Rhaglen Mentora Cymheiriaid ydy Egin, lle mae grwpiau sydd erioed wedi gweithio ar newid hinsawdd o’r blaen yn cael eu cysylltu â phobl gyda’r sgiliau, y profiad a’r wybodaeth i’w helpu i ddod a’u syniadau yn fyw. Nid yw mentora cymheiriaid yr un peth ag ymgynghori ag arbenigwr – mae o am gael rhywun fel chi sydd wedi gwneud be’ dych chi’n bwriadu ei wneud yn barod, a fydd yn siarad â chi fel ffrind neu gyfoed.
Ein gweledigaeth yn CYD Cymru yw cymunedau ffyniannus a chydnerth ar draws Gymru, lleoedd o bosibilrwydd lle gall pobl reoli eu bywydau – trwy fenter gymunedol, gweithredu cymdeithasol a pherchnogaeth o asedau cymunedol. Mae mentora rhwng cymheiriaid wrth wraidd y dull hwn. Trwy rai o’n rhaglenni eraill yn o gystal ag Egin, rydym yn dod â rhwydwaith cryf o fentoriaid cymheiriaid o bob rhan o Gymru gydag ystod amrywiol o brofiad a sgil. Darllenwch fwy am raglenni eraill CYD Cymru yma.
Beth ydy Mentora Cymheiriaid?
Mae mentora cymheiriaid yn bartneriaeth rhwng dau berson (mentor a mentorai). Mae’n berthynas ddefnyddiol sy’n seiliedig ar gyd-ymddiriedaeth a pharch. Mae Mentoriaid Cymheiriaid yn defnyddio eu profiadau a’u gwybodaeth i helpu i arwain neu gyfarwyddo’r person neu’r grŵp mewn ffordd gefnogol a grymusol.
Mae Mentoriaid Cymheiriaid Egin yn aelodau o’r gymuned sydd â phrofiad uniongyrchol o weithredu ar newid hinsawdd a chynaliadwyedd ar lefel leol. Maent yn barod i rannu eu gwybodaeth a’u sgiliau i gefnogi a grymuso grwpiau cymunedol eraill i gyrraedd eu nodau.
Mae mentora cymheiriaid yn rhoi pwyslais ar dwf personol, hunanddarganfod, a datblygiad sgiliau. Nid yw’n darparu argymhellion penodol ar faterion sydd â chanlyniadau cyfreithiol, technegol neu ariannol sylweddol, gan gynnwys cynllunio. Nid yw’n yn golygu cyflawni gwaith grŵp ar eu rhan – rôl Mentor Cymheiriaid yw darparu arweiniad a chefnogaeth wrth i grwpiau wneud y gweithgareddau hyn eu hunain, gan feithrin eu twf a hunangynhaliaeth, bod wrth law i helpu grwpiau i ddatblygu atebion a syniadau. .
Manteision Mentora Cymheiriaid
Mae CYD Cymru wedi bod yn casglu adborth gan ein mentoreion a’n rhaglenni mentora dros y 10 mlynedd diwethaf, acfelly daw’r manteision canlynol o’n hymchwil ein hunain. Ar gyfer unigolyn neu grŵp sy’n derbyn mentora cymheiriaid, mae rhai o’r manteision yn cynnwys:
- Adeiladu sgiliau: Mae mentora yn darparu mynediad amserol at sgiliau ac arbenigedd, gan wasanaethu fel catalydd ar gyfer trawsnewid a thwf cadarnhaol.
- Cymorth wedi’i deilwra: Mae mentoreion yn derbyn cymorth manwl, medrus ac wedi’i addasu gan gronfa amrywiol o arbenigedd, gan ategu ffynonellau eraill o gyngor ac arweiniad.
- Adeiladu Hyder: Mae dysgu gan gyfoedion profiadol sydd wedi cyflawni nodau tebyg yn hybu hyder a chred y sawl sy’n cael eu mentora yn eu galluoedd eu hunain.
- Trosglwyddo Gwybodaeth: Mae mentora yn hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a sgiliau, gan rymuso mentoriaid i gymryd camau gwybodus, gan wella eu cymhwysedd a’u gallu cyffredinol.
- Rhwydweithiau Estynedig: Mae mentoreion yn ennill cysylltiadau newydd ac yn ehangu eu rhwydweithiau gydag unigolion o’r un anian, gan gynnig ysbrydoliaeth, anogaeth a chyfleoedd i gydweithio.
- Meithrin Creadigrwydd: Mae mentora cymheiriaid yn meithrin dulliau creadigol o weithio ac ymgysylltu â phobl, gan gynyddu’r tebygolrwydd o lwyddo i gyflawni nodau.
- Twf a Datblygiad Personol: Mae mentoreion yn elwa o wahanol ganlyniadau twf personol, gan gynnwys dysgu sgiliau newydd, gosod nodau, addasu i newid, magu hyder, datblygu sgiliau cyfathrebu a phersonol, a thrawsnewid gwendidau yn gryfderau.
- Datrys Problemau a Gwneud Penderfyniadau: Mae mentora yn helpu mentoreion i ddatblygu strategaethau ar gyfer llywio heriau, gwneud penderfyniadau gwell a chael gwell adnoddau i ddatrys problemau.
