Mae Cwmni Buddiant Cymunedol Canolfan y Celfyddydau Melville yn meddiannu’r prif adeilad ar safle hen Ysgol Ramadeg y Brenin Harri VIII yn Y Fenni – adeilad rhestredig Gradd II Fictoraidd, a godwyd yn 1898. Cafodd yr ysgol ei gau yn 1971 pan drosglwyddwyd y disgyblion olaf i’r ysgol gyfun newydd. Cadwyd y safle gan Gyngor Sir Mynwy ac roedd yn gartref i Theatr Pobl Ifanc Gwent, DanceBlast a Gyrfa Cymru. Ym mis Mawrth 2017 trosglwyddwyd ‘Trwydded i Reoli’r safle’ i Ganolfan y Celfyddydau Melville (CBC CCM) yn dilyn Theatr Pobl Ifanc Gwent (ThPIG) yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.
Cytunodd y Cyngor ar broses dau gam ym mis Ionawr 2019 i drosglwyddo asedau cymunedol y safle i CBC Canolfan y Celfyddydau Melville. Y cam cyntaf yw sicrhau cyllid a chynnal arolygon cynhwysfawr o’r safle, ymgynghori â’r gymuned, creu cynlluniau safle, a sicrhau caniatâd cynllunio amlinellol ac amcangyfrif costau datblygu’r safle. Yr ail gam yw sicrhau cyllid pellach ar gyfer y datblygiad ei hun, sydd yn cynnwys adferiad sensitif gan fod gan yr adeilad statws graddedig. Yn anffodus, mae cyfyngiadau Covid o fis Mawrth 2020 wedi cael effaith mawr ar weithgareddau codi arian y CBC CCM, ac ychydig iawn o gyfarfodydd neu weithgareddau corfforol sydd wedi cael eu cynnal, ond mae Zoom wedi dod yn declyn cyfarwydd gyda’r Bwrdd yn cymryd rhan mewn dwy raglen gymorth a gynhaliwyd gan DTA Cymru- Atebion Mentrus ac Adfywio Cymru.
Daeth Nicola Perkins, un o gydlynwyr lleol Atebion Mentrus, i wybod am y grŵp, â’u cyflwyno i’r rhaglen. Ymunwyd â’r rhaglen ym mis Ionawr 2020. I gychwyn ar gynlluniau’r dyfodol roedd y grŵp yn chwilio am gefnogaeth gyda chynllunio’r busnes, strategaeth marchnata, ymgysylltu â’r gymuned a ffynonellau cyllid.
Cafodd y grŵp eu paru gyda dau fentor gwahanol trwy’r rhaglen Atebion Mentrus. Cynhaliodd Vina Patel ddau weithdy a oedd yn trafod llywodraethu’r grŵp, amcanion tymor byr a thymor hir, cynllun gweithredu/busnes 12-18 mis a chefnogaeth gyda cheisiadau cyllido. Roedd angen hefyd datblygu eu cyfathrebu gyda’u ‘cymuned o ddiddordeb’ fydda’n cryfhau ac yn gwella eu cynlluniau ac yn sicrhau bod pobl leol, chwilfrydig yn rhan gadarn o’r fenter. Bu Rosie Cribb yn gweithio gyda nhw ar holiadur ar-lein (a ddenodd 214 o ymatebion) a hwylusodd dri grŵp ffocws – un gyda chynrychiolwyr o sefydliadau lleol y maent eisoes yn gweithio â nhw, un gyda defnyddwyr cyfredol y ganolfan, a’r llall gyda chyhoedd cyffredinol yr ardal. Mae cynlluniau ar y gweill i gynnal grŵp ffocws arall i gael barn y bobl ifanc. Mae croeso mawr wedi bod yn gyffredinol, gydag oddeutu 137 o bobl wedi cofrestru i helpu a chefnogi’r broses.
Dywedodd Penny Simcock (Cadeirydd CBC CCM):
“Mae’r cymorth cyffredinol gan Atebion Mentrus wedi bod yn gynhyrchiol iawn, gan ganolbwyntio ar ein cryfderau a’n strategaethau gwytnwch, gan adnabod a gweithio ar y camau nesaf yn y ceisiadau grantiau mawr gan gynnwys adolygu cynllun busnes a chyfeirio a’n cynorthwyo i werthuso tebygrwydd cael mynediad i gyllid trwy sefydliadau sydd yn gwobrwyo grantiau mawr…”
Mae’r grŵp CCM yn griw cymysg – gyda llawer iawn o brofiad rheoli a chymdeithasol proffesiynol yn eu plith. Mae pawb eisiau creu lleoliad sydd ddim yn elitaidd, heb unrhyw rwystrau a gyda mynediad rhad i’r celfyddydau yn ei ffurf ehangaf. Mae yna 6 cyfarwyddwr ar hyn o bryd, gan gynnwys aelod Swedeg, sydd yn ychwanegu ei harbenigedd newyddiaduraeth a ffotograffiaeth i’r gymysgedd sgiliau sydd yn bodoli.
