Mae Struggles 2 Smiles yn sefydliad llawr gwlad bywiog wedi’i leoli yn y Barri. Maent wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag ansicrwydd bwyd a hwyluso cyfleoedd hyfforddi ymarferol i bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig ac amlddiwylliannol. Drwy ddarparu prydau bwyd cymunedol, basgedi bwyd, a ffocws ar arlwyo awyr agored, nid yn unig mae’r elusen yn cefnogi dros 100 o unigolion bob wythnos ond hefyd yn grymuso pobl ifanc gyda sgiliau ymarferol sy’n arwain at fwy o annibyniaeth a chyflogaeth yn y dyfodol.
Daeth y grŵp yn rhan o raglen Egin i dderbyn mentora a chefnogaeth wedi’u teilwra er mwyn datblygu eu nodau cynaliadwyedd ymhellach – yn benodol trwy brosiect acwaponeg arloesol.

Sut Dechreuodd
Wedi’i sefydlu yn 2020, mae Struggles 2 Smiles wedi cyfrannu’n gadarnhaol at eu cymuned trwy amrywiaeth o weithgareddau, er enghraifft, dosbarthu 100–150 o brydau poeth yr wythnos i unigolion a theuluoedd digartref mewn llety â chymorth, a 30–40 o fasgedi bwyd ffres i’r rhai sy’n wynebu ansicrwydd bwyd. Maent hefyd yn trefnu hyfforddiant ieuenctid mewn paratoi bwyd, cigyddiaeth ac arlwyo mewn digwyddiadau cyhoeddus i helpu i gynnal yr elusen a meithrin sgiliau byd go iawn. Ar hyn o bryd, maen nhw’n cefnogi pump o bobl ifanc trwy raglenni hyfforddi strwythuredig.
Roedd y grŵp wedi’u cysylltu â hwylusydd Egin, Lisa Williams, a gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw lunio cynllun gweithredu wedi’i deilwra. Roedd hyn yn cynnwys:
- Rhwydweithio Lleol: Cryfhau cysylltiadau ag elusennau o’r un anian ym Mro Morganwg.
- Mentora: Arweiniad strategol, yn enwedig ym maes dylunio acwaponeg a chyflwyno addysgol.
- Rhannu Gwybodaeth: Datblygu gweithdai, adnoddau a rhaglenni hyfforddi gwirfoddolwyr.
Y brif flaenoriaeth oedd lansio menter acwaponeg – dull cynhyrchu bwyd cynaliadwy sy’n cyfuno ffermio pysgod a thyfu llysiau hydroponig. Mae’r system ddolen gaeëdig hon yn lleihau’r defnydd o ddŵr, yn lleihau’r angen am gemegau, ac yn lleihau ôl troed carbon cynhyrchu bwyd yn sylweddol.
“Roeddwn i wrth fy modd yn helpu Jason i lunio cynllun gweithredu ar gyfer y prosiect acwaponeg uchelgeisiol ac arloesol hwn ac yna ei gysylltu ag un o’n Mentoriaid mwyaf profiadol yn y maes hwn, Derek Cashmore,” meddai Lisa.
Sefydlwyd y prosiect hefyd i ddod yn llwyfan addysgol ar gyfer ffermio trefol, cynaladwyedd, bioamrywiaeth a gwydnwch hinsawdd – gan helpu i newid ymddygiadau tuag at systemau bwyd sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd.
Fel mae Jason Stephens o Struggles 2 Smiles yn ei egluro, “Mae’r prosiect hwn yn hyrwyddo cynhyrchu bwyd lleol, yn lleihau allyriadau cludiant, ac yn grymuso ein cymuned gyda gwybodaeth a sgiliau ymarferol i fyw’n fwy cynaliadwy.”

