
Clwb pêl droed sy’n eiddo i’r gymuned yn ymdrechu’n galed i leihau eu defnydd o ynni
Mae Clwb Pêl Droed Tref Merthyr yn gydberchnogaeth gymunedol ac yn cael ei redeg gan ei aelodau ar sail wirfoddol. Sefydlwyd yn wreiddiol yn 1908 ond mae’r cefnogwyr wedi bod yn berchen arno ers 2010. Nid oes cymwynaswyr – y cefnogwyr eu hunain sydd yn gorfod codi pob ceiniog, bod hynny trwy noddwyr neu gynnal digwyddiadau: mae’r clwb yn cynnal digwyddi

adau fel priodasau, partïon bwmp a gigiau yn ogystal â phêl droed.
Mae’r clwb eisoes wedi bod yn ymdrechu i leihau biliau ynni a gostwng eu hôl troed carbon – maent wedi gweithio mewn partneriaeth ag EGNI Co-op i osod paneli solar ar do’r eisteddle llynedd ac wedi gosod synwyryddion symudiad fel bod trydan ymlaen dim ond pan fydd ystafell yn cael ei ddefnyddio. Er yr holl ymdrechion, golygai’r argyfwng ynni diweddar fod y bil ynni yn parhau i fod yn bwysau arnynt, yn sefyll oddeutu £25-30 mil y flwyddyn.
Daethant at Egin gyda’r bwriad o leihau costau a gweithio tuag at ddatgarboneiddio. Cafodd y clwb ei roi mewn cysylltiad â Jamie Grundy, Hwylusydd Egin yn yr ardal. Trafodwyd eu targedau cynaliadwyedd a threfnwyd archwiliad ynni gan Asiantaeth Ynni Severn Wye, partneriaid trosglwyddo Egin. Fel rhan o archwiliad ynni mae’r asesydd yn ymweld â’r adeilad i weld sut mae ynni yn cael ei wastraffu a’i golli yno. Mae’r canlyniadau yn cael ei roi mewn adroddiad manwl sydd yn cynnig cyngor i’r grŵp ar gamau digost, cost isel a chost uwch.
Cafodd y Clwb Archwiliad Ynni gan Peter Draper, ac oedd yn amcangyfrif bod defnydd ynni’r Clwb Pêl Droed yn cyfateb i allyriadau carbon blynyddol o 56 tunnell o CO2e. Gall Peter adnabod y ffyrdd y gall y clwb arbed o leiaf 10 tunnell o CO2e gan arbed dros £6,200 y flwyddyn ar eu biliau, gyda mesuriadau digost fel creu amserlen lanhau i’r ffaniau echdynnu, mesuriadau cost isel fel insiwleiddio pibellau dŵr poeth, a chostau uwch fel newid y llifoleuadau halogen i rai LED a gosod tyrbinau gwynt ar y toeau.
Aeth CPD Tref Merthyr ati i wneud cais llwyddiannus am Grant Egin gan Camau Cynaliadwy Cymru gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i osod llifoleuadau LED newydd fel arian cyfatebol i grant gan yr Ymddiriedolaeth Pêl Droed. Bydd yr holl arian yma yn caniatáu i’r clwb symud tuag at eu targedau cynaliadwyedd ac i gyflawni 23% o arbedion ar filiau ynni.
Yn y dyfodol agos, mae’r clwb yn gobeithio gosod tyrbinau gwynt bach ar y to i fanteisio ar y tywydd gwyntog, yn ogystal â gosod mannau gwefru cerbydau trydan yn y maes parcio. Maent hefyd yn chwilio am gyfleoedd eraill i weithio gyda chyllidwyr a chynghorwyr er mwyn helpu iddynt ddod yn glwb pêl droed wirioneddol ‘wyrdd’, yn y gobaith ei fod yn ysbrydoli clybiau chwaraeon a chymunedau eraill.



Comments are closed.