Wedi’i leoli yn y Sblot, mae Oasis yn ganolfan i geiswyr lloches a ffoaduriaid, yn darparu bwyd, gweithgareddau, gwersi Saesneg, gwibdeithiau a mwy.
Cysylltodd Oasis ag Egin am gymorth gydag effeithlonrwydd ynni, rheoli gwastraff, cyngor arbenigol a chefnogaeth gyda cheisiadau am gyllid.
Dechrau arni gydag Egin
Yn 2023, cysylltodd Oasis ag Egin am y tro cyntaf ar ôl mynychu seminar Zoom. Gan weithredu o gyn-eglwys Fethodistaidd yn y Sblot, roedd y tîm yn chwilio am ffyrdd o wella eu defnydd o ynni a gwneud eu hadeilad yn fwy cynaliadwy. Arweiniodd ymweliad cyflym â gwefan Egin a chais am gymorth at gysylltiad â’r hwylusydd Lisa Williams, a brofodd i fod yn ganllaw amhrisiadwy. Fel mae hi’n cofio:
“Gweithiais gyda’r grŵp hwn i’w helpu i ddatblygu Cynllun Gweithredu i gyflawni eu gweledigaeth o wneud eu hadeilad mor effeithlon o ran ynni â phosibl. Roedd Oasis hefyd eisiau edrych ar faint o wastraff maen nhw’n ei gynhyrchu ac adolygu eu harferion caffael i wneud yn siŵr eu bod nhw mor llesol i’r amgylchedd â phosibl. Mae Oasis yn chwarae rhan enfawr yn mynd i’r afael â thlodi bwyd yng Nghaerdydd ac roeddent yn teimlo ei bod yn bwysig gallu cefnogi eu cymuned leol trwy ddarparu gwasanaethau gwerthfawr, prydau cartref blasus a llawer o wahanol weithgareddau a gweithdai. Byddai lleihau eu costau ynni yn eu galluogi i ddefnyddio mwy o’u hadnoddau ar weithio gydag aelodau eu cymuned.”
Un o’r pethau cyntaf a wnaeth Lisa oedd trefnu archwiliad ynni, a ddaeth ar adeg dyngedfennol yn ôl Steve.
Cefnogaeth a Ysgogodd Newid
Cadarnhaodd yr archwiliad lawer o dybiaethau’r tîm, ond yn bwysicach fyth, rhoddodd y dystiolaeth yr oedd ei hangen arnynt i weithredu.
I roi cyd-destun, llwyddodd Oasis i brynu’r hen eglwys Fethodistaidd gan gylchdaith y Methodistiaid yn 2023, ar ôl prydlesu’r eiddo ers 2014. Cwblhawyd y pryniant ar y 3ydd o Orffennaf 2023, gyda chymorth a chefnogaeth amrywiol gyllidwyr gan gynnwys Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth Tudor. Rhoddodd hyn gyfle i Oasis wneud ceisiadau am gyllid nad oeddent wedi gallu ei wneud o’r blaen oherwydd nad oeddent yn berchen ar yr eiddo.
Gyda chymorth cyllid gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin a Clothworkers Foundation, maen nhw bellach wedi cwblhau uwchraddiad mawr: ailosod yr holl doeon, uwchraddio inswleiddiad y to lle y bo’n berthnasol yn unol â rheoliadau cyfredol a gosod 60 o baneli solar, a 2 fanc batri. Mae’r gwelliannau hyn wedi lleihau eu biliau ynni fwy na hanner.
“Roedd ein biliau wedi saethu i fyny i tua £2,400 y mis oherwydd y cynnydd yng nghost ynni byd-eang yn 2021. Nawr maen nhw tua £1,100 y mis. Dyna i ni yw’r gwahaniaeth rhwng talu biliau cyfleustodau uchel a chyflogi aelod o staff i gefnogi ein cleientiaid,” meddai Steve Gardiner, Rheolwr Cyfleusterau yn Oasis.
Penodwyd Sam Holt yn fentor i’r grŵp a rhannodd ei arbenigedd yn ystod sawl trafodaeth fuddiol, gan awgrymu eu bod yn edrych ar arferion defnyddiol fel lleihau gwastraff bwyd a chasglu dŵr.
“Y prif beth oedd troi ffrwd wastraff ar y safle yn ffrwd adnoddau gyda phroses ddiogel, a all fwydo’r safle neu gynhyrchu incwm cynaliadwy drwy ddarparu cyflyrydd pridd i’r gymuned,” cofia Sam. “Gan eu bod yn sefydliad bwyd ar raddfa fawr, y dewis gorau oedd compostiwr poeth sy’n ddigon mawr i ymdopi â’u hallbynnau gwastraff bwyd ac i ffitio yn eu gofod.” Arbedodd y newid hwn o drin â llaw hyd at dair gwaith y gost iddynt.