Gwneud cysylltiadau
Roedd cael yr amser ymroddedig i ganolbwyntio ar weledigaeth yr elusen yn galluogi Jason i estyn allan at sefydliadau eraill i weld a allent ymuno â’i gilydd. Ymatebodd Prifysgol Abertawe â diddordeb yn eu prosiect gan ei fod yn unol â mentrau cyfredol ar eu campws myfyrwyr, gan ddweud yr hoffent helpu i ddatblygu profion peilot gyda myfyrwyr. Cysylltodd hefyd â sefydliadau lleol â gerddi cymunedol, gan gynnig rhannu gwybodaeth am ddulliau ffermio mwy cynaliadwy ac ecogyfeillgar.
Fel rhan o’u cynllun gweithredu, trefnodd Derek, eu mentor Egin penodedig, ymweliad safle â Hwb Glascoed, grŵp a gefnogwyd gan Egin yn y gorffennol. Yng ngwanwyn 2025, aeth Derek â Jason i’w safle ger Brynbuga. Drwy ddiwrnod o drafodaethau a dysgu, llwyddodd Jason i gasglu mewnwelediadau gwerthfawr i’w cymryd adref, gan ei gefnogi i ddatblygu cynlluniau tyfu cnydau ymarferol a chynaliadwy.
Mae Derek yn cofio, “Mae Carl yng Nglascoed a Jason yn Struggles 2 Smiles ill dau yn gymeriadau mawr gyda llwyth o egni, syniadau uchelgeisiol ac awydd cryf i lwyddo. Roedd ganddyn nhw syniadau tebyg iawn o ran acwaponeg a sut i ddefnyddio hynny er budd yr amgylchedd ac i helpu eraill a allai fod ag anawsterau yn eu bywydau.”
Dechreuodd y ddau grŵp hyd yn oed sgyrsiau am ffurfio partneriaeth yn y dyfodol agos a thrafod modelau cydweithredol a fyddai’n cynnwys cyfleoedd posibl i rannu tir ac adnoddau. Roedd tebygrwydd cyffrous rhwng hyfforddiant ieuenctid Struggles 2 Smiles a gwaith cymorth Glascoed gyda chyn-filwyr, gan baratoi’r ffordd ar gyfer uniad cryf a fyddai o fudd mawr i bobl mewn angen.

Edrych i’r Dyfodol
Gyda chefnogaeth gan Egin, mae Struggles 2 Smiles yn adeiladu dyfodol lle mae diogelwch bwyd, gwydnwch hinsawdd, a grymuso pobl ifanc yn mynd law yn llaw. Nid yn unig yw eu prosiect acwaponeg yn ateb amgylcheddol ond yn fodel ar gyfer sut y gall sefydliadau llawr gwlad arwain trawsnewidiad yn eu cymunedau.
Mae eu cysylltiad â Glascoed yn dangos pŵer gweithio gyda mentoriaid Egin sy’n adnabod eu hardaloedd lleol yn dda ac sy’n gallu dod â phobl ynghyd i wneud newid parhaol.
“Mae Egin wedi darparu’r mecanwaith i ddod â’r ddau sefydliad hyn at ei gilydd, gan alluogi ffurfio partneriaeth gydweithredol weithredol,” meddai Derek. “Bydd eu gallu i drawsnewid syniadau bras yn gynllun pendant o fudd i gynifer yn y sector rydyn ni’n ei wasanaethu.”
Roedd Lisa hefyd yn cofio’n gadarnhaol am y profiad: “Mae Struggles 2 Smiles yn gwneud gwaith gwych yn mynd i’r afael ag ansicrwydd bwyd ac yn gweithio gyda phobl ifanc i ddarparu cyfleoedd hyfforddi. Mae Jason wedi gwneud llawer o ymchwil ac wedi meithrin gwybodaeth ragorol am ddyframaeth a sut y gall nid yn unig gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy ond hefyd ddarparu cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer dysgu ac addysg. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae’r prosiect hwn yn datblygu!”
Gallwch ymweld â gwefan a thudalen Facebook Struggles 2 Smiles i gael gwybod mwy.


Comments are closed.