Roedd Nicola wedi nodi eu haddasrwydd ar gyfer Adfywio Cymru hefyd, yn eu cyflwyno i’r rhaglen ym mis Chwefror 2020. Roedd angen cymorth arnynt i lunio polisi amgylcheddol addas fydda’n gymorth wrth wneud ceisiadau am gyllid yn ogystal ag archwiliad ynni o adeiladau’r safle. Fel rhan o’r broses Adfywio Cymru, cynhaliwyd sesiwn yn eithaf sydyn i archwilio newid hinsawdd fel mater o bwys a daeth Nicola i’r casgliad, ar y cyfan, eu bod yn wirioneddol ymwybodol o faterion a’r hyn y gallent ei wneud i helpu:
“Yn fwy nac erioed o’r blaen, mae’n bwysig i fod yn gynaliadwy wrth symud ymlaen,” meddai un.
“Rydym yn gweithio gyda chroestoriad eang o’r gymuned ac mae angen i ni ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol, yn ogystal â throi’r adeilad hanesyddol, sydd yn gartref i’n theatr, yn un sydd yn garedig i’r amgylchedd y gorau y gallai fod – i gyrraedd ein targedau lleihau CO2, lleihau costau cyffredinol a’i baratoi ar gyfer y dyfodol,” meddai un arall.
Archwiliwyd yr adeiladau gan Gymunedau Cynaliadwy Cymru ym mis Gorffennaf 2020, a dynnodd sylw at arbedion ynni ac ariannol. Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod gan y safle wariant ynni blynyddol o tua £ 10,800, gyda’r mwyafrif o’r ynni yn cael ei ddefnyddio i wresogi a goleuo. Nodwyd arbedion o bron i £2,800 dros y flwyddyn (gostyngiad costau ynni o 31%) a rhannwyd yr argymhellion yn gamau gweithredu am ddim neu gost isel, ac yna awgrymiadau ar gyfer mesurau mwy o ran maint ac effeithiolrwydd.
Yn dilyn hyn cafwyd mentora gan Margaret Minhinnick fu’n helpu gyda datblygu polisi amgylcheddol, gan ymgorffori gweithrediadau i fynd i’r afael â’r effeithiau amgylcheddol ar ddefnydd ynni’r safle, rheoli gwastraff a rheoli tir. Mae’r grŵp bellach yn hyrwyddo teithio actif ac mae raciau beic eisoes wedi’u gosod yn lle dau ofod parcio car! Dros gyfnod o 12 mis, yn ystod 2020/21, mae’r gefnogaeth yma wedi trawsnewid safbwyntiau’r bwrdd ar effaith amgylcheddol rheolaeth gyfredol y safle ac wedi galluogi’r cyfarwyddwyr i ddod yn rhagweithiol wrth osod targedau ‘amgylcheddol’. Maent wedi sefydlu blaenoriaethau y gellir mynd i’r afael â nhw’n gynyddrannol ac yn effeithiol mewn talpiau bach, ac maent yn cytuno eu bod bellach yn gallu gweithredu mewn meysydd na fyddent erioed wedi’u hystyried cyn derbyn y gefnogaeth!
Y sefyllfa ym mis Mawrth 2021 yw nad yw’r adeilad wedi’i drosglwyddo i’r grŵp eto (gyda gohiriadau gan fod sawl pot cyllido yn agored i weithgareddau Covid yn unig), ond mae pethau wedi cychwyn unwaith eto ac mae cyfarwyddwyr CCM yn anelu at gwblhau eu ceisiadau cyllid mawr cyntaf o fewn dau fis. Cyfnod cyffrous iawn i ddod!
Dywedodd Nicola Perkins:
“Mae wedi bod yn wych gallu cynnig pecyn cymorth wedi’i deilwra i’r Melville, ac wrth dynnu ar y gefnogaeth arbenigol a gynigir gan Adfywio Cymru ac Atebion Mentrus, mae wedi rhoi mynediad gwych i Penny a’r Bwrdd i ystod wych o fentoriaid medrus iawn. Mae’r ddwy gainc o gefnogaeth wedi canmol ei gilydd gan edrych ar bob agwedd ar gynaliadwyedd y Ganolfan; o adnabod eu cwsmeriaid, i gryfhau eu llywodraethu, i leihau effaith amgylcheddol yr adeilad yn ogystal ag amlinellu eu hymrwymiadau amgylcheddol wrth symud ymlaen. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda’r grŵp dros y 15 mis diwethaf ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn tyfu ac yn datblygu fel Canolfan.”



