Sefydlwyd yr hyn sydd yn cael ei adnabod fel Bwyd Bendigedig Port yn 2016 gan Lizzie Wynn a Charissa Buhler. Y sbardun cychwyn oedd pan welodd Lizzie gwelyau plannu uwch eithaf anniben y tu allan i Ganolfan Hamdden Porthmadog. Aeth ati i holi os gall grŵp lleol gymryd cyfrifoldeb dros y gwelyau a gofalu amdanynt. Roedd ei brwdfrydedd tuag at isadeiledd gwyrdd a’r symudiad Bwyd Bendigedig wedi ei hannog i arbrofi gyda’r syniad o dyfu cyhoeddus gan gychwyn yma cyn ehangu i ardaloedd eraill yn y dref. Cytunwyd ar lafar i gychwyn, cyn dilyn gyda chytundeb ffurfiol lle’r oedd angen i’r grŵp gyfansoddi ei hun er mwyn gallu gwneud ceisiadau am arian, gwneud ychydig o waith a chael deunyddiau ac yn y blaen. Dyma oedd cychwyn Bwyd Bendigedig Port / Incredible Edible Porthmadog.
Yn gynnar iawn, gyda niferoedd cynyddol o wirfoddolwyr yn dangos diddordeb neu’n chwilfrydig, y bwriad oedd creu coridor bwytadwy yn ymestyn o’r orsaf drenau, heibio Ysgol Eifion Wyn, y ganolfan hamdden ac yna ymlaen at y stryd fawr. Roedd cais cyntaf y grŵp am arian yn aflwyddiannus ond dyfalbarhawyd, a chawsant lwyddiant trwy Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Caniataodd hyn iddynt gyflogi rheolwr prosiect rhan amser, creu dau adeilad o ddeunyddiau naturiol ac wedi’u hailgylchu ac i sefydlu system compostio gymunedol ar dir Ysgol Eifion Wyn. Mae grwpiau lleol eraill wedi bod yn rhan o’r prosiect hefyd, gan gynnwys disgyblion yr ysgol, trigolion llety byw â chymorth, plant oedd yn derbyn eu haddysg gartref a’u teuluoedd, myfyrwyr lleol yn cwblhau gwobr Dug Caeredin, ynghyd â chefnogaeth y sector cyhoeddus gan swyddfeydd lleol yr Adran Gwaith a Phensiynau fu’n cynllunio diwrnod gwaith.
Yn 2018, gofynnodd y grŵp am gefnogaeth Adfywio Cymru i drefnu strwythur cyfundrefnol, pa gyfeiriad i fynd a chymorth gyda chyllido. Cafwyd cefnogaeth gan Craig ab Iago, un o gydlynwyr Gwynedd, a helpodd y grŵp i greu cynllun gweithredu. Drwy’r broses hon nodwyd pa mor fuddiol fyddai cyngor arbenigol gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, ac felly cyfeiriwyd atynt am gefnogaeth.
Dywedodd Lizzie, “Yn aml, pan fyddech chi’n trafod eich syniadau ar lafar gydag eraill, gallech chi ddod i benderfyniad am beth i’w wneud a sut i’w gyflawni’n eithaf sydyn.”
Cafwyd ymateb gwych i arolwg cymunedol yn 2018 (gan bron i 50 o bobl) a derbyniodd y grŵp gefnogaeth lethol ac adborth cadarnhaol am ei waith.
Mae digwyddiadau cymunedol yn rhan allweddol o weithgareddau’r grŵp, gan gynnwys digwyddiadau ‘garddio agored’, cyfnewidfa planhigion, gwyliau cynhaeaf ac amrywiaeth o gyflwyniadau ar ddulliau garddio ac ati. Mae’r rhain yn derbyn cefnogaeth dda ac yn denu pobl a diddordeb newydd bob tro. Bellach mae dros 20 o bobl yn gwirfoddoli yn y lleoliadau ar amseroedd amrywiol, gyda chraidd cryf o tua 7.
Ym mis Awst 2019 derbyniodd yr ardd y wobr Gardd Gymunedol Fflag Werdd (trwy’r cynllun sydd yn cael ei gefnogi yng Nghymru gan Cadw Cymru’n Daclus a Llywodraeth Cymru) sydd yn cydnabod y gwaith sydd yn digwydd i wella gofodau gwyrdd yn y gymuned.
