Os mai pobl ifanc fydda’n gosod agenda hinsawdd yna sut olwg fydda ar y byd?
Gyda’n Prosiect Cyd-ddylunio yn Adfywio Cymru, rydym wedi bod yn archwilio sut i gael sgyrsiau newydd, gyda phobl newydd, mewn ffyrdd newydd. Un peth mae pawb yn gytûn arno ydy bod rhaid i bobl ifanc fod yn rhan o’r sgwrs yma, a bod yna bobl ifanc ledled Cymru (a thu hwnt) sydd yn gwneud gwaith anhygoel i frwydro’r argyfwng hinsawdd, a pan fydd pobl o wahanol genedlaethau yn gweithio gyda’i gilydd – fel pobl gyfartal – yna, yn aml, dyma pryd daw’r canlyniadau gorau.
Wrth ddefnyddio hyn fel ein pwynt cychwyn, adlewyrchwyd ar y ffyrdd y mae pobl ifanc yn cysylltu gyda’r agenda hinsawdd yng Nghymru heddiw. Mewn sawl achos, pan roedd y cenedlaethau yn dod at ei gilydd, roedd hyn yn digwydd ar dermau’r rhai hŷn. Efallai bod pobl ifanc yn derbyn gwahoddiad i ddigwyddiad, darparu astudiaeth achos, neu ymateb i ymgynghoriad – ond mae’n ymddangos bod llai o gyfle i ni bobl hŷn i gymryd rhan yn nigwyddiadau’r bobl iau, ar eu termau nhw, gydag agenda wedi ei osod ganddyn nhw.
O ystyried hynny, aethom ati i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc ddathlu eu llwyddiannau, ac arwain y ffordd – gan ddefnyddio ein rhwydweithiau, amser ac adnoddau i ddarparu llwyfan a chynulleidfa, ond gyda meddwl gwbl agored i beth fydda’r cynnyrch ar y diwedd.
Symud ymlaen 6 mis, ac o’r syniad cychwynnol hwnnw, rydym bellach yn rhan o dîm sydd yn gweithio ar y cyd â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam, Cyfoeth Naturiol Cymru a GwE yn cyflwyno TEDxGWE dros yr hydref, digwyddiad TED swyddogol ble bydd pobl ifanc ysbrydoledig o Ogledd Cymru yn cael cyfle i rannu profiadau, straeon a galwadau ar gyfer y dyfodol gyda chynulleidfa o wleidyddwyr, addysgwyr a dylanwadwyr o ledled y wlad, i gyd-daro gyda COP26. Ein rhan ni fydd i roi arweiniad a chefnogaeth i’r bobl ifanc sydd yn cymryd rhan, a helpu iddynt gyfleu eu neges.
Felly, a yw hyn yn cyflawni’r hyn rydym wedi’i fwriadu? Rydym yn gobeithio hynny, ac amser a ddengys! Ond rydym wedi dysgu rhywbeth pwysig yn barod pan ddaw at adlewyrchu ar ein dyfodol.
Nid oeddem wedi gweithio â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam, Cyfoeth Naturiol Cymru a GwE yn y ffordd yma cynt – nid oeddem wedi meddwl am wneud hynny, ac nid oedden nhw wedi meddwl cysylltu â ni ychwaith. Mae gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol wedi golygu cyfarfod pobl newydd, ffyrdd newydd i gyflawni effaith, a chyfleoedd a ffrwd incwm newydd o bosib i’w datblygu yn y dyfodol – roedd gadael i’r broses fynd (y beth) a chanolbwyntio ar y pwrpas yn unig (y pam) yn alluogwr allweddol i hynny.
Pa gyfleoedd eraill posib sydd yn cuddio allan yna yn rhywle?
————–
Mae Mike Corcoran yn Ymgynghorydd Cyswllt gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru. Mae’n aelod o’r tîm sydd yn cefnogi cydweithrediad y Rhwydwaith gydag Adfywio Cymru: y Prosiect Cyd-ddylunio.
Mae’r Prosiect Cyd-ddylunio yn rhaglen uchelgeisiol o weithgareddau sydd yn cael ei ddarparu gan Adfywio Cymru mewn cydweithrediad â Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru rhwng Tachwedd 2020 a Medi 2021. Bwriad y prosiect ydy dod â phobl at ei gilydd i archwilio’r ffordd orau i symud cenhadaeth Adfywio Cymru ymlaen yn y tymor hir (helpu cymunedau yng Nghymru i leihau eu hôl troed carbon, addasu i effaith newid hinsawdd a byw yn fwy cynaliadwy).

