Mae prosiect MaesNi ym Mangor yn esiampl wych o brosiect sy’n gallu ffynnu pan fod cydweithio yn digwydd. Mae’n brosiect sy’ ag arian sylweddol- £1miliwn dros 10 mlynedd- diolch i gynllun Buddsoddi Lleol yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau (Building Communities Trust) a hyn er defnydd y gymuned ar ystâd Maesgeirchen a Tan y Bryn (ward Marchog). Mae nifer o asiantau a sefydliadau yn cynnig cefnogaeth mewn gwahanol ffyrdd. Dyma’r stori…
Dechreuodd y cynllun ym 2015 gyda grŵp o bobl leol (y grŵp llywio) yn siarad â’r trigolion i weld ba sgiliau a chryfderau oedd yn y gymuned eisoes. Roedd angen penderfynu sut i symud ymlaen, ac aethant ati i gynllunio a chyflwyno syniadau, gweithgareddau a phrosiectau a fyddai yn eu tyb nhw, yn helpu gwella’r ardal a bywyd y trigolion. Mae’r ymgynghori yn parhau o hyd ac yn gymysgedd o ymgynghori ffurfiol ag anffurfiol, a hefyd wrth i weithwyr datblygu cymuned a’r prosiectau amgylcheddol hwyluso trigolion a grwpiau i ddod a’u syniadau yn fyw. Mae ganddyn nhw gynllun cadarn sy’ hefyd yn ddeinamig ac yn newid yn ôl yr angen- mae’r grŵp llywio yn cyfarfod yn fisol, mae rhai trigolion yn cyfarfod i siapio gwaith y gweithwyr yn wythnosol. Mae digwyddiadau rheolaidd yn ffordd o gael sgyrsiau wrth fynd ymlaen ac i drigolion barhau i ddylanwadu ar sut a beth sy’n digwydd.
O ganlyniad mae yna deimlad o wir berchnogaeth gyda’r digwyddiadau a’r prosiectau sy’n cael eu cynnal yno. O ddigwyddiadau fel sinema tu allan, diwrnodau hwyl a thripiau allan i sefydliadau (‘Hive Caffi’ a’r grŵp amgylcheddol) i brosiectau sy’ angen isadeiledd a chynllunio manwl, fel y cae chwarae newydd, gardd gymunedol a’r ganolfan gymuned newydd. Y trigolion sydd wedi gofyn am bob un, nhw sy’n arwain gan fwyaf neu yn siapio sut mae gweithwyr yn ‘cyflawni’.
Mae gan y grŵp ddealltwriaeth weddol dda o faterion newid hinsawdd fel rhan o’r broses o ddatblygu eu cymuned, gan fu ganddynt weithiwr amgylcheddol am gyfnod a helpodd sefydlu rhai o’r cynlluniau peilot cynnar- y caffi, yr ardd gymunedol, cynllun bocs lysiau a digwyddiadau coginio teuluoedd. Yn anffodus mae Covid wedi golygu nad yw llawer wedi gallu digwydd wyneb-yn-wyneb am dros flwyddyn (er bod rhai gweithgareddau wedi symud ar lein). Serch hynny mae cynllun ffrwythau a llysiau a chefnogaeth Covid (diogelwch ac argaeledd bwyd ac ati) wedi dechrau o’r newydd yn ogystal â grwpiau plant fel ‘Letters Grow’ a ‘Showzone’ wedi digwydd. Yn fwy na dim maent eisiau adeiladu canolfan amlbwrpas i’r gymuned mewn modd cynaliadwy, ac un a fydd yn addas i genhedloedd i ddod. (Mae 50% o’r arian gwreiddiol am y diben hwn gyda £500,00 ychwanegol gan Gyngor Gwynedd bellach.)
Daeth y grŵp i olwg Adfywio Cymru bron ar ddiwedd 2019 drwy’r cydlynydd Grant Peisley ac yna Jackie Lewis. Roedd y Gweithiwr Datblygu Cymuned yno, Jess Silvester, yn awyddus i gymryd mantais o’r hyn a gynigiwyd drwy Adfywio Cymru ar ffurf profiad drwy fentora ond hefyd i gysylltu â chymunedau a lleoedd eraill tebyg er mwyn dysgu wrth ei gilydd. Roedd ganddynt nifer fawr o syniadau am bethau i’w gwneud, er enghraifft, arbed ynni mewn adeiladau cymunedol, lleihau ôl troed carbon y gymuned drwy ddefnyddio ynni solar i bweru pwyntiau gwefru ceir a beiciau trydanol, hybu bioamrywiaeth a chynlluniau plannu, a chynlluniau ail-gylchu ac uwch-gylchu, i enwi rhai.
