Mae Adfywio Cymru wedi helpu a chefnogi sawl grŵp cymunedol dros y blynyddoedd, ond dyma stori llwyddiant dau o’r sefydliadau sydd wedi bod yn gysylltiedig ers y cychwyn cyntaf, a chyfle i weld beth maen nhw’n ei wneud nawr. Rydym yn awyddus i ddangos sut mae’r grwpiau wedi ffynnu o ganlyn natur hyblyg y rhaglen a derbyn y gefnogaeth gywir mewn modd amserol – y datblygiadau ers iddynt gymryd y camau cyntaf…
Ynni Sir Gar / Carmarthenshire Energy
Mae Ynni Sir Gar Cyf (YSG) yn bodoli ers 2010/2011 (Ymddiriedolaeth Ynni Sir Gar yn wreiddiol), yn rhannol o ganlyn chwalu’r Asiantaeth Ynni Sir Gar. Daeth aelodau’r gymuned a’r bwrdd gwasanaeth lleol at ei gilydd i greu grŵp anffurfiol gyda’r bwriad o annog gweithredu yn y gymuned yn ymwneud ag ynni adnewyddadwy, effeithiolrwydd ynni a sefydlu prosiectau cyffyrddadwy, go iawn, yn lleol – gyda phob un yn bwriadu cadw elw a sgiliau yn y gymuned a gweithredu ar newid hinsawdd. Aeth criw bach o aelodau ymroddedig ati i roi trefniant mwy ffurfiol i lywodraethu’r grŵp gan ddod yn Gymdeithas Budd Cymunedol.
Ar gychwyn y rhaglen yn 2012 daeth Neil Lewis, un o gadeiryddion sefydlu’r grŵp, yn Gydlynydd a Mentor ynghyd â Ben Ferguson, y ddau yn cael eu cynnal gan YSG. Roedd y model o weithio yn un oedd yn gweddu’r ddau gan ei fod yn cynnwys ymgysylltiad cymuned a chodi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol, rhywbeth oedd yn bwysig iawn i’r ddau ohonynt. Mantais ariannol oedd y brif fantais i YSG fod yn rhan o Adfywio Cymru yn wreiddiol, gan ei fod yn ffordd o sicrhau arian anghyfyngedig i’r grŵp trwy’r ffi am amser Ben a Neil. Roedd hwn yn arian sefydlog rheolaidd dda. Cyn hynny, yr unig ffynhonnell incwm arall oedd rhaglen Ynni’r Fro, oedd â ffiniau gwariant penodol iawn.
Dywedodd Neil, “Fel sefydliad ifanc, roedd hwn yn help mawr i gael yr arian roedd ei angen i wario ar yr hyn oedd ei angen ar yr adeg, gan fod cronfeydd anghyfyngedig yn werthfawr, ond yn brin!”
Prosiect llwyddiannus cyntaf YSG, ym mis Awst 2012, oedd gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Gar i ddarparu system 10kW yn Ysgol Parc Waundew. Cefnogwyd y broses tendro, cyflawni tystysgrifau rheoliadau adeiladu a’r Dystysgrif Perfformiad Ynni sydd yn ofynnol ar gyfer yr adeilad, fel bod y system yn cael ei fewnosod mewn pryd i’r dyddiad cau cyllido hanfodol o dan y rheolau Tariff Bwydo i Mewn. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach gosodwyd ‘CELT 2’ yn llwyddiannus – tyrbin gwynt 500kW yn Salem. Dyma oedd y tyrbin cyntaf i’r gymuned fod yn berchen arni yn Sir Gar, ac mae wedi bod yn creu trydan i’r grid ac incwm i’r gymuned leol ers 2016. Codwyd y swm anhygoel o £1.2m i dalu am y tyrbin trwy gyfranddaliadau cymunedol, gyda 72% o’r buddsoddwyr yn byw yn Sir Gar. Cawsant enwebiad yng Ngwobrau Ynni Gwyrdd Cymru 2015 yn y categori ‘Ymgysylltu â’r Gymuned’. Maent wedi cyflogi aelodau staff trwy brosiect LEADER Llywodraeth Cymru a bu un aelod staff yn gweithio’n agos iawn gyda’r cyngor Sir i osod lleoliadau gwefru cerbydau trydan. Mae hyn wedi arwain at sefydlu TrydaNi Charge Place Wales Ltd i greu cwmni gwefru Cerbydau Trydan cymunedol ledled Cymru. Maent hefyd wedi bod yn gweithio’n agos gydag Ynni Lleol i geisio cysylltu cynhyrchu adnewyddadwy gyda buddion i gymunedau cynnal.
