Gan ddefnyddio’r broses Cyd-gynllunio, anogwyd Cydlynwyr i fynd y tu hwnt i weithgareddau ‘arferol Adfywio Cymru’, i archwilio pynciau a chynulleidfaoedd newydd, gan gyflawni rhywbeth sydd yn berthnasol i’n diben gwreiddiol o alluogi cymunedau i greu dyfodol cynaliadwy. Wedi ei ysbrydoli gan ei merch sydd yn ei harddegau, aeth y cydlynydd Lisa Williams ati i greu digwyddiad ffasiwn araf ‘Swishing’ i apelio at bobl ifanc.
Y Cefndir
Datblygwyd y syniad am y digwyddiad ar ôl gweld arferion prynu pobl ifanc y grŵp oedran yma yn uniongyrchol. Maent, yn gyffredinol, yn prynu dillad rhad, o ansawdd isel, sydd ddim yn cael llawer o ddefnydd (neu ddim defnydd o gwbl) cyn ei daflu. Mae’r math yma o ffasiwn sydyn a throsiant uchel ddillad yn cael effaith niweidiol iawn ar yr amgylchedd ac yn defnyddio llawer o ynni tanwydd ffosil. Dewiswyd y grŵp oedran 11-16 gan ei bod yn bwysig eu hannog i fyw yn fwy cynaliadwy nawr ac yn y dyfodol, ac nid yw Adfywio wedi gweithio llawer gyda’r oedran yma yn y gorffennol.
Er bod poblogrwydd apiau dillad ail-law fel Vinted a Depop yn tyfu, mae llawer o stigma yn bodoli o hyd am wisgo dillad ail-law, yn enwedig ymysg oedrannau iau. Penderfynodd ein Cydlynydd gynnal digwyddiad cyfnewid wyneb i wyneb yn hytrach nag ar-lein, gan y teimlai byddai hyn yn fwy llwyddiannus wrth roi cyfle i bobl weld y dillad, ac i arbed amser ac egni yn pecynnu ac yn gyrru eitemau gwelwyd ar-lein yn unig.
Cynllunio’r Digwyddiad
Roedd y digwyddiad cynlluniwyd yn wreiddiol yn llawer mwy ac yn fwy uchelgeisiol, gyda sawl elfen wahanol fel cerddoriaeth, ardal trwsio ac ailddefnyddio, ac arddangosfeydd harddwch a gofal croen cynaliadwy. Ond oherwydd oedi cyfyngiadau Covid ac amser a chyllideb gyfyngedig, roedd y digwyddiad yn llawer llai, er roedd yn ymarfer da ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol.
Oherwydd oedi gyda chyfyngiadau Covid ac amser a chyllideb gyfyngedig, roedd y digwyddiad yn llawer llai na fwriedir yn wreiddiol, er roedd yn ymarfer da ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol.
Gweledigaeth y digwyddiad oedd rhoi cyfle i bobl ddod â dillad nad oeddent bellach yn gwisgo i’r digwyddiad a’u cyfnewid am ddillad y byddant yn ei wisgo. Canlyniad hyn fyddai cael gwared ar y stigma o wisgo dillad ail law ac annog newid ymddygiad.
Byddai digwyddiad ehangach, fel yr un cynlluniwyd yn wreiddiol, hefyd yn codi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol ehangach ac yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr greu fideos, cynllunio posteri a chwblhau oriau gwirfoddoli cymunedol fel rhan o’u hastudiaethau.
Heriau
- Problemau yn cysylltu gyda’r ysgol gyfun leol. Awgrymwyd fel y lleoliad gorau yn wreiddiol gan fod yna ardaloedd dan do ac awyr agored mawr a maes parcio. Byddai hwn yn amgylchedd cyfarwydd i’r bobl ifanc hefyd, a gallai fod wedi annog mwy o bobl ifanc i fynychu. Oherwydd anawsterau yn darganfod y person cywir i siarad â nhw, a chyfyngiadau ymwelwyr allanol i’r ysgol, dim ond tuag wythnos cyn y digwyddiad llwyddwyd i wneud cyswllt. Er bod diddordeb, gan fod yr amser yn gyfyng, nid oeddent yn gallu helpu. Ond roeddent yn awyddus iawn i gymryd rhan mewn digwyddiadau tebyg yn y dyfodol ac mae cyfarfod wedi ei drefnu i drafod hyn.
