Fy enw i yw Anne Marie Carty, cefais fy ngeni yn Llundain, ond rwyf wedi byw yn Nyffryn Dyfi yng Nghanolbarth Cymru ers deng mlynedd ar hugain. Mae fy nghefndir mewn ffilm a theledu, yn gwneud ffilmiau dogfen am yr hyn a elwid bryd hynny yn “faterion cymdeithasol”, ond rwyf hefyd wedi bod yn ymwneud â gwaith fideo cyfranogol o amgylch Prydain ers 1990. Yn y 1990au cynnar symudais i ganolbarth Cymru, lle addasais a datblygais technegau fideo cyfranogol i wneud gwaith ymgysylltu cymunedol dwyieithog gyda gwahanol gymunedau dros y wlad.
Rwyf hefyd wedi gweithio yn Asia, Affrica a Rwsia, ac mae’r profiadau hyn wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fy nealltwriaeth o gymunedau a’r heriau a achosir gan newid hinsawdd. Fe wnes i MPhil (gradd Meistr ymchwil) yn 2011 yn edrych ar y defnydd o ffilm fel arf ar gyfer gwaith datblygu cymunedol gyda chymunedau gwledig Cymru, a pharhau â’r ymchwil hwnnw gan wneud PhD rhan-amser ochr yn ochr â gweithio’n llawrydd fel hwylusydd cymunedol mewn pentrefi o gwmpas Canolbarth Cymru ar gyfer sefydliadau ac elusennau amrywiol.


