
Cofrestrwch am yr gweminar yma.
Deall a lleihau defnydd ynni yn eich adeilad cymunedol nid yn unig yw lleihau eich effaith hinsawdd; mae hefyd yn benderfyniad ariannol doeth.
Yn y gweminar un awr hwn, ymunwn â Dave Gittins o Asiantaeth Ynni Severn Wye, sy’n darparu archwiliadau ynni am ddim ar gyfer adeiladau cymunedol i grwpiau sy’n cael eu cefnogi trwy Egin.
Bydd yn egluro beth mae termau fel ôl-osod a hierarchaeth ynni yn ei olygu mewn gwirionedd ar gyfer adeiladau cymunedol ac yn eich helpu i flaenoriaethu pa gamau i’w cymryd.
Bydd gennych gyfle hefyd i siarad am eich adeilad cymunedol a’r heriau rydych chi’n eu hwynebu wrth wneud iddo fod yn fwy ynni-effeithlon. Gall clywed gan eraill mewn sefyllfaoedd tebyg i chi fod yn gam hanfodol i wneud y penderfyniadau cywir i symud ymlaen.
Mae Egin yn rhaglen sy’n anelu at ddatgloi grym ar y cyd cymunedau yng Nghymru i gymryd eu camau cyntaf tuag at fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a byw’n fwy cynaliadwy – yn enwedig y rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan newid yn yr hinsawdd. Darganfyddwch fwy yn www.egin.org.uk

