Aimee Parker ydw i ac rydw i wedi fy lleoli yng Nghaerllion, De Cymru. Dros yr 20 mlynedd diwethaf rwyf wedi gweithio mewn ystod eang o rolau yn y sector gwirfoddol yng Nghymru. Des i yn angerddol am daclo newid hinsawdd tra’n gweithio i Maint Cymru, elusen sydd wedi’i lleoli yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar warchod coedwigoedd trofannol. Roedd deall effeithiau byd-eang newid hinsawdd wedi fy ysbrydoli i wneud newidiadau bach i fy ffordd o fyw ac yn y pen draw i ystyried sut y gallwn i ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.
Dwy flynedd yn ôl, sefydlais grŵp yn fy nghymuned leol o’r enw Green Caerleon. Nod y grŵp hwn yw cefnogi’r gymuned i fyw’n fwy cynaliadwy. Mae gennym bresenoldeb gweithredol Facebook ac Instagram sy’n ymgysylltu â’r gymuned ym mhob agwedd ar gynaliadwyedd a byw’n gynaliadwy. Rydym hefyd yn cynnal nifer o brosiectau cymunedol gan gynnwys llyfrgell gwisgoedd plant a phecyn parti a phrosiect tyfu sy’n cefnogi ac yn annog pobl yn y gymuned i dyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain.
Deng mlynedd yn ôl, sefydlais i elusen o’r enw Blossom Africa sydd wedi esblygu dros amser ond sydd bellach â ffocws cadarn ar gefnogi cymunedau yn Uganda i addasu i newid hinsawdd. Mae’r cymunedau gwledig rydym yn gweithio gyda nhw ar flaen y gad o ran newid hinsawdd ac yn ei chael hi’n fwy a fwy anodd goroesi a ffynnu. Rydym wedi cefnogi’r gymuned i ddatblygu prosiectau amrywiol gan gynnwys grwpiau cynilo a benthyciadau, prosiect geifr, dosbarthu hadau ac eginblanhigion coed a chyfleoedd hyfforddiant galwedigaethol.


