Newid hinsawdd yw un o’r heriau mwyaf sy’n ein gwynebu ni heddiw, ac mae ei effeithiau eisoes i’w teimlo ledled y byd. Yng Nghymru, rydym wedi gweld cynnydd mewn llifogydd, stormydd, sychder, ac amrywiadau tymheredd sy’n cael effeithiau uniongyrchol ar drafnidiaeth, amaethyddiaeth, tai, busnes, a’n bywydau yn gyffredinol.
Bydd newid hinsawdd yn effeithio ni i gyd. Ond ni fydd pob cymuned yn teimlo’r un effaith. Dros y byd, gallwn weld mai’r gwledydd sydd wedi gwneud y lleiaf i gyfrannu at newid hinsawdd sy’n debygol o ddioddef yr effeithiau gwaethaf. O fewn gwledydd, mae hyn yn wir, hefyd – yng Nghymru, y rhai sydd eisoes ar y cyrion ac yn agored i niwed sy’n debygol o gael eu taro galetaf.
Dangosodd COVID-19 i ni y gall argyfwng wneud pethau’n waeth i grwpiau sydd eisoes yn cael trafferth(1). Mae grwpiau sy’n agored i niwed neu ar y cyrion yn fwy tebygol o fod yn agored i effeithiau negyddol newid hinsawdd – ac mae ganddynt y lleiaf o adnoddau i ymateb, ymdopi ac adfer.