Mae bod yn rhan o’r rhwydwaith Adfywio Cymru wedi rhoi llwyfan credadwy iddynt, lle gallant helpu i gefnogi grwpiau cymunedol a chaniatáu iddynt ddarganfod datrysiadau i’w problemau. Roeddent yn gallu eistedd i lawr gyda’r grwpiau a gwrando ar yr hyn roeddent yn awyddus i wneud, yn gwybod bod ganddynt hyblygrwydd i’w cefnogi pa un ai os oeddent eisiau cychwyn prosiect tyfu, taclo mater o wastraff neu broblem ynni er esiampl.
Yn ôl Neil, “dyma’r prosiect gorau rwyf wedi gweithio arni erioed yn nhermau hyblygrwydd, a’i natur greadigol yn canolbwyntio ar y gymuned. Roedd yn gyfle hefyd i godi ymwybyddiaeth o weithredu ar newid hinsawdd cyn iddo ddod yn gyffredin”
Yn nhermau’r rhwydwaith ehangach o gydlynwyr, teimlai Ben a Neil bod gwerth mawr o ddod a phobl o’r un meddylfryd at ei gilydd ledled Cymru, i wrando a dysgu o’r hyn oedd yn digwydd mewn rhannau eraill o’r wlad. Cafodd sawl syniad ei drawsffrwythloni yn ystod y sesiynau cymunol!
Mae rhai o brosiectau cyfoes YSG yn cynnwys cyflwyno ynni PV a batris mewn neuaddau bentref, ehangu cyrraedd Clybiau Ynni Lleol a gweithio ledled Cymru yn cynnig lleoliadau gwefru cerbydau trydan. Mae rôl addysgol hefyd – yn gweithio gydag ysgol uwchradd leol i integreiddio datrysiadau newid hinsawdd i mewn i’r cwricwlwm. Mae Ben bellach wedi symud ymlaen i sefydliad arall, a YSG nawr yn cynnal 5 o fentoriaid o fewn y rhwydwaith Adfywio Cymru, ac felly mae’r berthynas, yn nhermau ariannol a rhannu dysgu a phrofiadau, yn parhau.
—————
Awel Aman Tawe
Mae Awel Aman Tawe, (AAT) yn elusen ynni cymunedol cychwynnwyd yn 1999 gan bobl leol. Wedi’i leoli yng Nghwm Aman Uchaf a Chwm Tawe, hen ardal cloddio glo tua 20 milltir i’r gogledd o Abertawe. Y prif bethau sydd yn eu hysgogi ydy taclo newid hinsawdd, creu swyddi, cadw cyfoeth yn yr economi leol ac ennyn diddordeb pobl mewn materion ynni – mae ganddynt enw da hefyd am ddarparu addysg, celf ac ymgysylltiad yn y gymuned.
Pan roedd Adfywio Cymru yn cael ei sefydlu fel rhaglen roedd Dan McCallum, Cyfarwyddwr AAT, yn allweddol i hyn, a daeth yn un o’r cyfarwyddwyr. Roedd AAT yn defnyddio’r cyfleoedd roedd Adfywio Cymru yn ei gynnig ar y cychwyn i geisio sefydlu cydweithfa ynni solar, a daeth y gefnogaeth yma mewn sawl ffurf. I gychwyn, roedd yn caniatáu amser i’r ddau gydlynydd i weithio gyda’r safleoedd unigol er mwyn iddynt ystyried effeithiolrwydd ynni a chynhyrchu ynni. Hyd yn oed pe byddant yn dewis peidio symud ymlaen gyda’r cynllun cydweithfa, roeddent wedi derbyn cefnogaeth i feddwl am greu ynni eu hunain a’u heffeithiolrwydd ynni.
Derbyniodd pob un o’r adeiladau a fynegodd ddiddordeb mewn ymuno â’r gydweithfa Dystysgrif Perfformiad Ynni a gynhaliwyd gan fentor Adfywio Cymru. Ar ôl nodi’r adeiladau oedd â diddordeb mewn symud ymlaen symudwyd ymlaen at y cam nesaf, darparu cefnogaeth gyda’r cynnig cyfranddaliadau yn cael ei gynnig gan Sharenergy, wedi’i drefnu trwy Adfywio Cymru unwaith eto. Roedd hyn yn cynnwys modelu ariannol ar gyfer y cynnig cyfranddaliadau, rhoi cefnogaeth a’r hyder iddynt fod yr hyn roeddent yn ei wneud yn gywir a bod rhywun yno i siarad ac ateb cwestiynau.
