Fy enw i yw Mair Jones a dw i’n byw yn fy nhref gartrefol, Tref Dinbych yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, gan ddychwelyd yma o Gaernarfon i ofalu am fy rhieni oedrannus yn 2006. Dwi’n falch iawn o gael fy mhenodi’n Hwylusydd gyda’r rhaglen newydd Egin ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru, ac yn edrych ymlaen at adeiladu ar y profiad a gefais i gan weithio ochr yn ochr â grwpiau cymunedol gyda’r rhaglen Adfywio Cymru flaenorol. Fe wnaeth y profiad hwn ddyfnhau y gred oedd gennyf ers talwm – fod gan unigolion, teuluoedd a grwpiau cymunedol yr atebion i’w hanghenion a’u dyheadau eu hunain os ydynt yn cael y parch, y wybodaeth berthnasol a’r gefnogaeth.
Am y rhan fwyaf o fy mywyd proffesiynol, dw i wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn cefnogi plant a theuluoedd i leisio eu barn ar y math o gymorth yr oeddynt eu hangen. Daeth sicrhau’r cymorth hwn yn realiti i mi pan ddaeth fy chwaer a minnau yn ‘ddefnyddwyr’ gwasanaethau fel gofalwyr i’n rhieni. Roedd yn gyfnod anodd iawn.


