Yn dilyn gyrfa 17 mlynedd yn y gwasanaethau ariannol, penderfynais newid fy llwybr gyrfa yn 2008 dechreuais gwrs HND 3 blynedd mewn Adeiladu Tirwedd a Dylunio Gerddi. Ar ôl gweithio am rai blynyddoedd fel dylunydd gerddi, gwnes gais i reoli gardd gymunedol ychydig y tu allan i Gaerdydd. Er nad oedd unrhyw brofiad blaenorol o weithio mewn gerddi cymunedol ‘da fi, cefais gynnig y swydd. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, sylweddolais mai tyfu bwyd cymunedol a gweithio gyda gwirfoddolwyr oedd fy angerdd. Pan ddaeth fy nghontract i ben yn 2017, gwnes gais i fod yn Weithiwr Datblygu i Social Farms and Gardens (Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol) ac rydw i wedi bod yno ers hynny.
Mae SF&G yn elusen ledled y DU sy’n cefnogi grwpiau tyfu cymunedol, cynlluniau amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned a ffermydd gofal. Mae fy rôl fel Cydlynydd Rhwydwaith Caerdydd Bwytadwy yn cynnwys cysylltu pawb yng Nghaerdydd sy’n yn gysylltedig â thyfu bwyd cymunedol yn ogystal â grwpiau a sefydliadau dosbarthu bwyd, rhandiroedd a bywyd gwyllt a bioamrywiaeth. Rwyf wedi gweithio ar brosiectau amrywiol ers ymuno â SF&G gan gynnwys creu perllannau a rhandiroedd ac ar y Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol.