- Amser yn brin. Yn wreiddiol, roedd y digwyddiad am gael ei gynnal fis Ebrill, ond roedd rhaid gwthio hyn i fis Mehefin i sicrhau nad oedd cymhlethdodau yn gysylltiedig â Covid a digwyddiadau wyneb i wyneb. Roedd cyfyngiadau amser yn golygu nad oedd llawer o amser i drefnu a hyrwyddo’r digwyddiad. Hysbysebwyd ar Facebook yn bennaf i ardal Pont-y-clun ac ardaloedd cyfagos Llanhari, Llanharan a’r Bont-faen. Gosodwyd posteri yn y pentref a gofynnwyd i bobl rannu’r digwyddiad.
- Diffyg cyllideb. Roedd y Cydlynydd yn ffodus iawn bod y Cyngor Cymuned wedi cytuno iddynt ddefnyddio Café 50 (yn y Ganolfan Gymunedol) am ddim. Aethant ati i argraffu posteri ac arwyddion am ddim hefyd. Cyfrannodd dau fusnes lleol swm bach o arian a thalebau. Byddai mwy o gyllideb i ddigwyddiad yn y dyfodol yn gallu darparu lluniaeth ac amrywiaeth ehangach o weithgareddau.
- Ymrwymiad gwirfoddolwyr. Er bod 4 neu 5 o oedolion wedi dweud y byddant yn helpu yn wreiddiol, dim ond dau ohonynt lwyddodd i ymateb wrth baratoi’r cynlluniau.
Yr hyn aeth yn dda
- Nifer dda o wirfoddolwyr ifanc, rhai brwdfrydig a chymwynasgar oedd yn darparu adborth da. Anogwyd cwpl o ffrindiau i ddod yno hefyd.
- Roedd y Cydlynydd yn gallu cynnig talebau i’r gwirfoddolwyr ifanc ar gyfer siop coffi lleol oherwydd y cyfraniadau gan ddau fusnes lleol. Cydnabuwyd y busnesau yma fel cefnogwyr y digwyddiad.
- Cynigodd Arch Noa iddynt ddefnyddio rheiliau a phren hongian dillad gan eu bod yn cynnal digwyddiadau a siopau elusennol, a sioeau ffasiwn.
- Cynigodd prosiect rhannu cymunedol, sydd wedi derbyn cefnogaeth Adfywio yn flaenorol, bren hongian dillad, bocsys a bwrdd sialc, a chytuno i gymryd y dillad oedd dros ben o’r digwyddiad.
- Rhannodd Cynghorydd Annibynnol ym Mhont-y-clun y digwyddiad ar gyfryngau cymdeithasol, gan godi proffil.
- Roedd cerddoriaeth yn chwarae yn y cefndir yn ychwanegu i’r awyrgylch.
- Roedd llawer o bobl wedi hoffi’r post cyfryngau cymdeithasol am y digwyddiad, gyda llawer o sylwadau yn dweud pa mor dda oedd y syniad ac yn dymuno pob llwyddiant. Postiwyd cwestiwn yn dilyn y digwyddiad yn gofyn a fydda gan bobl ddiddordeb mewn digwyddiadau cyfnewid dillad yn y dyfodol, ac os felly, pa fath o ddigwyddiad. Roedd 92 wedi cymryd rhan mewn cyfnod o 24 awr a dyma’r canlyniadau:
6% yn dweud nad oedd diddordeb ganddynt
21% gyda diddordeb mewn cyfnewid dillad plant
15% diddordeb mewn cyfnewid dillad pobl ifanc yn eu harddegau
50% mewn cyfnewid dillad oedolion
5% ym mhob un digwyddiad cyfnewid
- Yn dilyn y digwyddiad yma, mae cynlluniau ar y gweill i gynnal ‘Swishing’ arall yn y Bont-faen, a gofynnwyd i’r Cydlynydd helpu grŵp i gynnal digwyddiad cyfnewid dillad ym Mhont-y-clun.
