn fwy penodol Aimee Parker, am y gefnogaeth i wneud ein helusen yn sefydliad mwy ecogyfeillgar. Gobeithiwn weithio mwy gydag Egin i ddatblygu a gwella ein prosiectau ac arferion i’r dyfodol.”


Comments are closed.