Mae gwaith ieuenctid yng Nghymru wedi bod ar siwrne enfawr yn y flwyddyn ddiwethaf, fel sawl sector arall! Wrth i sawl un ddiogelu eu sefydliadau trwy’r cynllun ffyrlo, roedd Prosiect Ieuenctid Caerfyrddin (neu Dr Mz fel y gelwir yn y gymuned, ar ol un oedd ymhlith cychwynwyr y grwp, doctor lleol, Dr Margaret Evans) yn ffodus iawn o dderbyn cefnogaeth ein cyllidwyr er mwyn gallu parhau i gefnogi pobl ifanc yn ystod cyfnod oedd yn teimlo fel digwyddiad apocalypteg i sawl un.
Roedd cychwyn y cyfnod clo yn annisgwyl. Nid oedd technoleg gwybodaeth yn ddigon da, nid oedd cyfathrebu’n ddigon da… ond ymlaen yr aethom. Roedd y staff yn cyfarfod ar Zoom (beth oedd hynny??) ac yn trafod ein hopsiynau. Roedd rhaid bod yn greadigol iawn a meddwl ‘y tu allan i’r bocs’ yn wahanol i’r drefn arferol!
Yn y pen draw, penderfynwyd cynnal clwb ieuenctid rhithiol dros Zoom, 4 diwrnod yr wythnos, gan ddosbarthu pecynnau rysáit i dai pobl ifanc i gynnal coginio byw a fideos coginio Tiktok gyda chardiau rysáit i’r bobl ifanc. Ehangodd y pecynnau gweithgareddau i fod yn sesiynau ar themâu celf a chrefft, iechyd a llesiant, amgylchedd a digidol.
Roedd yr heriau a’r cystadlaethau yn cael eu postio ar Facebook a chynhaliwyd taith gerdded rithiol ar draws America gan ddefnyddio’r app ‘World Walking’ ar gyfer Wythnos Gwaith Ieuenctid yn 2020.
Dosbarthwyd dros 1000 o becynnau gweithgareddau a pharseli bwyd, cynhaliwyd sesiynau Iechyd a Llesiant a chynhyrchwyd flogiau garddio a thyfu bwyd.
Aethom ati hefyd i gynnal sesiynau gweithgareddau ar-lein rhwng y cenedlaethau gyda Rhwydwaith 50+ Sir Gaerfyrddin – yn rhannu sgiliau ac yn gwneud ffrindiau. Roedd yn brofiad gwych i bawb!
Yn fis Awst aethom yn ôl i’r ganolfan ac ail gychwyn y sesiynau ieuenctid wyneb i wyneb gyda nifer cyfyngedig o bobl ifanc, i gyd fynd â Chanllawiau Llywodraeth Cymru – ac roedd llawer ohono’n digwydd yn yr awyr agored yn ystod yr haf.
Yn anffodus, roedd rhaid dychwelyd i glwb ieuenctid ar-lein (er bod hwnnw’n un llawer gwell) ar gyfer y cyfnod clo atal dros y Nadolig, a chyflogwyd Chris, ein Gweithiwr Ieuenctid Digidol newydd i gefnogi hyn.
Roeddem yn llwyddiannus gyda chais am grant Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol i sefydlu ein grŵp ieuenctid LHDTC a chawsom ein synnu gyda chyfweliad ar-lein gyda Rhod Gilbert ar gyfer yr ymgyrch loteri gyda Joe Wilkinson. Roedd hynny’n lot o hwyl! Diolch Rhod!
Pobl ifanc yn helpu eraill
Dros y Nadolig, rhoddodd y bobl ifanc 15 o hamperi cinio Nadolig at ei gilydd i bobl ifanc dan anfantais oedd yn byw’n annibynnol yn lleol. Roedd y bobl ifanc yma wedi cael eu henwebu gan dîm Ôl 16 Gwasanaethau Cefnogol Ieuenctid y Sir. Roeddem hefyd yn gallu creu hamperi ar gyfer aelodau mewn angen y Rhwydwaith 50+ fel rhan o’r prosiect rhwng y cenhedloedd.
Roedd rhaid canslo’r Parti Nadolig oherwydd y cyfnod clo, felly aethom ati i goginio cinio yn y ganolfan a dosbarthu’r prydau i 28 o bobl ifanc gyda phawb yn bwyta â’i gilydd ac yn chwarae gemau ar-lein cyn gorffen am y Nadolig.
Ansawdd mewn Gwaith Ieuenctid
Yn fis Rhagfyr 2020, yn dilyn llawer iawn o waith caled, gwnaed cais llwyddiannus i Gyngor y Gweithle Addysg a chyflawni lefel efydd yn y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid gan Lywodraeth Cymru. Hwre!
A dyma ni wedi dychwelyd!
Mae’n beth gwych bod yn ôl, er gyda niferoedd cyfyngedig. Mae’r bobl ifanc wedi bod yn dda iawn yn cadw at y rheolau ac yn mwynhau’r gweithgareddau cyffrous wedi’u hariannu gan raglen Hwb i’r Hinsawdd y Loteri Genedlaethol a’i gefnogi gan Adfywio Cymru.
Rydym wedi bod yn paentio murlun am newid hinsawdd ar flaen yr adeilad, adeiladu mainc sydd yn cael ei bweru gan yr haul gyda Sam Holt (o Egseeds sydd yn fentor Adfywio Cymru) ac yn dysgu pobl ifanc i yrru beic yn ddiogel gyda’n beiciau newydd.
Y prosiectau sydd i ddod o hyd ydy gosod popty pitsa clai yn yr ardd er mwyn gallu creu pitsas gyda’r cynhwysion ffres cartref ac adeiladu plannwr SUD i geisio atal y maes parcio rhag gorlifo â dŵr glaw!
Mae ein harferion amgylcheddol wedi newid yn sylweddol ers i ni dderbyn y grant yma. Roedd pobl yn falch iawn o dderbyn pecynnau gweithgareddau amgylcheddol gyda brws dannedd bambŵ, bariau siampŵ a gwelltyn metel, ac mae hyn i gyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth.
Rydym wedi dechrau prynu cynnyrch glanhau i’r ganolfan ieuenctid sydd yn gyfeillgar i’r amgylchedd ac yn bydradwy, ac rydym wedi cychwyn compostio ein gwastraff bwyd o’r caffi gan ddefnyddio system Bokashi.
Mae Wales Online a Chylchgrawn Lifeseeker wedi ysgrifennu darnau amdanom ac rydym wedi ymddangos ar raglen Prynhawn Da S4C hefyd!
Mae’r bobl ifanc wrth eu boddau gyda’r prosiect ymwybyddiaeth amgylcheddol a’r gobaith ydy y bydd yn denu mwy o gyllid yn y dyfodol yn ogystal â helpu i wella ymwybyddiaeth a gallu pawb i wneud newidiadau bach.
Mae wedi bod yn siwrne ddiddorol iawn yn ystod 2020/2021 – ond yma yr ydym o hyd, yn dal i fynd o nerth i nerth!
Ysgrifennwyd gan Gayle Harris, Rheolwr Prosiect Ieuenctid Caerfyrddin (Dr Mz)