- System Gymorth: Mae mentoreion yn cysylltu â rhywun sy’n credu yn eu galluoedd, gan ddarparu anogaeth, arweiniad a chefnogaeth trwy sefyllfaoedd anodd.
- Hunanfyfyrio a Chyfeiriad: Mae mentora cymheiriaid yn helpu i sefydlu nodau, a sefydlu ymdeimlad o gyfeiriad.
- Meithrin gwytnwch: Mae mentora yn arfogi pobl ag offer a thechnegau i oresgyn rhwystrau ac wynebu heriau yn uniongyrchol, meithrin gwytnwch a gallu i ymdrin â newid a sefyllfaoedd anodd.
“Fe wnaeth fy mentor fy nghefnogi i barhau i fynd trwy gyfnodau anodd ac i fagu fy hyder bod gen i gyfraniadau ystyrlon – gwnaeth wahaniaeth cael rhywun yn fy nghefnogi, yn enwedig gan fod gweithredu ar newid hinsawdd yn llawn heriau,” mentorai o Adfywio Cymru a ddaeth yn Fentor Cymheiriaid yn ddiweddarach, adborth o 2012-2022.
Fodd bynnag, nid yn unig y mentoreion sy’n elwa o fentora cymheiriaid. Mae’n berthynas fuddiol i’r ddwy ochr a all feithrin arloesedd a syniadau newydd. Mae rhai o’r manteision i’r mentor a’r mentorai hefyd yn cynnwys:
- Cylch parhaus o arloesi ac arferion gorau: Trwy gyfnewid syniadau amrywiol a newydd, mae mentora cymheiriaid yn meithrin arloesedd ac yn ysgogi newid cadarnhaol. Mae hyn yn arwain at rwydweithiau cryfach a manteision hirdymor i bawb sy’n gysylltiedig.
- Adeiladu diwylliant o gynaliadwyedd a gwydnwch: Mae mentora cymheiriaid yn annog diwylliant eang o newid cymdeithasol a gofal i eraill. Trwy osod cynaliadwyedd a gwytnwch wrth galon cymunedau, mae’n hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol hir-dymor.
- Anogaeth yn wyneb heriau: Mae cwrdd ag unigolion angerddol, ymroddedig ac amrywiol yn gweithredu fel ffynhonnell anogaeth barhaus wrth wynebu rhwystrau. Mae hyn yn meithrin naratif cadarnhaol pwerus o fewn y sector.
- Her adeiladol a chydweithio: Mae mentora cymheiriaid yn creu diwylliant o her adeiladol a chydweithio amlddisgyblaethol. Mae’r dull hwn yn gwella datrys problemau ac yn arwain at atebion a rennir, gan agor llwybrau newydd ar gyfer arloesi a meithrin gwytnwch.
- Canlyniadau annisgwyl ac effeithiau crychdon: Mae’r berthynas rhwng cymheiriaid mewn mentora yn aml yn catalysu canlyniadau annisgwyl. Gall y rhain gynnwys effeithiau crychdonnau sy’n ymestyn y tu hwnt i’r prosiect, gan greu camau gweithredu a llwyddiannau cadarnhaol ychwanegol.
Yn olaf, mae llawer o fanteision sy’n dod i’r mentor cymheiriaid eu hunain: mae mentora yn rhoi bywoliaeth foesegol y mae galw mawr amdano yn gyson, gan eich galluogi i gael effaith ystyrlon ar fywydau pobl eraill. Mae eich arbenigedd a’ch arweiniad fel mentor yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr, gan gynnig cyfle i gyfrannu at dwf a datblygiad y mentoreion wrth brofi’r manteision o ddylanwadu’n gadarnhaol ar eu taith.
Mae mentora yn broses barhaus o ddysgu gweithredol sy’n gwella eich gwaith eich hun. Trwy rannu eich gwybodaeth a’ch profiad, rydych nid yn unig yn cefnogi twf pobl eraill ond hefyd yn dyfnhau eich dealltwriaeth ac yn mireinio’ch sgiliau. Yn ogystal, mae mentora yn eich galluogi i gryfhau a chyfrannu at rwydweithiau gwydn o fewn mudiad mwy. Trwy gymryd rhan weithredol fel mentor, byddwch yn dod yn rhan o gymuned sy’n rhannu gwerthoedd a nodau tebyg, gan feithrin cydweithredu a chynnydd ar y cyd. Mae’n agor drysau i gysylltiadau a chyfeillgarwch newydd gydag unigolion sydd â nodau a gwerthoedd tebyg, gan ehangu eich rhwydwaith proffesiynol a phersonol a pharatoi’r ffordd ar gyfer cydweithredu yn y dyfodol.
Ar hyn o bryd mae Egin yn awyddus i glywed gan Fentoriaid Cymheiriaid sydd â phrofiad mewn ynni – er enghraifft, ynni adnewyddadwy, a phrosiectau ynni cymunedol – yng Ngogledd Cymru. Yn benodol, rydym am glywed gan Fentoriaid sy’n gallu sgwrsio’n hyderus yn Gymraeg. Rydym yn talu rhwng £250 a £300 (yn dibynnu a ydych yn cael eich cynnal gan sefydliad ai peidio) y dydd ac rydym yn darparu amserlen gyfoethog o sesiynau DPP trwy gydol y flwyddyn – darllenwch fwy am sut i wneud cais yma.
Comments are closed.