Dywedodd Dan, “Roeddem wedi adnabod y gallai Adfywio Cymru gynnig yr amser a’r gofod oedd ei angen ar gyfer datblygu’r model yma, yn y gobaith byddai’n gosod y llwyfan a’r cyfeiriad teithio am y blynyddoedd i ddod, ac i helpu eraill i gyflawni hyn hefyd.”
Fel rhan o’r model, roedd angen sefydlu cydweithfa fydda’n prydlesu toeau adeiladau cymunedol lleol am 20 mlynedd a gosod paneli PV. Sefydlwyd cynnig cyfranddaliadau er mwyn gallu talu am y paneli o flaen llaw, golygai byddai’r cynllun yn gymwys am y Tariff Bwydo i Mewn. Roedd sawl budd i’r cynllun gan gynnwys cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn lleol, rhywfaint o incwm yn cael ei greu ar gyfer pobl leol oedd yn buddsoddi yn y cynllun, incwm i’r Gydweithfa i fuddsoddi i mewn i brosiectau eraill ac, wrth gwrs, ynni am ddim ar gyfer yr adeiladau cymunedol oedd yn cymryd rhan. Lansiwyd cynnig cyfranddaliadau cyntaf Solar Egni Co-op ym mis Chwefror 2014 ac erbyn mis Rhagfyr y flwyddyn honno roedd y paneli PV wedi’u gosod ar yr adeiladau gyda chyfanswm o £171,000 yn cael ei godi.
Ond roedd pethau yn dal i symud ac, o ganlyniad gwaith datblygu parhaol, cyhoeddwyd yn ddiweddar (Mawrth 2021) ei fod yn agos at ei darged o £4m o’r cynnig cyfranddaliadau cydweithfa ddiweddaraf – un o’r rhai mwyaf i’w cyflawni yn y DU. Mae’r adeiladau sydd yn ffurfio rhan o’r cynllun yn cynnwys Felodrom Geraint Thomas yng Nghasnewydd, ynghyd â 84 o leoliadau eraill yng Nghymru – ysgolion, theatrau, canolfannau hamdden a chanolfannau cymunedol. Mae cyfanswm o 4.3MWp wedi cael ei osod bellach.
Cynhyrchwyd adnoddau addysgiadol fel rhan o’r cynllun hefyd, gan gynnwys pecyn dysgu ac offer monitro fel bod ysgolion yn gallu cyfuno data o’r paneli solar mewn gwersi gwahanol, a llyfr dwyieithog darlunedig Arferion Gwyrdd/Green Routines sydd yn amlygu’r ffyrdd i leihau ôl troed carbon. Mae Egni Co-op wedi ennill sawl gwobr rhwng 2015 a 2019 a bellach yn darparu ynni glan i gwsmeriaid Good Energy.
Cofia’i Dan, “Roedd Adfywio Cymru yn hanfodol yn y dyddiau cynnar iawn – yn natblygiad Egni Co-op yn 2014-15. Roedd Adfywio yn gallu darparu amrywiaeth o gefnogaeth arbenigol, hyblyg i waith dichonoldeb ar gyfer y solar toeau a’n Cynnig Cyfranddaliadau cydweithredol. Roedd posib gosod solar ar 6 adeilad cymunedol gan gynnwys mentrau cymdeithasol adnabyddedig fel Canolfan Hyfforddiant Glyn-nedd, y Gweithdy DOVE ac Ysgol y Bedol.”
Mae Awel Co-op yn Gymdeithas Budd Cymunedol gafodd ei sefydlu gan AAT, sydd yn berchen prosiect ac yn cynnal dau dyrbin gwynt Enercon 2.35MW ar Fynydd y Gwrhyd, 20 milltir i’r gogledd o Abertawe. Cychwynnodd yr adeiladu ym mis Mawrth 2016 ac roedd y fferm wynt wedi ei chwblhau yn fuan gyda’r tyrbinau wedi’u comisiynu yng nghanol mis Ionawr 2017. Maent wedi cynhyrchu dros 12,000 MWh bob blwyddyn ers hynny, sydd yn ddigon i roi ynni glan, carbon isel i 2,500 o gartrefi. Llwyddodd nawdd Awel i gynnal ehangiad Egni Co-op a datblygiad Hwb y Gors, canolfan addysg, celf a menter newydd yn hen Ysgol Gynradd Cwm-gors.
Mae’r ffaith ei fod yn Enillydd Gwobr Amgylcheddol Menter Gymdeithasol y DU yn 2019 yn dyst i’r gwaith caled a phenderfyniad y rhai sydd wedi bod yn rhan o Awel Aman Tawe dros y blynyddoedd (ac yn enwedig Dan McCallum, a gafodd gydnabyddiaeth y Frenhines gyda MBE am ei wasanaethau i ynni cymunedol yng Nghymru yn 2018).




