
Mae’r digwyddiad hwn dan arweiniad ein Hwylusydd Egin, Lizzie Wynn.
Ymunwch â ni ar gyfer Sbwriel i Trysor – gweithdy sy’n arddangos y potensial creadigol o ailddefnyddio a phwrpasu deunyddiau, gan droi gwastraff yn rhywbeth gwerthfawr. Mae’r sesiwn wedi’i chynllunio i ymgysylltu â’r gymuned leol, annog arferion cynaliadwy, ac ysbrydoli meddwl arloesol am ailddefnyddio.
Byddwn yn dechrau gyda sgyrsiau diddorol a dangosiadau ymarferol gan gyfranwyr allweddol, gan gynnwys cynrychiolwyr o Repair Cafe Wales, gweithdy maker Ffiws Porthmadog, ac ailbwrpaswr dillad, a fydd yn rhannu eu harbenigedd mewn ailbwrpasu ac ailddefnyddio creadigol. Yn dilyn y sgyrsiau, bydd cyfle i’r rhai sy’n bresennol archwilio gerddi cymunedol Porthmadog, sy’n dangos sut y gellir trawsnewid deunyddiau wedi’u taflu yn elfennau defnyddiol a hardd ar gyfer y gerddi.
Mae’r digwyddiad hwn yn ddelfrydol ar gyfer clybiau lleol, grwpiau cymunedol, ysgolion, ac unigolion chwilfrydig sydd â diddordeb mewn cynaliadwyedd. Gyda chyfleoedd i gysylltu, dysgu, a rhannu syniadau, bydd cyfranogwyr yn gadael yn ysbrydoledig i fabwysiadu arferion ailddefnyddio yn lle prynu newydd.
Mae yr digwyddiad yma yn di-gost!
Dyddiad: 22 Chwefror 2025
Amser: 10.30am – 1pm

