Ydych chi’n ystyried ôl-osod eich adeilad cymunedol? Dewch i weld sut mae’n gweithio yn ymarferol.
Ymunwch â’n sesiwn ffrydio byw o Oasis Caerdydd, lle byddwn yn cael taith o amgylch yr adeilad gan Elfed, arbenigwr mewn effeithlonrwydd ynni ac ôl-osod. Dyma gyfle i glywed yn uniongyrchol am y broses, yr heriau ar hyd y ffordd, a’r gwersi a ddysgwyd wrth gyflawni prosiect go iawn.
Dysgwch gan ganolfan gymunedol sydd eisoes wedi cymryd y camau — ac ystyriwch beth allai hyn olygu i’ch adeilad chi.
📅 Dyddiad: 28/04/2026
⏰ Amser: 11- 12pm
💻 Ar-lein (Cofrestrwch yma!)
Cyfle i ofyn cwestiynau a dysgu o brofiad go iawn.


