
Un o’n nodau yw adeiladu cymuned ledled Cymru – ar lawr gwlad, grwpiau lleol yn cysylltu â’i gilydd i rannu eu gweledigaethau, eu syniadau a’r gwersi a ddysgwyd.
Fel rhan o Egin, rydym yn cynnal y Gymuned Ar-lein Egin – platfform am ddim lle mae’r grwpiau rydym yn eu cefnogi, ein Mentoriaid Cymheiriaid, staff, yn ogystal ag unrhyw grwpiau cymunedol neu sefydliadau eraill sy’n gweithio ar newid hinsawdd cymunedol yn ymuno â’i gilydd i ddysgu mwy am brosiectau ein gilydd. .
Ymunwch â ni ar 17 Hydref am gyflwyniad cyflym a demo o Gymuned Ar-lein Egin. Mae croeso i chi ymuno os ydych eisoes yn aelod ond heb gael y cyfle eto i ddarganfod yr holl bethau y gallwch eu gwneud yn y gymuned.
Byddwn yn edyrch ar:
- Beth yw Cymuned Egin Online a phwy all ymuno
- Sut i ddod o hyd i bobl neu sefydliadau yn agos atoch chi, gan gynnwys sut y gallwch chwilio yn seiliedig ar ddiddordebau neu feysydd arbenigedd
- Sut gall y grwpiau a gefnogir gan ein rhaglen Mentora Cymheiriaid Egin ddefnyddio eu gofodau preifat ar gyfer trafodaeth, rhannu adnoddau a digwyddiadau
- Sut i rannu newyddion am eich prosiectau a rhaglenni i ysbrydoli eraill
- Fforwm trafod – creu a phori cwestiynau yn seiliedig ar feysydd thematig
- Sut i rannu a chael gwybod am ddigwyddiadau sydd i ddod, ar-lein ac all-lein
- Yr adran newyddion, blog a diweddariadau, yn ogystal â beth sydd yn yr adran adnoddau
- Sut gallwch chi newid iaith y platfform rhwng Cymraeg a Saesneg a newid eich gosodiadau hysbysu/preifatrwydd
- Unrhyw gwestiynau/materion cyffredinol eraill sydd gennych
Os ydych yn meddwl am ymuno â Chymuned Ar-lein Egin, eisiau gwybod sut i wneud y defnydd gorau ohoni neu’n chwilio am gyfle i holi am rywbeth sydd wedi bod ar eich meddwl, galwch draw i’n sesiwn Cyflwyniad/Demo ddydd Mawrth, 17eg Hydref am hanner dydd – cofrestrwch yma.

