
Mae Egin yn mynd i bum cymuned ledled Cymru fis Hydref eleni i gynnal sesiynau difyr am ddim ar amrywiaeth o bynciau. Mae’r rhain yn agored i unrhyw un o’r gymuned leol i fod yn bresennol, a byddant yn ffordd gyfeillgar ac anffurfiol i ddod i wybod am y pwnc, rhwydweithio, cwrdd â phobl newydd, a darganfod mwy am yr hyn y mae Egin yn ei wneud. Sesiynau yw:
- Ymgysylltu Newid Hinsawdd Trwy’r Celfyddydau : Hydref 4ydd, Bettwys, 10:30yb – 12:30yp.
- Circular Futures : 4 Hydref, Casnewydd, 11am – 3pm.
- Rhannu Adnoddau Cymunedol : 5 Hydref, Wrecsam, 11am – 1pm.
- Gwella Asedau Cymunedol i Fynd i’r Afael â Newid Hinsawdd : 15 Hydref, Castell-nedd Port Talbot, 10am – 12pm.
- Adeiladu Economïau Cylchol : Hydref 18fed, Bangor, 10:30yb – 12:30yp.
Cliciwch ar y dolenni uchod am ragor o fanylion ac i archebu lle ar gyfer pob digwyddiad unigol. Rydym yn gobeithio cynnal mwy o’r rhain y flwyddyn nesaf, felly os oes pwnc y mae gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy amdano neu faes yr hoffech weld y digwyddiadau hyn yn digwydd ynddo, rhowch wybod i ni!