Buddsoddi mewn Adeilad – a’i Bobl
Nawr bod Oasis yn berchen ar yr adeilad, maen nhw’n parhau i’w ddatblygu.
Y cam nesaf? Amnewid ffenestri i wneud y lle hyd yn oed yn fwy cyfforddus ac effeithlon.
“Rydym am wella ein cyfleusterau nid yn unig ar gyfer staff, ond ar gyfer cleientiaid, gwirfoddolwyr, a’r gymuned ehangach,” meddai Steve.
I lawer o bobl, mae’r adeilad yn fwy na lleoliad – mae’n ail gartref diogel. Mae Oasis yn gweithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac yn sicrhau bod y gofod yn groesawgar ac yn gynnes fel rhan o’r gofal maen nhw’n ei gynnig.
“Nid oedd yr adeilad wedi gweld buddsoddiad ers degawdau. Ni chafodd ei adeiladu ar gyfer ein lefel defnydd bresennol. Nawr, rydyn ni’n rhoi’r cariad a’r gofal iddo y mae’n ei haeddu.”
Gwerthoedd Amgylcheddol, Effaith Ymarferol
Nid cysur yn unig yw gwella’r adeilad – mae hefyd yn ymwneud â chynaladwyedd.
“Rydw i wastad wedi bod eisiau gwella pethau o safbwynt amgylcheddol. Fe wnaeth archwiliad Egin ein helpu i ddechrau meddwl am yr hyn oedd yn bosibl.”
Diolch i’r newidiadau a gefnogwyd gan Egin, mae’r sefydliad bellach yn gweld ei safle fel rhan o’i genhadaeth: lleihau allyriadau carbon ochr yn ochr â chryfhau gwydnwch cymunedol.
Pŵer Gofod Cadarnhaol
Crynhodd ymweliad diweddar gan gynghorydd lleol o Gaerdydd y cyfan yn berffaith:
“Gallwch chi ddweud bod hwn yn ofod cymunedol sy’n cael ei garu.”
Nid yw’r gwelliannau’n rhai i’r adeilad yn unig – maent yn emosiynol ac yn symbolaidd. Mae’r adeilad bellach yn adlewyrchu gwerthoedd y rhai sy’n ei ddefnyddio a’r rhai sy’n gofalu amdano.
“Rydym eisiau cyfleuster deniadol i bawb. Dyma lle mae pobl yn teimlo’n gartrefol.”
Y Newid Mwyaf Arwyddocaol?
“Y paneli solar a’r batris, heb os. Mae’r newid hwnnw wedi bod yn enfawr o ran gwelededd ac arbedion.”
Edrych i’r Dyfodol
Mae tîm Oasis yn parhau i wneud cais am gyllid a gwella eu hadeilad.
Er eu bod yn brysur gyda gweithrediadau o ddydd i ddydd, maen nhw’n gwybod bod cefnogaeth Egin yno bob amser fel sylfaen.
“Bydd popeth y mae Egin wedi’i roi inni yn parhau i arwain ein meddwl. Hyd yn oed pan nad ydym wrthi’n cydweithio, rydym yn gwybod y gallwn fynd yn ôl atynt.”

Myfyrdodau ar y Daith
Fel mae Steve yn crynhoi, “Mae’r profiad cyfan wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae wedi rhoi lle inni feddwl, cynllunio a gweithredu.”
Er bod pwysau amser (a Covid) yn golygu bod cyfranogiad weithiau wedi bod yn brin, mae’r gefnogaeth wyneb yn wyneb ac ymarferol wedi gwneud gwahaniaeth parhaol.
Ewch i wefan Oasis yma, neu dilynwch nhw ar Facebook, LinkedIn, Instagram a BlueSky.


Comments are closed.