Canlyniadau
- 2 gwirfoddolwr oedolyn
- 6 gwirfoddolwr ifanc (dan 16)
- 43 o eitemau wedi eu cymryd
- 14 o bobl wedi mynychu i gyfrannu a chyfnewid
- Wedi sbarduno trafodaethau am ddigwyddiadau yn y dyfodol
Gwelliannau ar gyfer digwyddiadau’r dyfodol
- Caniatáu digon o amser cyn y digwyddiad fel bod gan bobl amser i gasglu dillad at ei gilydd yn barod i gyfnewid.
- Hysbysebu yn eang mewn amrywiol lefydd, ni fydd pawb yn gweld cyfryngau cymdeithasol. Awgrymodd y bobl ifanc i ddefnyddio Instagram a TikTok i ddenu cynulleidfa iau.
- Cynnwys gweithgareddau a digwyddiadau eraill gyda ffocws amgylcheddol i ddenu mwy o bobl.
- Ei gynnal mewn lleoliad mwy gyda digon o barcio.
- Efallai caniatáu i bobl ollwng a chyfnewid ar yr un pryd fel nad ydynt yn gorfod dod i’r lleoliad ddwywaith. Byddai hyn yn gweithio’n dda OS oes yna ddigon o bobl i ddechrau trefnu’r dillad yn syth a’u rhoi ar y rheiliau ac mewn bocsys.
- Roedd llawer o ddillad ar ôl ar y diwedd a gofynnodd rhywun a byddai’n bosib prynu gan nad oedd ganddynt rywbeth i gyfnewid. Byddai hyn wedi bod yn gyfle da i ddefnyddio mwy o’r dillad ail-law, ond bydda’n rhaid rheoli hyn i sicrhau bod y bobl sydd â dillad i gyfnewid yn cael dewis cyntaf llawn. Mae’n debyg mai’r datrysiad gorau fydda ychwanegu slot amser ‘prynu’ yn yr awr neu ddau olaf.
- Gellir ystyried ehangu’r digwyddiad i bob oedran, neu ddillad plant neu oedolion yn unig. Un peth i nodi yw, er bod y cyfyngiad oedran i’r digwyddiad yma wedi cael ei ostwng o 18 i 16, roedd yna ddillad merched maint 8 a 10 yno. Mae’n debyg bod rhai pobl ifanc yn eu harddegau yn gwisgo dillad maint merched felly roedd hyn yn niwlio’r paramedrau ychydig.
- Cynnig rhywbeth i annog gwirfoddolwyr a chysylltu mwy gydag ysgolion fel bod disgyblion yn gallu defnyddio’r profiad fel rhan o’u hastudiaethau a chyfleoedd gwirfoddoli cymunedol.
- Ystyried os dylid cyfyngu’r nifer o eitemau mae rhywun yn dod gyda nhw i gyfnewid neu beidio. Roedd cyfyngiad o 10 eitem yn wreiddiol, ond daeth yn glir bod rhaid peidio cyfyngu i ganiatáu’r dewis mwyaf i’r rhai oedd yn dod i gyfnewid. Diwrnod cyn y digwyddiad, newidiodd y Cydlynydd hyn er mwyn caniatáu cyfnewid nifer anghyfyngedig o eitemau.
- Roedd yr adborth gan y gwirfoddolwyr ifanc yn cadarnhau bod pawb yn meddwl bod y digwyddiad ‘Swishing’ yn syniad gwych. Cytunwyd y byddai cynnal pethau eraill yn ystod y digwyddiad yn ei wneud yn fwy diddorol, yn enwedig rhywbeth yn ymwneud â cholur a gofal croen sydd yn gyfeillgar i’r amgylchedd. Roedd pob un yn dweud y byddant yn gwirfoddoli eto.
Crynodeb
Er mai nifer eithaf bach o bobl fynychodd y digwyddiad, roedd yr adborth a’r sylwadau derbyniwyd yn rai cadarnhaol iawn. Roedd gweithio gyda Chyngor Cymuned Pont-y-clun a Manage Money Wales wedi cychwyn perthynas gwerthfawr iawn ac roedd cefnogaeth dau fusnes lleol wedi cyfrannu at lwyddiant y digwyddiad. Mae gan y math yma o ddigwyddiad y potensial i gael ei gynnal yn rheolaidd a gallai weithio mewn gwahanol ardaloedd daearyddol.










