Wedi’i guddio ar gyrion tref Penfro mae prosiect dynion Plant Dewi, grŵp ysbrydoledig sy’n profi’r hyn y gall ychydig o sgil, dycnwch a rhywfaint o dir ei gyflawni.
Mae prosiect dynion Plant Dewi, a sefydlwyd yn 2002 i feithrin a darparu cefnogaeth i deuluoedd yn esgobaeth Tyddewi, yn canolbwyntio ar rymuso tadau trwy ddarparu cyfleoedd i gymdeithasu, rhannu bwyd, a chymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon gyda’u plant ac i gydnabod y rôl bwysig maent yn chwarae yn eu teulu a’u cymuned.
Nod y prosiect yw cynyddu eu rhwydweithiau cymorth ac mae clwb ar ôl ysgol ‘Dad a Fi’ yn helpu i ddyfnhau’r cwlwm y mae tadau’n ei rannu gyda’u plant, gyda gweithgareddau’n cynnwys trwsio beiciau, beicio, gofalu am ardd lysiau chwarter erw, sesiynau coginio, gweithdai, a mentrau cymunedol fel sesiynau codi sbwriel.

Aeth y Swyddog Prosiect Tadau lleol, Peter, at Egin gan ddilyn trywydd systemau ynni adnewyddadwy bach. Roedd ganddynt ddiddordeb arbennig mewn sefydlu rig trydan solar syml a datblygu cynlluniau ar gyfer citiau beiciau trydan.
Ar ddiwedd yr hydref 2023, roedd Egin yn gallu cynnig ymweliadau wedi’u hariannu at grwpiau lleol eraill, a arweiniodd hyn at daith ysbrydoledig i CBC Gelli-y-Gafel yn Nyfed yng ngwanwyn 2024. Mae’r tyddyn hwn oddi ar y grid yn enghraifft fyw, weithredol o ddarparu ar gyfer 100% o’i anghenion ynni, dŵr a gwastraff, 75% o’u bwyd, a thrwydded bragdy ar gyfer eu busnes seidr a gwin a gynhyrchir o ffrwythau ar y tir. Mae ganddynt hefyd gasgliad diddorol o adeiladau naturiol hunan-adeiladu gydag ôl troed ecolegol bychan iawn.

Yma, roedd y Tadau, ynghyd â’u mentor Egin, Caz, yn gallu dysgu mewn dyfnder am ynni’r haul DIY, eco-adeiladu, egwyddorion permaddiwylliant, ac amaethyddiaeth gynaliadwy, i gyd mewn lleoliad 9 erw o ddyluniad tirwedd hynod wydn wedi ei ddylunio ar egwyddorion system wyllt, ffyniannus: paramaethu. Yn y prynhawn, cynhaliwyd sesiwn ymarferol ar gadw pridd, gorchuddion tir a thyfu ffrwythau.
Yn y cyfamser, yn ôl y neu cynefin, mae’r Tadau wedi bod yn brysur gyda gwaith cymunedol mewn gardd ysgol leol a trin eu plot:
“Rydym wedi bod yn gwneud gwelyau wedi’u codi ac yn dod o hyd i gompost a gwellhäwyr pridd i gynorthwyo’r draeniad i gael tatws i mewn, gosod llwybrau ac ar fin adeiladu gorsafoedd compostio newydd hefyd. Mae gennym ni rai digwyddiadau beicio ar y gweill mewn partneriaeth ag ysgolion a Sustrans i annog teithio llesol, ailgylchu a chynnal a chadw beiciau.”

Ym mis Ebrill cynhaliodd Plant Dewi ddigwyddiad i deuluoedd ddod â’u beiciau gyda nhw, gan gynnig trwsio am ddim, a mynediad i rannau ail-law a beiciau wedi’u huwchgylchu am gyfraniad i’r elusen.
Mae Peter hefyd yn dweud, “Yn dilyn hyn rydym yn treialu ‘Bws Beic’ – digwyddiad sy’n hyrwyddo beicio i’r ysgol ar lwybr sy’n seiliedig ar ddalgylch yr ysgol i godi plant a rhieni, sy’n canolbwyntio ar dadau – i feicio gyda’u plant i’r ysgol. Os yn llwyddiannus rydym yn gobeithio cynnal un misol.”
Cynlluniau Plant Dewi ar gyfer y dyfodol yw parhau i ddatblygu seilwaith y prosiect garddio a chynyddu cynnyrch bwyd a chompostio. Mae yna syniadau i adeiladu ardal dyfu dan do i ddarparu cnydau trwy gydol y flwyddyn a gwytnwch i dymhorau gwlyb. Mae’r Tadau hefyd yn integreiddio eu prosiect uwchgylchu ac ailgylchu ymhellach yn y gymuned leol – gan annog trafnidiaeth gynaliadwy yn ogystal â darparu beiciau fforddiadwy a chynnal a chadw.
Mae adborth terfynol y Tadau yn galonogol iawn:
“Mae’r grŵp wedi elwa o’r wybodaeth a’r profiad trwy gyfleoedd dysgu a hwyluswyd trwy rwydwaith Egin. Mae’r prosiect garddio yn arbennig wedi datblygu o ganlyniad i’r sgiliau a’r wybodaeth ychwanegol a brwdfrydedd ac anogaeth y prosiectau yr ymwelwyd â nhw … [Roedd cefnogaeth Egin] yn wych ac yn berthnasol i’r prosiect – mae’r profiadau rydym wedi’u cael yn uniongyrchol wedi bod yn ysbrydoledig.” Peter Arnold, swyddog prosiect, Grŵp Dynion Plant Dewi


Comments are closed.