Yn y pendraw penderfynwyd gofyn i Adfywio Cymru am gymorth gyda phedwar elfen, sef; trafnidiaeth a beiciau trydanol, ynni cymunedol, datblygiad y ganolfan gymuned a’r ardd gymunedol.
Maent wedi cael cyfarfod ar lein gyda’r mentor Beth Ward ac mae hi wedi helpu rhedeg gweithdy beiciau/ e- beiciau ym mis Tachwedd 2020 gyda chynlluniau i redeg rhaglen ‘Bike Dr’ a chyrsiau pellach unwaith y gallant gwrdd wyneb-yn-wyneb eto.
Wrth edrych ar ynni, mae’r grŵp wedi, ac yn parhau i gael cefnogaeth gan Ddatblygu Egni Gwledig, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a ChydYnni am ystyriaethau ynni o fewn y ganolfan cymuned newydd a hefyd am gerbydau trydan. Mae Cymunedau Cynaliadwy Cymru wedi gwneud arolwg o Eglwys y Groes- (sydd â gwariant ynni blynyddol o £1,650) ac wedi canfod posibiliadau o 58% o ostyngiad mewn costau ynni gyda mesuriadau megis bwyler newydd ag offer i reoli tymheredd mewn gwahanol fannau, i newid rhai goleuadau, ac i insiwleiddio’r lofftiau yn yr adeilad, er enghraifft. Mae sgyrsiau hefyd yn parhau (yn dilyn adroddiad ar bosibiliadau pŵer gwynt a solar) i edrych am gyfleoedd am gynllun ynni cymunedol ac arian ar gyfer archwiliad ymarferoldeb lawn iddo. Er mwyn eu cefnogi i drosglwyddo darn o dir yn y gymuned i’w ddefnyddio gyda’u cynllun tyfu/garddio ‘Growing for Change’, fe roddodd Lizzie Wynn, mentor arall gydag Adfywio Cymru, y grŵp mewn cysylltiad â Lucie Taylor o ‘Community Land Advisory Service (CLAS) / Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol.
Mae Jess yn egluro beth oedd manteision dod at Adfywio Cymru am gefnogaeth;
“Mae eu cefnogaeth wedi bod yn hynod werthfawr. Da ni’n gwybod fel cymuned beth hoffem ni weld yn digwydd o ran cynaliadwyedd yma. Ond doedd gennym ni ddim y profiad i wybod sut i fynd o gwmpas rhai o’r prosiectau mwy uchelgeisiol. Mae cael mynediad at arbenigedd a chyngor cyfeillgar gan bobl sydd gyda’r profiad wedi bod yn ffantastig ac wedi’n galluogi ni i gymryd camau lot fwy lawr y trywydd o fod yn gymuned gynaliadwy yn gynt.”
Yn ddiweddar bu Jess yn rhannu profiadau’r grŵp wrth iddi gyfrannu tuag at ddigwyddiad Eden Project Communities y DG ar gymunedau yn taclo newid hinsawdd. Roedd yr ymateb i’r cyflwyniad ganddi yn wych, gyda sawl un yn son am gymaint maent wedi llwyddo i’w gyflawni yno.
Wrth edrych ar y darlun ehangach, dywed Gwen Thirsk, sy’n Swyddog Buddsoddi’n Lleol;
“Mae Maesgeirchen a Tan y Bryn yn un o’r 13 ardal yng Nghymru sydd yn rhan o’r rhaglen Buddsoddi’n Lleol. Un nod pwysig o’r cynllun yw i gefnogi’r ardaloedd i greu pethau fydd yn parhau ar ôl y rhaglen 10 mlynedd yma, felly mae cynaladwyaeth yn elfen bwysig iawn o lawer o’r cynlluniau lleol. O ganlyniad mae gallu cael mynediad at y cyngor mae Adfywio Cymru yn cynnig yn werthfawr iawn i’r cymunedau rydym yn cefnogi.”
Mae MaesNi â’i sylfaen wedi’i angori yn y gymuned yno, ac yn edrych yn gryf iawn wrth symud i’r dyfodol i geisio cyflawni dyheadau’r trigolion am ddyfodol mwy llewyrchus a chynaliadwy.
———————-