Mae arwyddion pren deniadol yn nodwedd weladwy iawn ar draws y safle. Cafodd y rhain eu creu gan aelodau grŵp Bwyd Bendigedig yn Ffiws, gofod creu dros dro lleol ym Mhorthmadog. Gyda phren adferedig dysgwyd sgiliau llosgi laser a thorri gyda chyfrifiadur.
Mae nifer iawn o fuddiannau i’r cynllun, gan gynnwys y cyfoeth o ffrwythau, llysiau a pherlysiau ffres sydd ar gael am ddim i drigolion lleol i’w pigo a bwyta, yr ochr gymdeithasol o gyfarfod gyda phobl newydd sydd yn dod at ei gilydd i ofalu am y planhigion, creu ardal sydd yn edrych yn fwy deniadol ac yn gweld mwy o bobl leol allan yn y gymuned yn gyffredinol. Ond mae yna ochr addysgiadol hefyd (ac mae eu statws elusennol newydd yn seiliedig ar hyn) wrth arddangos a dysgu amrywiaeth o brosesau tyfu, a’r gwelliannau i fioamrywiaeth leol – yn cynnig gofodau i beilliad a phryfaid eu mwynhau! Mae’r plannu a’r gofalu wedi dod a grŵp newydd o bobl ynghyd sydd bellach yn dod yn ffrindiau gyda diddordebau tebyg, ac mae’n gyfeillgarwch rhwng cenedlaethau hefyd gyda phlant ifanc (gyda goruchwyliaeth) a rhai yn eu 70au yn cymysgu.
Yn ariannol, mae’r grŵp yn parhau i fuddio o sawl grant bach a phobl leol sydd yn barod i roi amser, sgiliau ac arian weithiau, at yr achos – mae hyn yn helpu gyda phrynu eitemau llai fel offer llaw, planhigion ac ati.
Mae diweddaru pobl yn bwysig iawn ac mae cyfryngau cymdeithasol wedi chwarae rhan allweddol yn llwyddiant y grŵp – mae lluniau yn ffordd dda iawn i ddangos y datblygiadau ar y safle ac i hysbysu pobl leol pryd i fynd i bigo’r cnwd ayb. Mae Lizzie wedi ceisio bod yn bresennol ar y prif safle am yr un amser bob wythnos fel bod cysondeb ac i fod yno pan fydd pobl newydd yn dod draw yn dangos diddordeb yn yr hyn sydd yn digwydd. Yn ddiweddar, bu’r rhaglen S4C Heno draw i ffilmio a helpodd hyn i godi proffil y cynllun yn genedlaethol ac ysbrydoli trefi eraill o bosib.
Mae Lizzie ei hun yn fentor i Adfywio Cymru ac wedi cefnogi dau o grwpiau eraill o fewn ein rhaglen yn ardal Gogledd Cymru. Mae’r grŵp wedi cyrraedd croesffordd yn ddiweddar ar ôl cwblhau ymarfer gweledigaeth ble trafodwyd sawl opsiwn ar gyfer datblygiad byr dymor, tymor canolig a hir dymor… felly gwyliwch y gofod i weld beth ddaw nesaf!
Dywedai Craig ab Iago, Cydlynydd Adfywio Cymru:
“Mae’r holl brosiect yn esiampl wych o weithredu cymunedol ar lawr gwlad yn cael ei arwain gan wirfoddolwyr ymroddedig iawn. Ond y syniad yma o goridor bwytadwy sydd wir yn weledigaethol. Mae wedi bod yno dan drwynau pawb ers blynyddoedd, ond roedd angen math arbennig o berson i weld hynny. Mae coridor cerdded llydan yn cysylltu dwy ysgol, cynhyrchwyr bwyd, canolfan hamdden, yr orsaf heddlu, a chyfleuster tai gofal ychwanegol, i gyd yng nghanol tref wledig ffyniannus. Mae hyn yn ei hun yn newid pethau; yn dangos i bawb sut dylid cynllunio canol pob tref.”



