Effeithlonrwydd ynni: Deall a lleihau’r defnydd o ynni yn eich adeilad cymunedol
Effeithlonrwydd ynni: Deall a lleihau'r defnydd o ynni yn eich adeilad cymunedol
November 21, 2023    
1:00 pm - 2:00 pm

Mae deall a lleihau defnydd ynni yn eich adeilad cymunedol yn fwy na lleihau eich effaith negyddol ar yr hinsawdd; mae hefyd yn benderfyniad ariannol call. Ymunwch â Mike Brain, Rheolwr Rhaglen Sero net (CYD Cymru) a Dave Gittins o Asiantaeth Ynni Severn Wye, sy’n darparu archwiliadau ynni am ddim ar gyfer adeiladau cymunedol y grwpiau sy’n cael eu cefnogi drwy Egin. Gyda’i gilydd, byddant yn egluro beth mae pethau fel ôl-osod, ‘sero net’, ac inswleiddio yn ei olygu.

Byddwn hefyd yn clywed straeon gan grwpiau cymunedol sydd wedi llwyddo i wella eu heffeithlonrwydd ynni, gan gynnwys yr heriau a wynebwyd ganddynt. Ymunwch â ni i ddysgu am y newidiadau mawr a bach y gall eich cymuned eu gwneud heddiw, fel y gallwch wneud dewisiadau mwy gwybodus, arbed arian a lleihau eich ôl troed carbon.

Tachwedd 21, 1-2 yh – Cofrestrwch yma

Skip to content