Llun: Ymchwydd storm ym Mae Colwyn, Cymru, Rhagfyr, 2013 Ashley Perkins, CC BY-NC-ND 2.0
Felly, pa grwpiau yng Nghymru sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan newid hinsawdd?
Mae cymunedau difreintiedig yn fwy tebygol o fyw mewn ardaloedd sy’n agored i lifogydd (2) a digwyddiadau tywydd eithafol eraill, neu mewn ardaloedd lle mae ansawdd yr aer yn waeth. Mae cartrefi incwm isel yn llai tebygol gael yr arian i fforddio yswiriant rhag difrod llifogydd neu i wella eu cartrefi yn erbyn niwed (3).
Fel y dywedodd Sophie Howe, cyn Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru: “Y poblogaethau tlotaf a mwyaf ymylol sy’n lleiaf cyfrifol am newid hinsawdd, ond nhw sydd fwyaf tebygol o fod yn agored i’w effeithiau negyddol a chael y lleiaf o adnoddau i ymateb, ymdopi ac adfer. ”(3)
Yn ystod tywydd poeth, bydd y rhai sy’n byw mewn ardaloedd trefol yn dioddef mwy – gall tymheredd fod sawl gradd yn uwch nag mewn ardaloedd gwledig oherwydd effaith ynys wres trefol, lle mae gwres yn cael ei amsugno a’i ddal gan adeiladau a ffyrdd.
Mae ymchwil gan Brifysgol Manceinion a Chyfeillion y Ddaear wedi canfod bod pobl o gymunedau ethnig lleiafrifol bedair gwaith yn fwy tebygol na phobl wyn o fyw mewn ardaloedd sydd â risg uchel o dywydd poeth yn y DU (4), gyda llawer llai o fynediad i ofodau gwyrdd a choed, sy’n gallu helpu i ostwng y tymheredd.
Grŵp arall sy’n debygol o gael ei effeithio’n negyddol gan y newid yn yr hinsawdd yng Nghymru yw pobl anabl a’r rheini â chyflyrau iechyd. Mae hyn oherwydd eu bod yn fwy tebygol o gael problemau iechyd a all gael eu gwaethygu gan ddigwyddiadau tywydd eithafol, megis tywydd poeth, stormydd a llifogydd (5).
Mae pobl anabl hefyd yn fwy tebygol o fod wedi’u hynysu’n gymdeithasol a byw mewn ardaloedd lle mae trafnidiaeth gyhoeddus yn wael. Gall hyn ei gwneud yn anodd iddynt gael mynediad at wasanaethau ac adnoddau hanfodol yn ystod digwyddiadau tywydd eithafol, megis bwyd, dŵr, a gofal meddygol.
Bydd pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig hefyd yn dioddef, oherwydd bod ganddynt lai o fynediad at adnoddau a systemau cymorth a all eu helpu i ymdopi ag effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae hyn yn cynnwys mynediad at adnoddau ariannol, gwasanaethau brys, neu wasanaethau eraill a allai helpu yn ystod cyfnodau anodd.
Mae ardaloedd gwledig hefyd yn debygol o ddibynnu llawer ar ffermio am swyddi ac incwm: wrth i’r hinsawdd newid, bydd ffermwyr yn wynebu heriau sy’n ymwneud â chynnyrch cnydau, cynhyrchiant da byw, a phatrymau tywydd cyfnewidiol. Yn ddiweddar cyfrifodd y Swyddfa Dywydd gynnydd o hyd at 1o gwaith mewn straen gwres ar wartheg godro a risg uwch o falltod tatws yng Nghymru erbyn 2060 (6).
Gyda lefelau’r môr yn codi a digwyddiadau tywydd eithafol amlach, mae cymunedau sy’n byw mewn ardaloedd arfordirol mewn perygl o lifogydd, erydiad, a materion cysylltiedig eraill. Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi penderfynu gadael ac ail-leoli un dref arfordirol – Fairbourne – erbyn y 2050au (7).
Nid y rhain yw’r unig grwpiau sy’n debygol o gael eu heffeithio’n negyddol gan y newid yn yr hinsawdd. Mae pob anghydraddoldeb yn debygol o gael eu dyfnhau, oni bai ein bod yn gallu edrych ymlaen at y dyfodol posibl hyn nawr a gweithredu i sicrhau y bydd gan bawb fynediad cyfartal at gymorth ac adnoddau.
Mae angen i ni hefyd fod yn ofalus i beidio â rhoi’r grwpiau hyn dan anfantais bellach yn y ffordd yr ydym yn ceisio tacloe newid hinsawdd.
Er enghraifft, ni all pawb fforddio gosod paneli solar neu brynu car trydan – neu hyd yn oed newid i ymddygiad mwy cynaliadwy. Edrychodd yr adroddiad Anghydraddoldeb mewn Cymru Ddyfodol (3) ar y ffyrdd y gallai anelu at Sero Net achosi anghydraddoldeb pellach os na chaiff ei reoli’n ofalus – er enghraifft, drwy fynnu costau ymlaen llaw uchel ar bobl i ôl-ffitio neu insiwleiddio eu cartrefi.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i unrhyw ymdrechion i leihau allyriadau carbon, gwella cynaliadwyedd, taclo newid hinsawdd neu addasu iddo gael ei arwain gan y gymuned a bod yn deg. Credwn fod yn rhaid i gymunedau gael yr offer y mae nhw angen i gymryd rhan weithredol wrth lunio a chreu syniadau sy’n gweithio i bawb.
Nod Egin yw gweithio gyda’r grwpiau hynny sy’n debygol o gael eu heffeithio fwyaf gan newid hinsawdd – gan roi’r cyfle iddynt ddychmygu a chreu cymunedau sy’n deg a lle mae llais pawb yn cael ei glywed. Rhaid i newid ddod o’r gwaelod i fyny, nid yn unig gael ei orfodi oddi uchod. Dyna pam rydym yn paru ein grwpiau gyda Mentoriaid Cymheiriaid – pobl sydd â phrofiad bywyd go iawn o sefydlu prosiectau tebyg mewn cymunedau eraill.
Drwy gydweithio a gwneud yn siŵr nad ydym yn eithrio unrhyw un o’r sgwrs, gallwn wneud ein gorau i sicrhau nad yw ein hymdrechion i daclo newid hinsawdd yn dyfnhau’r anghydraddoldebau presennol nac yn gadael unrhyw un ar ôl.
Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gennych os ydych yn rhan o, neu’n gweithio gydag, un o’r grwpiau yma – neu os yw’ch cymuned isio gwneud rhywbeth i daclo newid hinsawdd neu addasu iddo, neu i fyw’n fwy cynaliadwy – ond ddim yn siŵr ble i ddechrau. Darllenwch fwy am Egin a chysylltwch â ni i weld a allwn eich cefnogi.
gan Gwyneth Jones, Rheolwr Cyfathrebu Egin

Cafodd Cymru sychder yn 2022
Cyfeiriadau:
(1) The unequal impact of COVID-19: investigating the effect on people with certain protected characteristics, NHS Confederation: https://www.nhsconfed.org/publications/unequal-impact-covid-19-protected-characteristics
(2) Social deprivation and the likelihood of flooding: Environment Agency – https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/1072781/Social_deprivation_and_the_likelihood_of_flooding_-_report_2.1.pdf
(3) Inequality in a Future Wales: Areas for action in work, climate and demographic change, a report by the Future Generations Commissioner for Wales, Cardiff University and the NHS : https://www.futuregenerations.wales/wp-content/uploads/2021/11/FGCW_Equalities-Report_proof_08.pdf
(4) Who suffers most from heatwaves in the UK? Friends of the Earth: https://policy.friendsoftheearth.uk/insight/who-suffers-most-heatwaves-uk
(5) Disability and the Climate Crisis, CBM UK: https://www.cbmuk.org.uk/policy-practice/climate/
(6) Future climate risk to UK agriculture from compound events. Climate Risk Management: https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S2212096321000115
(7) The UK ‘climate refugees’ who won’t leave, BBC: https://www.bbc.com/future/article/20220506-the-uk-climate-refugees-who-wont-leave


Comments are closed.